Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Ymchwilio i hanes lleol, hanes eich teulu neu hanes eich cartref

Oes gennych chi ddiddordeb mewn hanes ond yn ansicr sut i fynd ati i gael gwybod mwy? Efallai eich bod yn dymuno dysgu mwy am hanes eich teulu, eich ardal, neu'ch cartref. Dewch i gael gwybod sut mae dechrau arni a pha ffynonellau gwybodaeth y gallwch eu defnyddio.

Hanes eich teulu

Os mai megis dechrau ar eich ymchwil i hanes eich teulu yr ydych chi, mae'r canllawiau i ddechreuwyr ar wefan y consortiwm Cofnodion Teulu yn fan cychwyn da. Fe'i cynlluniwyd fel porth i'ch arwain at y ffynonellau gwybodaeth a'r dogfennau y bydd eu hangen arnoch (nid yw'r safle hwn yn cynnwys unrhyw gofnodion am unigolion).

Mae gwefan yr Archifau Cenedlaethol yn rhoi awgrymiadau ar gyfer dechrau arni, cyfarwyddiadau cam wrth gam a chanllawiau manwl ar ymchwilio i hanes teulu. Gallwch hefyd chwilio drwy luniau o gofnodion gwreiddiol, gan gynnwys cyfrifiadau 1841 i 1901, ewyllysiau a chofnodion milwrol. Gallwch lawrlwytho'r rhain hefyd. Cewch chwilio am ddim, ond codir ffi fechan am lawrlwytho.

Gall gweithio gyda phobl eraill fod yn help hefyd; beth am weld a oes unrhyw gyrsiau ar hanes y teulu'n cael eu cynnal yn lleol? Ymwelwch â'r tudalennau ar gyfer oedolion sy'n dysgu ar Directgov am fwy o wybodaeth.

Hanes lleol

Y lle gorau i ddechrau ymchwilio i hanes lleol gan amlaf yw yn yr ardal y mae gennych ddiddordeb ynddi. Cewch weld bod gan y rhan fwyaf o gynghorau sir, awdurdodau unedol a rhai cynghorau tref mawr naill ai swyddfa gofnodion, gwasanaeth archifau neu lyfrgell astudiaethau lleol.

Mae'r Cyfeiriadur ARCHON yn cynnwys manylion cyswllt ar gyfer storfeydd cofnodion yn y Deyrnas Unedig a hefyd ar gyfer sefydliadau mewn mannau eraill yn y byd sydd â chasgliadau sylweddol o lawysgrifau a gaiff eu rhestru dan y mynegai i'r Gofrestr Archifau Genedlaethol. Gallwch ddefnyddio Cyfeiriadur ARCHON i ddod o hyd i'r gwasanaethau sydd ar gael yn eich ardal chi.

Gallwch ddysgu mwy am ymchwil i hanes lleol wrth edrych ar y canllawiau i ddechreuwyr ar wefan yr Archifau Cenedlaethol. Ceir yma hefyd wybodaeth am adnoddau ar-lein, digwyddiadau a llyfrau sydd ar gael i'ch helpu.

Ymchwilio mewn mynwentydd ac edrych ar gofnodion claddu

Cysylltwch â'ch cyngor lleol am fwy o wybodaeth am edrych ar gofnodion claddu

Ymchwilio genedigaethau, marwolaethau a phriodasau

Bydd eich awdurdod lleol yn lle da i ddechrau chwilio pan fyddwch yn ymchwilio i enedigaethau, marwolaethau a phriodasau.

Hanes eich cartref

A ydych wedi meddwl am ymchwilio i hanes eich cartref? Gall fod yn brosiect diddorol a gallwch ymchwilio i ddau faes:

  • pwy oedd perchnogion yr eiddo a phwy fu'n byw yno
  • hanes ei adeiladu a'i bensaernïaeth

Yn aml iawn, bydd yr un ffynonellau'n ddefnyddiol ar gyfer y ddau faes. Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth ar wefan yr Archifau Cenedlaethol sy'n cynnwys tudalennau sy'n rhoi cyflwyniad i'r ffynonellau hyn, dolenni at fudiadau a rhestr o lyfrau defnyddiol. Y man cychwyn gorau yw'r canllaw cam wrth gam i hanes tai.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU