Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Hawlio budd-daliadau yn Ewrop

Cefnogir eich hawliau i hawlio budd-daliadau, credydau treth neu gymorth ariannol arall gan drefniadau nawdd cymdeithasol rhwng y DU a gwledydd eraill yn Ardal Economaidd Ewrop (AEE). Golyga hyn y bydd hi'n bosib i chi gael budd-daliadau'r DU pan fyddwch yn byw dramor mewn rhai gwledydd penodol.

Pwy gaiff hawlio budd-daliadau yn Ardal Economaidd Ewrop (AEE)?

Mae'n bosib y gallech chi gael budd-daliadau a chymorth ariannol arall os bydd un o'r canlynol yn berthnasol i chi:

  • eich bod wedi byw, wedi gweithio neu wedi astudio (cymhwyster gyrfa cydnabyddedig) mewn gwlad yn AEE
  • eich bod yn berson heb wladwriaeth neu'n ffoadur ac rydych yn byw mewn gwlad yn AEE
  • eich bod yn ddibynnydd neu'n weddw i rywun a oedd yn dod dan y rheoliadau (waeth beth fo'ch cenedl)
  • eich bod yn weddw neu'n blentyn i rywun a fu'n gweithio mewn gwlad yn AEE nad oedd yn ddinesydd AEE nac yn berson heb wladwriaeth neu'n ffoadur (ond rhaid i chi fod yn ddinesydd o'r wlad honno)
  • nad ydych yn ddinesydd AEE nac yn ddinesydd y Swistir ond rydych yn byw'n gyfreithlon yn y DU
  • eich bod wedi byw yn y wlad AEE yn ddigon hir i fod yn gymwys

Beth yw gwledydd AEE?

Mae rhai gwledydd sydd â threfniadau budd-daliadau neu gytundebau cyd-fuddiannol gyda'r DU. (Mae'r DU yn cynnwys Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ond nid Ynysoedd y Sianel nac Ynys Manaw.)

Golyga hyn y bydd hi'n bosib i chi gael budd-daliadau yn y gwledydd canlynol:

  • Awstria
  • Gwlad Belg
  • Bwlgaria
  • Cyprus
  • Gweriniaeth Tsiec
  • Denmarc
  • Estonia
  • Y Ffindir
  • Ffrainc
  • Yr Almaen
  • Groeg
  • Hwngari
  • Gwlad yr Iâ
  • Iwerddon
  • Yr Eidal
  • Latfia
  • Liechtenstein
  • Lithwania
  • Luxembourg
  • Malta
  • yr Iseldiroedd
  • Norwy
  • Gwlad Pwyl
  • Portiwgal
  • Rwmania
  • Slofacia
  • Slofenia
  • Sbaen
  • Sweden

Gwledydd eraill

Dyma'r gwledydd sy'n dilyn trefniadau nawdd cymdeithasol gyda'r DU ond ag amodau arbennig:

  • Y Swistir
  • Gibraltar

Hawlio Budd-daliadau'r DU yng ngwledydd eraill AEE

Efallai y bydd hi'n bosib i chi gael budd-daliadau wrth fyw, wrth weithio neu wrth astudio cymhwyster gyrfa dramor.

Ond mae'n bwysig eich bod yn cysylltu â'ch swyddfa fudd-daliadau os byddwch yn bwriadu byw mewn gwlad arall dros dro neu am byth.

Lwfans Ceisio Gwaith

Os ydych chi o oed gweithio ond yn ddi-waith ac yn chwilio'n ddiwyd am waith, mae'n bosibl y gallwch chi gael y Lwfans Ceisio Gwaith.

Ceir dau fath o Lwfans Ceisio Gwaith, y naill yn seiliedig ar gyfraniadau a'r llall yn seiliedig ar incwm. Bydd pa un gewch chi'n dibynnu ar faint o gyfraniadau Yswiriant Gwladol rydych chi wedi'u talu yn y gorffennol.

Budd-daliadau disgwyl neu fagu plant

Tâl Mamolaeth Statudol

I'ch helpu i gael amser o'r gwaith pan fyddwch chi'n cael babi, mae'n bosibl y gallwch gael Tâl Mamolaeth Statudol os yw'r canlynol yn berthnasol i chi:

  • rydych wedi gweithio i gyflogwr yn y DU am o leiaf 26 wythnos tan y 15fed wythnos cyn geni'ch plentyn; a
  • rydych yn ennill o leiaf £90 yr wythnos ar gyfartaledd (cyn treth)

Lwfans Mamolaeth

Os nad ydych chi'n gallu cael Tâl Mamolaeth Statudol, mae'n bosib y gallwch chi gael Lwfans Mamolaeth i'ch helpu i gael amser o'r gwaith pan fyddwch yn disgwyl neu fod gennych fabi newydd.

I fod yn gymwys ar gyfer Lwfans Mamolaeth:

  • rhaid i chi fod wedi bod yn gyflogedig neu'n hunangyflogedig am o leiaf 26 allan o'r 66 wythnos cyn y dyddiad geni tebygol; ac
  • wedi ennill £30 ar gyfartaledd mewn unrhyw 13 wythnos yn y 66 wythnos cyn wythnos geni’ch plentyn

 

Budd-dal Plant

Byddwch yn gallu cael Budd-dal Plant os ydych chi'n magu plentyn neu berson ifanc:

  • dan 16 oed
  • person ifanc dan 19 (dan 20 mewn rhai achosion) sydd naill ai'n astudio mewn addysg amser llawn heb fod yn addysg uwch (Lefel A neu gymhwyster cyfatebol) neu ar raglen hyfforddi a ariennir gan y llywodraeth
  • yn 16 neu'n 17 oed, wedi gadael yr ysgol ac wedi cofrestru i weithio neu hyfforddi gyda'r Gwasanaeth Gyrfaoedd neu Connexions neu wasanaeth tebyg

Credyd Treth Plant

Gall pob teulu â phlant gael Credyd Treth Plant os ydynt yn cael incwm o hyd at £58,175 y flwyddyn (neu £66,350 os oes un plentyn dan un oed). Does dim rhaid i chi fod yn rhiant i'r plentyn i fod yn gymwys, ond rhaid mai chi yw'r prif berson sy'n gyfrifol amdanyn nhw.

Mae dwy ran i'r taliad:

  • elfen i'r teulu a delir i unrhyw deulu sydd ag o leiaf un plentyn ac mae hon yn werth hyd at £545 (blwyddyn dreth 2008-09)
  • elfen i'r plentyn a delir i bob plentyn yn y teulu ac mae hon yn werth hyd at £2,085 (blwyddyn dreth 2008-09)

Efallai y cewch fwy os ydych yn gofalu am blentyn dan flwydd, neu blentyn anabl.

Credyd Treth Gwaith

Bwriedir i'r Credyd Treth Gwaith helpu pobl ar incwm isel, boed y rheini'n gyflogedig neu'n hunangyflogedig ac fe all gynnwys cymorth ar gyfer gofal plant cymwys.

Efallai y bydd hi'n bosib i chi gael cymorth ychwanegol os byddwch yn gweithio 30 neu ragor o oriau bob wythnos, yn anabl neu'n 50 oed neu drosodd ac yn dychwelyd i'r gwaith ar ôl bod ar fudd-dal.

Lwfans Gwarcheidwad

Os ydych chi'n magu plentyn neu blant a'ch bod yn derbyn Budd-dal Plant, efallai y bydd hi'n bosib i chi hawlio Lwfans Gwarcheidwad os bydd naill ai dau riant y plentyn neu un ohonynt wedi marw a bod un o'r canlynol yn berthnasol:

  • dydych chi ddim yn gwybod ymhle mae'r rhiant sy'n dal yn fyw
  • bod y rhieni wedi cael ysgariad (mae rhai amodau'n berthnasol i hyn)
  • bod y rhiant sy'n dal yn fyw yn y carchar a bod ganddo/ganddi o leiaf ddwy flynedd ar ôl o'r ddedfryd, neu ei fod/bod wedi'i gadw/chadw'n gaeth mewn ysbyty dan orchymyn llys (mae rhai rheoleiddiadau'n berthnasol i hyn)

Budd-daliadau - yn sâl neu wedi anafu

Tâl Salwch Statudol

Os na allwch chi weithio oherwydd eich bod yn sâl, mae'n bosib y gallwch chi gael Tâl Salwch Statudol gan eich cyflogwr am hyd at 28 wythnos.

Os ydych chi'n gweithio i gyflogwr dan gontract gwasanaeth (hyd yn oed os mai dim ond newydd ddechrau ydych chi), bydd gennych hawl i'r Tâl Salwch Statudol, os yw'r canlynol i gyd yn berthnasol:

  • eich bod yn sâl am o leiaf bedwar diwrnod o'r bron (gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc); ac
  • eich bod yn ennill o leiaf £90 yr wythnos ar gyfartaledd

Budd-dal Analluogrwydd

Efallai y bydd hi'n bosib i chi gael Budd-dal Analluogrwydd os na allwch chi weithio oherwydd salwch neu anabledd a'ch bod o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth, sef 60 i fenywod a 65 i ddynion.

I fod yn gymwys ar gyfer Budd-dal Analluogrwydd rhaid i unrhyw un o'r canlynol fod yn berthnasol:

  • bod eich Tâl Salwch Statudol wedi dod i ben, neu os nad oes modd i chi ei gael
  • os oeddech o dan oed Pensiwn y Wladwriaeth pan aethoch chi'n sâl

neu mae'n rhaid i chi:

  • fod rhwng 16 a 20 oed (neu o dan 25 oed os oeddech ar gwrs addysg neu hyfforddiant am o leiaf dri mis yn union cyn eich pen-blwydd yn 20)
  • fod wedi bod yn rhy sâl i weithio oherwydd afiechyd neu anabledd am o leiaf 28 wythnos
  • fod wedi bod yn rhy sâl i weithio cyn eich pen-blwydd yn 20 oed (neu o dan 25 oed os oeddech ar gwrs addysg neu hyfforddiant am o leiaf dri mis yn union cyn eich pen-blwydd yn 20)

Lwfans Anabledd Difrifol

Allwch chi ddim hawlio o'r newydd am Lwfans Anabledd Difrifol.

Ond os ydych chi eisoes yn derbyn y lwfans, efallai y bydd hi'n bosib i chi ei hawlio mewn gwlad arall yn AEE os nad oeddech wedi gallu gweithio am o leiaf 28 wythnos o'r bron oherwydd salwch neu anabledd cyn 6 Ebrill 2001.

Damweiniau, clefydau a byddardod yn y gwaith

Efallai y bydd hi'n bosib i chi hawlio Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol oherwydd damweiniau yn y gwaith, neu ddamweiniau sy'n gysylltiedig â'r gwaith, os bydd unrhyw un o'r canlynol yn berthnasol:

  • os oeddech yn gyflogedig pan ddigwyddodd y ddamwain neu'r digwyddiad
  • os digwyddodd y ddamwain neu'r digwyddiad a achosodd eich salwch neu'ch anabledd yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban (mae 'na rai eithriadau i hyn - holwch eich Canolfan Byd Gwaith leol)

Neu efallai y gallwch hawlio Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol oherwydd clefydau a byddardod a achoswyd gan fathau penodol o waith.

Budd-daliadau anabledd

Os ydych chi’n berson anabl neu'n ofalwr, ni fydd modd i chi fel arfer dderbyn budd-daliadau anabledd megis Lwfans Byw i'r Anabl neu Lwfans Gweini wrth fyw dramor (yng ngwledydd eraill AEE) yn barhaol. Ond efallai y byddwch yn gallu cael budd-daliadau anabledd ar eich gwyliau.

Budd-daliadau Profedigaeth

Os bu farw eich partner neu'ch partner sifil o ganlyniad i ddamwain, clefyd diwydiannol neu yn ystod rhyfel, efallai y bydd hi'n bosib i chi gael budd-daliadau profedigaeth.

Taliad Profedigaeth

Efallai y byddwch chi'n gymwys ar gyfer Taliad Profedigaeth os oedd eich gŵr, eich gwraig neu'ch partner sifil wedi talu eu cyfraniadau Yswiriant Gwladol neu os achoswyd eu marwolaeth gan eu swydd a naill ai:

  • eich bod o dan oed Pensiwn y Wladwriaeth pan fuont farw

neu

  • bod eich gŵr, eich gwraig neu'ch partner sifil yn anghymwys i gael Budd-dal Ymddeol Categori A y wladwriaeth pan fuont farw

Pensiwn Gweddwon Rhyfel

Os bu farw eich gŵr, eich gwraig neu'ch partner sifil yn gwasanaethu yn Lluoedd Arfog Ei Mawrhydi (EM) neu yn ystod rhyfel, efallai y bydd gennych hawl i dderbyn Pensiwn Rhyfel Gwraig Weddw neu Ŵr Gweddw.

Pensiwn y Wladwriaeth

Efallai bod gennych hawl i gael Pensiwn y Wladwriaeth:

  • os ydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth; 60 i fenywod ar hyn o bryd (ond bydd yn newid i 65 rhwng 2010 a 2020) a 65 i ddynion
  • os oes gennych chi (neu eich gŵr, eich gwraig neu eich partner sifil) ddigon o flynyddoedd cymwys ar sail eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol

I gael gwybod am eich hawliau mewn gwlad arall yn AEE, bydd angen i chi gysylltu â'r awdurdodau sy'n rhedeg y cynllun pensiwn yn y wlad honno.

Taliadau Tanwydd Gaeaf

Efallai y bydd hi'n bosib i chi gael Taliadau Tanwydd Gaeaf i'ch helpu i dalu am gadw'n gynnes yn y gaeaf. Fel arfer, telir y budd-dal erbyn y Nadolig.

Mae'n bosib y cewch Daliad Tanwydd Gaeaf os yw'r canlynol yn berthnasol:

  • os ydych chi'n 60 oed neu'n hŷn yn ystod y cyfnod 18 i 24 Medi 2006
  • rydych chi fel arfer yn byw yn y Deyrnas Unedig

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU