Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Deall y system budd-daliadau

Mae'r system budd-daliadau'n cynnig help ymarferol a chymorth ariannol os ydych chi'n ddi-waith ac yn chwilio am waith. Mae hefyd yn cynnig rhywfaint o incwm ychwanegol ar eich cyfer pan fydd eich enillion yn isel, os ydych chi'n magu plant, wedi ymddeol, yn gofalu am rywun, yn sâl neu fod gennych anabledd.

Pwy sy'n talu budd-daliadau

Yr Adran Gwaith a Phensiynau (AGP) sy'n rheoli'r rhan fwyaf o fudd-daliadau drwy gyfrwng swyddfeydd y Ganolfan Byd Gwaith. Bydd budd-daliadau a'r taliadau y mae gan bensiynwyr yr hawl iddyn nhw yn cael eu trin mewn rhwydwaith o ganolfannau pensiwn sy'n cynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb i'r sawl sydd ag angen help a chymorth ychwanegol. Hefyd, byddwch chi'n delio'n aml ag asiantaethau neu adrannau eraill y llywodraeth, megis eich cyngor lleol neu Gyllid a Thollau EM.

Pobl oedran gweithio

Rheolir budd-daliadau a gwasanaethau i bobl o oedran gweithio, er enghraifft y Lwfans Ceisio Gwaith, gan swyddfeydd y Ganolfan Byd Gwaith o gwmpas y wlad.

Bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn eich helpu gyda'r canlynol:

  • dod o hyd i waith
  • dechrau eich busnes eich hun
  • ymdopi ar incwm isel
  • salwch neu ddamweiniau a achosir gan waith

Pensiynwyr a phobl sy'n cynllunio ar gyfer eu hymddeoliad

Mae'r Gwasanaeth Pensiwn, sy'n rhan o'r Adran Gwaith a Phensiynau, yn darparu gwasanaethau ar gyfer:

  • unrhyw un sy'n cynllunio ar gyfer ymddeol
  • pobl sy'n nesáu at ymddeol
  • pobl sydd wedi ymddeol yn barod
  • cyflogwyr
  • darparwyr a chynghorwyr ym maes pensiynau

Mae'r Gwasanaeth Pensiwn yn gofalu am fudd-daliadau a hawliau pobl i daliadau megis Pensiwn y Wladwriaeth, Pensiwn Credyd a'r Taliadau Tanwydd Gaeaf.

Teuluoedd a phlant

Mae'r Ganolfan Byd Gwaith yn gofalu am fudd-daliadau a gwasanaethau i deuluoedd, gan gynnwys:

  • magu plant, gan gynnwys plant sydd ag anghenion arbennig
  • ymdopi ar incwm isel, gan gynnwys helpu gyda chostau iechyd

Mae'r Asiantaeth Cynnal Plant yn rhan o'r Adran Gwaith a Phensiynau ac mae'n gyfrifol am redeg y system cynnal plant. Mae'n asesu, yn casglu ac yn talu cynhaliaeth plant.

Mae Cyllid a Thollau EM yn delio â Budd-dal Plant, Lwfans Gwarcheidwad a chredydau treth.

Pobl anabl a'u gofalwyr

Mae'r Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr, sy'n rhan o'r Adran Gwaith a Phensiynau, yn gyfrifol am fudd-daliadau a gwasanaethau i bobl sy'n sâl neu sydd ag anabledd, er enghraifft, Lwfans Byw i'r Anabl a'r Lwfans Gweini.

Eich Canolfan Byd Gwaith leol yw'r pwynt cyswllt cyntaf i gael gwybod mwy am y budd-daliadau a'r gwasanaethau hyn.

Budd-dâl Tai a Budd-dâl Treth Gyngor

Eich cyngor lleol sy'n gofalu am eich Budd-dâl Tai a'ch Budd-dal Treth Gyngor.

Pwy gaiff hawlio budd-daliadau

I fod yn gymwys am fudd-dal penodol, rhaid i chi fodloni'r amodau a bennir gan y llywodraeth. Er enghraifft, er mwyn hawlio budd-dal Plant, rhaid i chi fod yn gyfrifol am fagu plentyn.

I wneud cais am fudd-dal, fel arfer, bydd rhaid i chi lenwi ffurflen gais a darparu gwybodaeth gefndir.

Sut caiff budd-daliadau eu talu

Os byddwch chi'n derbyn budd-daliadau neu Bensiwn y Wladwriaeth, fel arfer bydd y llywodraeth yn defnyddio Taliad Uniongyrchol i drosglwyddo'r arian i un o'r cyfrifon hyn:

  • cyfrif banc neu'ch cyfrif cymdeithas adeiladu
  • Cyfrif Cerdyn Swyddfa'r Post
  • Cyfrif Cynilo Mynediad Rhwydd Cynilion Cenedlaethol

Fodd bynnag, bydd rhai taliadau'n cael eu trin yn wahanol. Er enghraifft, gellir talu'r Budd-dal Tai yn syth i'ch landlord.

Os ydych chi'n byw mewn tw cyngor, mae'n bosib y byddwch chi'n derbyn eich Budd-dal Tai fel gostyngiad ar eich rhent a'r Budd-dal Treth Gyngor fel gostyngiad ar eich bil Treth Gyngor.

Ble i gael cyngor

Canolfan Byd Gwaith

Os ydych chi o oed gweithio, bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn cynnig cyngor am y gwahanol fudd-daliadau y cewch chi'u hawlio. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa leol ar wefan y Ganolfan Byd Gwaith neu yn y llyfr ffôn lleol dan Asiantaeth Budd-daliadau.

Y Gwasanaeth Pensiwn

Os mai pensiynwr ydych chi neu'ch bod wrthi'n paratoi i ymddeol, cysylltwch â'r Gwasanaeth Pensiwn i gael gwybodaeth am bensiynau a budd-daliadau cysylltiedig.

Cyngor Ar Bopeth (CAB)

I gael cyngor annibynnol am ddim ynghylch budd-daliadau, cysylltwch â'ch canolfan CAB leol.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU