Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Beth i'w wneud os telir gormod o fudd-dal

Os telir gormod o fudd-dal i chi, fe'i gelwir yn 'ordaliad'. Mae'n bwysig i chi roi gwybod am unrhyw ordaliadau i'r swyddfa sy'n delio â'ch budd-dal cyn gynted â phosib a'ch bod yn ateb unrhyw lythyrau a gewch ynghylch hynny'n brydlon.

Pam y gall gordaliadau ddigwydd

Fel arfer bydd gordaliadau'n digwydd pan na fydd eich budd-dal wedi'i addasu i gyd-fynd â'ch amgylchiadau newydd. Os yw'ch amgylchiadau wedi newid, mae'n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i'r swyddfa sy'n delio â'ch budd-dal ar unwaith. Gall camgymeriadau gweinyddol achosi gordaliadau hefyd.

Dyma rai enghreifftiau o'r newidiadau y dylech roi gwybod amdanynt:

  • dechrau gweithio
  • newid swydd neu newid oriau gwaith
  • newid yn eich incwm
  • symud tŷ
  • cyflwr eich iechyd yn newid - efallai fod salwch neu anabledd wedi gwella neu waethygu
  • eich plentyn yn gadael cartref
  • rhoi cartref i letywr
  • symud i fyw at bartner, neu bartner yn symud i fyw atoch chi

Sut y byddwch yn gwybod os talwyd gormod i chi?

Cewch lythyr yn dweud wrthych os talwyd gormod o fudd-dal i chi. Fel arfer, bydd y llythyr yn dweud wrthych:

  • faint yn ormod yr ydych chi wedi'i gael
  • pam y bu i'r gordaliad ddigwydd
  • a oes rhaid i chi dalu'r arian yn ôl
  • a allwch chi apelio yn erbyn y penderfyniad a wnaed ynghylch y gordaliad
  • beth sy'n mynd i ddigwydd nesaf

Os ydych chi'n meddwl eich bod wedi derbyn gormod o fudd-dal ond heb glywed dim, peidiwch ag aros i'ch swyddfa fudd-daliadau gysylltu â chi. Cysylltwch â nhw ar unwaith i egluro'r sefyllfa. Byddan nhw'n archwilio i'r mater ac yn dweud wrthych a ydy'r swm yr ydych yn ei gael fel budd-dal yn gywir.

Os na fyddwch yn datgan gordaliad

Os ydych chi'n gwybod eich bod wedi cael gordaliad ond yn gwneud dim amdano, gellir eich amau o gyflawni twyll budd-dal. Mae hyn yr un fath â pheidio'n fwriadol â rhoi gwybod am newid yn eich amgylchiadau personol. Os cewch eich erlyn am dwyll budd-dal, yn ogystal â gorfod ad-dalu'r arian a ordalwyd i chi, gallwch wynebu dirwy neu ddedfryd o garchar.

Oes rhaid i chi dalu'r arian yn ôl?

Os eich bai chi oedd y gordaliad - efallai na wnaethoch roi gwybod am newid yn eich amgylchiadau neu y gwnaethoch roi gwybodaeth anghywir - bydd yn rhaid i chi dalu'r cyfan yn ôl. Os camgymeriad gweinyddol a achosodd y gordaliad, efallai y bydd gofyn i chi ei dalu'n ôl, yn enwedig os gellid disgwyl yn rhesymol i chi sylweddoli eich bod yn cael eich gordalu.

Budd-dal Tai a Budd-dal y Dreth Gyngor

Os bu gordaliad o ganlyniad i gamgymeriad gweinyddol, efallai y bydd gofyn i chi ei ad-dalu os gellid disgwyl yn rhesymol i chi sylweddoli eich bod yn cael eich gordalu.

Credydau treth

Bydd Cyllid a Thollau EM yn anfon hysbysiad dyfarniad atoch pryd bynnag y bydd eich dyfarniad yn newid. Byddant yn gofyn i chi wneud yn siŵr bod y wybodaeth am eich amgylchiadau personol sydd ar eich dyfarniad yn gywir ac yn gyflawn. Os oes unrhyw beth yn anghywir, ar goll neu'n anghyflawn bydd angen i chi gysylltu â Chyllid a Thollau EM. I gael mwy o wybodaeth ynghylch sut mae Cyllid a Thollau EM yn delio â gordaliadau credydau treth, llwythwch y daflen ganlynol gan Gyllid a Thollau EM: 'Beth fydd yn digwydd os byddwn wedi talu gormod o gredyd treth i chi?'

Budd-daliadau anabledd

O bryd i'w gilydd, adolygir faint o fudd-daliadau anabledd a gewch os byddwch yn derbyn unrhyw un o'r canlynol:

  • Lwfans Byw i’r Anabl
  • Lwfans Gweini
  • Budd-dal Analluogrwydd
  • Y 'premiwm anabledd' gyda budd-dal arall megis Cymhorthdal Incwm neu Fudd-dal Tai

Os bydd eich cyflwr wedi gwella pan gynhelir yr adolygiad, efallai na fyddwch yn gymwys ar gyfer derbyn budd-dal mwyach. Ni fydd gofyn i chi ad-dalu unrhyw beth y byddwch eisoes wedi'i dderbyn oni bai y byddai wedi bod yn rhesymol i chi sylweddoli y byddai'r gwellhad yn eich iechyd yn effeithio ar faint o fudd-dal y byddech yn ei dderbyn.

Sut mae talu'r gordaliadau yn ôl

Os nad ydych yn derbyn y budd-dal a ordalwyd erbyn hyn, byddwch fel arfer yn derbyn bil i dalu'r gordaliadau.

Cyn i chi ddechrau gwneud ad-daliadau, rhoddir amser i chi wneud y canlynol:

  • dweud os ydych chi’n meddwl bod y penderfyniad i'ch gorfodi i ad-dalu'r arian yn anghywir
  • cytuno ar gynllun ad-dalu gyda'r swyddfa sy'n delio gyda'ch budd-dal

Os ydych yn dal i dderbyn y budd-dal, caiff swm penodol ei dynnu oddi ar eich budd-dal nes byddwch wedi talu'r gordaliad cyfan yn ôl. Mae gennych hawl i apelio yn erbyn y rhan fwyaf o ordaliadau; fel arfer, tynnir arian o'ch budd-dal ymhen un mis calendr o'r dyddiad y rhoddwyd gwybod i chi am y gordaliad.

Bydd gan rai budd-daliadau eu gweithdrefnau eu hunain ar gyfer talu gordaliad yn ôl.

Budd-dal Tai

Os caiff Budd-dal Tai ei dalu'n syth i'ch landlord, gellir gofyn iddo ef neu hi ad-dalu'r arian. Ond os mai eich bai chi oedd y gordaliad, efallai mai chi fydd yn gorfod ei ad-dalu.

Credydau treth

Fel arfer, caiff eich dyfarniad credydau treth ei leihau nes bydd yr arian wedi'i dalu'n ôl. Bydd cyfanswm y gostyngiad yn dibynnu ar fath a swm eich dyfarniad. Os nad ydych yn gymwys ar gyfer credydau treth mwyach, gallwch ad-dalu'r arian mewn taliad unswm neu mewn rhandaliadau.

Sut i apelio

Mae gennych hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau a wneir am eich budd-daliadau - gan gynnwys y rhan fwyaf o ordaliadau. Gallwch hefyd apelio yn erbyn y ffordd y cafodd eich achos ei drin.

Ble i gael help a chyngor

Gallwch ofyn i'r swyddfa sy'n delio â'ch budd-dal eich helpu gyda'ch ymholiadau gan gynnwys cwestiynau am ordaliadau. Mae cyngor annibynnol ar gael am ddim gan y Ganolfan Cyngor Ar Bopeth hefyd.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU