Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Newidiadau sy'n effeithio ar eich budd-dal

Os ydych yn derbyn budd-daliadau ac os bydd eich amgylchiadau'n newid, dywedwch wrth eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol neu'ch swyddfa budd-daliadau leol cyn gynted â phosib. Os byddwch yn rhoi gwybod i ni am unrhyw newidiadau'n brydlon, byddwch yn derbyn unrhyw gynnydd i'ch taliadau neu fudd-dal newydd yn gynt. Gyda rhai newidiadau, mae'n bosib y bydd eich taliadau'n lleihau.

Newidiadau y bydd angen i chi roi gwybod amdanynt

Rhaid i chi roi gwybod i'ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol am unrhyw newid yn eich amgylchiadau cyn gynted ag y bydd y newid hwnnw'n digwydd, hyd yn oed os na fyddwch yn credu bod y newid hwnnw'n berthnasol i'ch budd-daliadau.

Dyma rai enghreifftiau o'r newidiadau y mae angen i chi roi gwybod amdanynt:

  • priodi neu symud i fyw at bartner neu bartner sifil
  • symud tŷ
  • cael swydd newydd
  • cael codiad cyflog
  • rhoi cartref i letywr
  • os na fyddwch yn sâl neu'n wael mwyach
  • symud dramor

Sut gall newidiadau effeithio ar eich budd-daliadau

Weithiau, gall newid yn eich amgylchiadau olygu y bydd cyfradd eich budd-dal yn newid, neu y bydd gennych hawl i gael budd-dal ychwanegol neu fudd-dal gwahanol. Er enghraifft, os ydych chi'n rhiant sengl yn derbyn Budd-dal Tai a'ch bod yn penderfynu chwilio am waith, efallai bod gennych hawl i gael y Lwfans Ceisio Gwaith hefyd.

Gall newidiadau eraill i'ch amgylchiadau, cael codiad cyflog er enghraifft, olygu na fyddwch yn gymwys i dderbyn budd-dal rhagor, neu fod yn rhaid gostwng y swm gewch chi.

Twyll budd-dal

Os byddwch yn fwriadol yn peidio â rhoi gwybod am newid yn eich amgylchiadau personol, fe gewch eich trin fel rhywun sydd wedi cyflawni twyll budd-dal. Os cewch eich erlyn am dwyll budd-dal, gallech wynebu dirwy neu ddedfryd o garchar.

Adegau eraill y gall eich budd-daliadau newid

Weithiau gall eich budd-daliadau newid hyd yn oed pan fydd eich amgylchiadau'n aros yr un fath. Er enghraifft, bydd y llywodraeth yn cynyddu'r rhan fwyaf o daliadau budd-dal i sicrhau eu bod yn aros yn unol â'r chwyddiant bob blwyddyn. Cewch wybod am unrhyw newidiadau sy'n effeithio ar faint o arian a gewch.

Rhoi gwybod am newidiadau

Gallwch roi gwybod am newid yn eich amgylchiadau neu gael gwybod sut gall eich budd-daliadau newid drwy gysylltu â'ch swyddfa fudd-daliadau leol neu'ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU