Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gwneud cais am rif Yswiriant Gwladol

Os, am ryw reswm, nad oes gennych rif YG, mae'n bosib gwneud cais am un. Bydd rhaid i chi gael rhif dan rai amgylchiadau, i hawlio budd-dal, er enghraifft.

Beth yw rhif Yswiriant Gwladol?

Mae pob rhif YG yn wahanol. Mae'n cynnwys llythrennau a rhifau fel hyn:

QQ 12 34 56 A.

(Cofiwch mai dim ond rhif enghreifftiol yw'r Rhif Yswiriant Gwladol hwn, ac ni ddylech ei ddefnyddio fel eich rhif chi'ch hun).

Eich rhif personol chi'ch hun yw eich rhif YG a bydd yr un rhif gennych drwy'ch oes. Dim ond chi gaiff ei ddefnyddio.

Cadwch y rhif hwn yn ddiogel gan y gall troseddwyr ei ddefnyddio i ddwyn eich manylion personol

Defnyddir eich rhif YG fel cyfeirif ar gyfer yr holl system budd-daliadau a chredydau treth. Fe'i defnyddir hefyd ar gyfer:

  • tynnu treth ac Yswiriant Gwladol drwy'r drefn Talu wrth Ennill (PAYE)
  • cofnodi eich hawl i Bensiwn y Wladwriaeth
  • Lwfans Ceisio Gwaith
  • hawlio Budd-dal Tai

Derbyn Rhif Yswiriant Gwladol yn awtomatig

Fe gewch eich cofrestru'n awtomatig ac fe anfonir rhif YG atoch fymryn cyn eich pen-blwydd yn 16 oed:

  • os ydych chi'n byw yn un o wledydd Prydain
  • os ydy'ch rhieni neu'ch gwarcheidwaid yn cael Budd-dal Plant ar eich cyfer

Pryd i wneud cais am rif Yswiriant Gwladol

Os oes angen i chi hawlio budd-dal (neu os bydd angen i'ch partner hawlio budd-dal ar eich cyfer chi) bydd rhaid i chi wneud cais am rif YG os nad oes gennych un eisoes. Cewch wneud cais os ydych chi'n 16 oed neu'n hŷn a'ch bod yn byw yn un o wledydd Prydain.

Fe gewch wneud cais am rif YG hefyd:

  • os ydych chi'n dechrau gweithio
  • os ydych chi'n dechrau bod yn hunangyflogedig
  • os ydych chi'n chwilio am waith
  • os ydych chi'n dymuno gwneud cyfraniadau YG gwirfoddol ac y byddech chi'n cael budd o'u talu

Sut i wneud cais

Os oes angen rhif YG arnoch er mwyn hawlio budd-daliadau, gwneir hyn fel rhan o'r broses hawlio pan fyddwch chi neu'ch partner yn hawlio budd-daliadau.

Os ydych am wneud cais am rif YG er mwyn dechrau gweithio neu wneud cyfraniadau gwirfoddol, ffoniwch 0845 600 0643 (rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener). Bydd y Ganolfan Byd Gwaith:

  • yn gwneud yn siŵr bod angen rhif YG arnoch
  • yn gwneud yn siŵr nad oes gennych rif YG yn barod

Os nad oes gennych rif YG a bod angen un arnoch, bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn trefnu cyfweliad Profi pwy ydych chi (EOI) ar eich cyfer. Bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn cadarnhau dyddiad, amser a lleoliad y cyfweliad, a bydd yn dweud wrthych pa wybodaeth/dogfennau y dylech ddod â nhw gyda chi i'r cyfweliad.

Cyfweliad 'profi pwy ydych chi'

Bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn defnyddio'r cyfweliad hwn i wneud yn siŵr mai chi yw'r person y dywedwch yr ydych chi, eich bod yn gymwys i weithio yn y Deyrnas Unedig, lle bydd hynny'n berthnasol, ac i ddiogelu eich cyfrifon nawdd cymdeithasol ac yswiriant gwladol.

Beth i'w ddisgwyl

Fel rheol, cyfweliad un-wrth-un fydd hwn (oni bai fod angen cyfieithydd arnoch, er enghraifft). Bydd y cyfwelydd yn gofyn cwestiynau i chi ynghylch pwy ydych chi, pam mae arnoch eisiau rhif YG, eich cefndir a'ch amgylchiadau. Bydd y cyfwelydd hefyd yn gofyn am gael gweld yr wybodaeth/dogfennau y gofynnwyd i chi ddod â nhw gyda chi i'r cyfweliad. Yn ystod y cyfweliad bydd angen llenwi cais am ffurflen rhif YG a gofynnir i chi lofnodi'r ffurflen hon.

Os nad oes gennych unrhyw ddogfennau swyddogol

Os nad oes gennych unrhyw ddogfennau swyddogol, bydd yn rhaid i chi fynd i'r cyfweliad o hyd. Mae'n bosibl y bydd yr wybodaeth a ddarparwch yn ddigon i brofi pwy ydych chi.

Beth sy’n digwydd ar ôl y cyfweliad?

Os cwblhawyd y broses ymgeisio yn y cyfweliad, bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi a fu eich cais yn llwyddiannus ai peidio.

Os gwnaeth y Ganolfan Byd Gwaith drefniadau yn y cyfweliad i chi ddarparu rhagor o wybodaeth iddynt, bydd gofyn i chi wneud hyn erbyn y dyddiad y cytunwyd arno. Bydd hyn yn galluogi'r Ganolfan Byd Gwaith i gwblhau'r broses ymgeisio, a byddant wedyn yn ysgrifennu atoch.

Os ydych chi wedi colli neu'n methu cofio'ch rhif YG

Os ydych chi'n meddwl bod gennych chi rif yn barod ond na allwch ei gofio, mae'n bosib y gallwch ddod o hyd iddo ar waith papur swyddogol sydd gennych gartref, er enghraifft:

  • eich datganiad treth ddiwedd blwyddyn (P60)
  • papur cyflog
  • copi o'ch ffurflen dreth flynyddol
  • gohebiaeth swyddogol arall

Nid yw eich rhif YG byth yn newid, hyd yn oed os byddwch yn mynd dramor, yn priodi neu'n cofrestru fel partner sifil, yn newid eich enw ac ati.

Os na allwch chi ddod o hyd i'ch rhif ar ôl chwilio, cysylltwch â'ch Canolfan Byd Gwaith leol, eich swyddfa nawdd cymdeithasol neu Swyddfa Cyfraniadau YG Cyllid a Thollau EM, ac fe gewch wybod beth i'w wneud.

Os ydych chi wedi colli'ch cerdyn rhif YG

Os ydych chi wedi colli'ch cerdyn rhif YG, dywedwch wrth eich Canolfan Byd Gwaith leol. I gael cerdyn newydd yn lle'r hen un, bydd rhaid i chi lenwi ffurflen gais. Dim ond un cerdyn newydd gewch chi.

Allweddumynediad llywodraeth y DU