Sut y telir budd-daliadau a phensiynau
Taliad Uniongyrchol yw'r ffordd arferol o dalu budd-daliadau a phensiynau. Mae'n ddull diogel, cyfleus ac effeithlon o dalu sy'n sicrhau bod amrywiaeth eang o wasanaethau ariannol ar gael i gwsmeriaid.
Cyfrif banc a chymdeithas adeiladu
Pan gaiff budd-daliadau a phensiynau eu talu drwy Daliad Uniongyrchol, cânt eu talu'n uniongyrchol i gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu.
Manteision defnyddio cyfrif banc/cymdeithas adeiladu
- Dewis – drwy ddefnyddio banc neu gymdeithas adeiladu, bydd gennych yr hyblygrwydd o godi arian o amrywiaeth o lefydd pan fydd ei angen arnoch. Mae hyn yn cynnwys amrywiaeth eang o fanciau a pheiriannau arian, a gellir defnyddio nifer o gyfrifon banc y stryd fawr yn Swyddfa'r Post®
- Cyfleustra – bydd talu budd-daliadau ac unrhyw arian arall (megis cyflog, pensiynau galwedigaethol neu sieciau personol) i un cyfrif cyfleus yn helpu i gadw rheolaeth dros eich arian a'ch cyllidebau'n fwy effeithiol
- Gostyngiadau – bydd talu biliau drwy ddebyd uniongyrchol yn golygu y gall cwsmeriaid fanteisio ar ostyngiadau a gynigir gan rai cwmnïau gwasanaethau megis cyflenwyr nwy a thrydan
- Tawelwch meddwl – drwy drefnu unwaith i dalu biliau rheolaidd drwy ddebyd uniongyrchol, sy'n broses gyflym a rhwydd, ni fydd angen i chi byth boeni am fethu taliad eto
- Diogelwch – cedwir arian mewn man diogel, sy'n rhoi ffordd syml a diogel i chi reoli eich arian
- Bod yn barod i weithio – bydd nifer o gyflogwyr eisiau talu cyflog yn uniongyrchol i gyfrif banc
Cyfrif Cerdyn Swyddfa’r Post
Mae contract presennol cyfrif cerdyn Swyddfa'r Post yn dod i ben ym mis Mawrth 2010. Bydd cyfrif newydd ar gael gyda nodweddion tebyg i gyfrif cerdyn Swyddfa'r Post.
Beth os bydd rhywun arall yn casglu'ch budd-dal?
Os oes angen cymorth arnoch i gasglu eich budd-dal neu daliad pensiwn, gallwch drefnu bod rhywun arall yn gwneud hynny drosoch.