Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Budd-daliadau ar gyfer pobl nad ydynt yn wladolion y DU

Os byddwch yn dod i’r Deyrnas Unedig efallai byddwch yn gymwys i gael help ariannol. I gael yr help hwn mae’n rhaid i chi allu profi preswylio a’ch bod wedi cofrestru fel gweithiwr.

Budd-daliadau ar gyfer pobl nad ydynt yn wladolion y DU

Y budd-daliadau efallai y gallech eu cael yw:

  • Credyd Pensiwn
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
  • Budd-dal Tai
  • Budd-dal Treth Cyngor
  • Lwfans Byw i’r Anabl
  • Lwfans Gweini a Lwfans Gofalwr

Cymhwyster

Bydd eich cymhwyster i gael y budd-daliadau hyn yn dibynnu ar eich statws mewnfudo ac os ydych yn chwilio am gyflogaeth ac yn gallu gwneud cais am fudd-daliadau yn yr un ffordd â gwladolyn y DU. Dilynwch y cyswllt isod i ddarganfod os ydych wedi cofrestru neu angen cofrestru.

Yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA)

Os ydych yn wladolyn o'r EEA ac yn arddel hawl Cytuniad i chwilio am a chymryd gwaith, mae angen i chi ddangos bod gennych 'hawl i breswylio' a'ch bod yn 'breswylydd arferol' yn y DU, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon.

Y budd-daliadau y gallai fod gennych hawl i'w cael

Mae gwahanol fathau o bobl nad ydynt yn wladolion y DU, mae’r adrannau canlynol yn dweud wrthych am rai o’r grwpiau a'r budd-daliadau y gallai fod gennych hawl i'w cael os ydych yn rhan o un ohonynt. Nid yw'r rhestr hon yn gyflawn ac efallai bod rhai eithriadau i'r rheolau hyn.

Gwladolion trydedd wlad (gwladolion gwlad nad yw yn yr UE) gyda chaniatâd cyfyngedig gan gynnwys deiliaid trwydded gwaith, priod a phartneriaid sifil - yn ystod y cyfnod prawf o ddwy flynedd ni fyddwch fel arfer yn gallu cael unrhyw fudd-daliadau.

Ceiswyr lloches ac yn amddifad (hy rydych yn ddigartref neu'n methu prynu bwyd) - efallai y caiff cymorth ariannol ei ddarparu gan y Swyddfa Gartref - am ragor o wybodaeth dilynwch y cyswllt isod.

Ffoadur neu rywun sydd wedi cael Diogelwch Dyngarol / Caniatâd Disgresiwn-byddwch yn gallu gwneud cais am fudd-daliadau yn yr un ffordd â gwladolyn o'r DU - dilynwch y cyswllt isod i weld pa fudd-daliadau y gallai fod gennych hawl i'w cael.

Person â chaniatâd amhendant i gael mynediad / aros - bydd gennych fel arfer yr un hawl i fudd-daliadau â dinasyddion y DU oni bai bod Noddwr o'r DU wedi cytuno i ariannu eich arhosiad yn y DU, sy'n golygu na fydd gennych hawl i gael unrhyw fudd-daliadau. Os nad ydych wedi cael eich noddi dilynwch y cyswllt isod i wirio pa fudd-daliadau y gallai fod gennych hawl i'w cael.

Gwladolyn EEA sy'n arddel hawliau Cytuniad, er enghraifft fel gweithiwr neu berson hunangyflogedig - mae gennych hawl i gael budd-daliadau ar yr un sail â dinasyddion y DU, cyn belled â'ch bod yn bodloni'r meini prawf cymhwyster perthnasol ar gyfer y budd-daliadau hynny. Ni fydd y rhai hynny sy'n economaidd anweithgar, gan gynnwys gwladolion A8 ac A2 (gweler isod) fel arfer â hawl i gael budd-daliadau sy'n gysylltiedig ag incwm.

Gwladolyn A8 (gwladolion Estonia, Gweriniaeth Tsiec, Gwlad Pwyl, Hwngari, Latfia, Lithwania, Slofacia a Slofenia ) ac yn gweithio ac wedi cofrestru ar y Cynllun Cofrestru Gweithwyr, neu os rydych yn hunangyflogedig bydd gennych hawl i gael Tai Cymdeithasol, Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Cyngor. Yn dilyn 12 mis o gyflogaeth barhaus fel gweithiwr cofrestredig, byddwch yn cael statws EEA llawn a bydd gennych hawl i gael budd-daliadau ar yr un sail â gwladolion presennol yr EEA - os ydych yn bodloni'r rheol 12 mis, dilynwch y cyswllt isod i weld pa fudd-daliadau y gallai fod gennych hawl i'w cael.

Gwladolyn A2 (gwladolion Bwlgaria a Romania) ac yn weithiwr sgil isel, bydd angen i chi gofrestru â'r Cynllun Awdurdodiad Gweithwyr (WAS) oni bai eich bod ar y Rhaglen Mudwyr Medrus neu wedi cael eich derbyn i'r DU â thrwydded gwaith cyn 31 Rhagfyr 2006.

Tra'ch bod wedi cofrestru â'r Cynllun Awdurdodiad Gweithwyr mae gennych hawl i gael Tai Cymdeithasol, Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Cyngor. Ar ôl 12 mis o gyflogaeth barhaus fel gweithiwr cofrestredig, cewch EEA llawn a bydd gennych hawl i gael budd-daliadau ar yr un sail â gwladolion presennol yr EEA - os ydych yn bodloni'r rheol 12 mis, dilynwch y cyswllt isod i weld pa fudd-daliadau y gallai fod gennych hawl i'w cael.

Os nad ydych yn siŵr pa gategori rydych ynddo neu os oes angen mwy o wybodaeth arnoch cysylltwch:

  • â'ch Canolfan Byd Gwaith a Chanolfannau Pensiwn lleol ar gyfer budd-daliadau sy'n gysylltiedig ag incwm
  • â'ch awdurdod lleol ar gyfer Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Cyngor
  • Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi ar gyfer Credydau Treth
  • y Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr ar gyfer Budd-daliadau Anabledd
  • Asiantaeth Ffiniau’r DU i gael gwybod am eich statws mewnfudo neu am weithio yn y DU

Allweddumynediad llywodraeth y DU