Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Sut i apelio yn erbyn penderfyniad budd-dal

Os byddwch chi'n meddwl bod penderfyniad am eich budd-daliadau'n anghywir, gofynnwch i'r swyddfa a wnaeth y penderfyniad ei esbonio. Gallwch hefyd ofyn am gael ailystyried y penderfyniad, ac os ydych chi'n dal i fod yn anhapus, fe allwch apelio i dribiwnlys annibynnol yn erbyn y penderfyniad.

Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad ynghylch budd-dal

Pan fydd y swyddfa budd-daliadau'n anfon llythyr atoch am eu penderfyniad, os nad ydych chi'n cytuno, gallwch ofyn iddyn nhw'i esbonio neu ei ailystyried.

Os ydych chi'n anhapus ar ôl iddyn nhw ailystyried y penderfyniad, gallwch apelio.

Cewch ofyn am esboniad am bob penderfyniad neu ofyn am eu hailystyried, ond ni ellir apelio yn erbyn rhai penderfyniadau am fudd-daliadau.

Er enghraifft, chewch chi ddim apelio yn erbyn penderfyniadau am Fenthyciadau Cyllidebu, Grantiau Gofal yn y Gymuned, neu Fenthyciadau Argyfwng. Bydd y llythyr sy'n cynnwys y penderfyniad yn ei gwneud hi'n glir os na chewch chi apelio.

Terfynau amser

Bydd gennych fis:

  • ar ôl cael penderfyniad i ofyn am gael esboniad, ailystyried y penderfyniad neu apelio
  • ar ôl derbyn penderfyniad sydd wedi'i ailystyried, i gychwyn apêl

Mae'n bosib y derbynnir apêl hwyr os oes amgylchiadau arbennig wedi'ch rhwystro chi rhag apelio mewn pryd, ond chewch chi ddim gwneud hyn os oes mwy na 13 mis wedi mynd heibio.

Sut mae apelio

Fel arfer, cynhwysir gwybodaeth am sut i apelio yn y llythyr sy'n rhoi'r penderfyniad.

Gan amlaf, bydd hyn yn golygu llenwi'r ffurflen apelio yn y daflen: 'Os credwch fod ein penderfyniad yn anghywir', a'i phostio i'r swyddfa budd-daliadau sy'n delio â'ch hawliad.

Gallwch godi'r daflen yn eich swyddfa budd-daliadau leol neu ei llwytho, isod, oddi ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Ond os ydych chi'n apelio yn yr achosion hyn, dilynwch y drefn isod:

Cynhaliaeth Plant

Os nad ydych chi'n cytuno â phenderfyniad gan yr Asiantaeth Cynnal Plant (CSA), gallwch gysylltu â'r ganolfan CSA a wnaeth y penderfyniad. (Bydd eu manylion cysylltu ar y llythyr sy'n esbonio'r penderfyniad.)

Os nad ydych chi'n hapus â'r canlyniad, gallwch ysgrifennu at Uned Apeliadau Canolog y CSA.

Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Cyngor

Eich cyngor lleol sy'n delio â'r budd-daliadau hyn, felly fel arfer byddech yn cysylltu â swyddfa'ch cyngor lleol i holi am eu penderfyniad a dilyn eu trefn apelio.

Dilynwch y dolenni isod at wefan eich awdurdod lleol er mwyn cael gwybod rhagor.

Budd-daliadau i bobl anabl

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y Lwfans Byw i'r Anabl neu'r Lwfans Gweini, ffoniwch Llinell Gymorth Lwfans Byw i'r Anabl neu Lwfans Gweini, 08457 123 456, ffôn testun 08457 224 433 (rhwng 7.30 am a 6.30 pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener).

Os nad ydych yn fodlon gyda'r canlyniadau, efallai y gallwch apelio gan ddefnyddio'r ffurflen yn nhaflen yr Adran Gwaith a Phensiynau 'Os credwch fod ein penderfyniad yn anghywir'.

Credydau treth

Cyllid a Thollau EM sy'n gwneud penderfyniadau am gredydau treth.

Gallwch lwytho'r ffurflen apelio ar-lein neu gallwch ffonio llinell gymorth Credydau Treth.

Os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr a'r Alban ffoniwch 0845 300 3900, ffôn testun 0845 300 3909.

Os ydych chi'n byw yng Ngogledd Iwerddon, ffoniwch 0845 603 2000, ffôn testun 0845 607 6078.

Mae'r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00 am a 8.00 pm.

Budd-dal Plant a Lwfans Gwarcheidwad

Mae Cyllid a Thollau EM hefyd yn delio â'r budd-daliadau hyn, ac mae ffurflenni apelio ar gael ar-lein neu drwy ffonio'r llinell gymorth.

Os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, gallwch ffonio llinell gymorth Cyllid a Thollau EM 0845 302 1444, ffôn testun 0845 302 1474.

Os ydych chi'n byw yng Ngogledd Iwerddon, ffoniwch 0845 603 2000, ffôn testun 0845 607 6078.

Mae'r llinellau ar agor rhwng 8.00 am a 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener

Tribiwnlys Apeliadau Nawdd Cymdeithasol a Chymorth Plant

Gall y Tribiwnlys Apeliadau Nawdd Cymdeithasol a Chymorth Plant egluro'r drefn a'ch helpu drwy'r broses apelio. Mae digonedd o wybodaeth i'w gael ar wefan y Tribiwnlys Apeliadau Nawdd Cymdeithasol a Chymorth Plant, gan gynnwys gwybodaeth ar ffurf hawdd ei darllen.

Gallwch hefyd archebu taflenni gwybodaeth drwy'r Llinell Taflenni Cwsmeriaid ar 08700 852611, typetalk 18001 08700 852611. Codir cyfradd leol am alwadau.

Pwy sy'n gwrando'r apêl?

Tribiwnlys fydd yn gwrando'r apêl; panel o hyd at dri aelod, gydag un ohonynt yn gymwys yn gyfreithiol.

Ceir dau fath o wrandawiad tribiwnlys:

  • gwrandawiad llafar - lle byddwch chi neu'ch cynrychiolydd yn cael bod yn bresennol i drafod eich apêl
  • gwrandawiad papur - lle na fyddwch chi na'ch cynrychiolydd yn bresennol, ac y penderfynir ar yr achos ar sail y dystiolaeth ysgrifenedig

Cyngor a help gyda'ch apêl

Bydd rhai sefydliadau'n cynnig help a chyngor (rhai ohonynt am ddim) gyda'ch apêl, gan gynnwys:

  • Canolfan Cyngor ar Bopeth (CAB)
  • grwpiau hawliau lles lleol
  • undebau llafur
  • canolfannau'r gyfraith
  • twrneiod
  • Age Concern

Bydd CAB yn eich helpu i lenwi ffurflenni ac mae'n bosib y byddan nhw'n fodlon dod i'r gwrandawiad gyda chi. Neu, gofynnwch i gynghorydd, cyfaill neu aelod o'r teulu apelio ar eich rhan.

Cymorth ariannol

Mae'n bosib y gallwch chi hawlio rhywfaint o gostau teithio am fynd i dribiwnlys, ond chewch chi ddim hawlio am gostau cyfreithiol a ffioedd twrneiod - hyd yn oed os enillwch chi.

Os collwch chi'r apêl

Os nad ydych chi'n cytuno â phenderfyniad y tribiwnlys, dim ond dan yr amgylchiadau canlynol y cewch chi ei herio:

  • chawsoch chi ddim dogfen a ddefnyddiwyd yn y gwrandawiad
  • doeddech chi ddim yn y gwrandawiad er eich bod chi'n dymuno bod yno

Ond os credwch fod y tribiwnlys wedi gwneud camgymeriad wrth roi'r gyfraith ar waith, fe allwch ofyn am ganiatâd i apelio i Gomisiynydd Nawdd Cymdeithasol neu Gomisiynydd Cynnal Plant.

Allweddumynediad llywodraeth y DU