Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Budd-daliadau i garcharorion

Os ydych yn y carchar neu wedi cael eich cadw yn y ddalfa, mae fel arfer yn golygu y bydd eich hawl i fudd-dal yn dod i ben; os oes arian yn ddyledus i chi gallwch wneud cais ysgrifenedig i’r rhain gael eu talu i rywun arall.

Os yw’ch partner wedi mynd i’r carchar efallai y byddwch chi’n parhau â hawl i fudd-dal cyn belled eich bod yn bodloni’r amodau hawl am y budd-dal yn eich enw eich hun.

Beth sydd ar gael pan rydych yn mynd i’r carchar

Cynhelir Cymorthfeydd Cyflogaeth a Budd-daliadau ym mhob carchar sy’n gofyn am y gwasanaeth. Os ydych yn mynd i’r carchar byddwch yn gallu cau eich ceisiadau a chael unrhyw arian sy’n ddyledus i chi.

Os ydych yn y ddalfa ar ddedfryd fer

Os byddwch yn mynd i’r ddalfa ar ddedfryd fer bydd cais yn cael ei wneud ar eich rhan gan Ymgynghorydd Gwasanaeth Cyflogaeth a Budd-daliadau’r Ganolfan Byd Gwaith i weld os gall eich cyflogwr gadw eich swydd yn agored i chi.

Cyn i chi gael eich rhyddhau o’r carchar

Tra y byddwch yn parhau i fod yn y carchar byddwch yn gallu siarad ag Ymgynghorydd Gwasanaeth Cyflogaeth a Budd-daliadau am addysg a hyfforddiant a’ch helpu i chwilio am waith.

Hefyd gall yr ymgynghorydd roi gwybodaeth i chi am fudd-daliadau a’r Gronfa Gymdeithasol, a allai eich helpu’n ariannol pan fyddwch yn cael eich rhyddhau yn y lle cyntaf.

Beth i’w wneud pan fyddwch yn cael eich rhyddhau

Os nad ydych wedi cael mynediad at Ymgynghorydd Gwasanaeth Cyflogaeth a Budd-daliadau yn y carchar, mae’n rhaid i chi gysylltu â’r Ganolfan Byd Gwaith ar unwaith i sicrhau eich bod yn cael cymorth i chwilio am swydd ac i osgoi unrhyw oedi gyda thaliadau.

Cynnig Newydd

Mae rhaglen a adnabyddir fel Cynnig Newydd i chi ei ddefnyddio. Os ydych am wneud cais am Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) bydd y rhaglen yn eich helpu i drefnu Cyfweliad Ceisiwr Gwaith Newydd cyn gynted â phosibl ar ôl i chi gael eich rhyddhau. Bydd y rhaglen yn sicrhau eich bod mewn cysylltiad â’r Ganolfan Byd Gwaith cyn gynted â phosibl i ystyried swyddi a hyfforddiant yn ogystal â delio â’ch cais am JSA.

Os ydych yn bwriadu gwneud cais am fathau eraill o fudd-daliadau bydd angen i chi gysylltu â’r Ganolfan Byd Gwaith gan y byddant yn dweud wrthych pwy y dylech gysylltu â hwy.

 Gallwch wneud cais cyn gynted ag y byddwch yn gadael y carchar.

Gallwch gysylltu â’r Ganolfan Byd Gwaith i wneud cais ar 0800 0121888.

Os oes gennych nam ar eich clyw neu nam ar eich lleferydd, mae gwasanaeth ffôn testun ar gael ar 01248 674808.

Beth sy’n digwydd pan fyddwch yn cael eich rhyddhau ar ‘Drwydded Diwedd Dedfryd’

Os byddwch yn cael eich rhyddhau ar ‘Drwydded Diwedd Dedfryd’ ni fyddwch yn gallu hawlio’r mwyafrif o fudd-daliadau; dylech gael cyngor am hyn tra rydych yn y carchar. Fodd bynnag, er mwyn sicrhau nad ydych o dan anfantais mae arian ar gael gan Y Weinyddiaeth Gyfiawnder a fydd yn cwmpasu cyfnod y drwydded yn unig – a allai fod hyd at 18 diwrnod.

Gwneir y taliad mewn tri cham a gweithredir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ar ran Y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Gall y taliad gael ei wneud mewn arian parod, siec neu drwy ddefnyddio cyfrif banc o’ch dewis chi.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y taliadau hyn gallwch ffonio’r llinell gymorth: 02920 381 111

Allweddumynediad llywodraeth y DU