Roedd cost lladrad budd-daliadau i'r wlad yn 2005-06 oddeutu £800 miliwn. Os ydych chi'n meddwl bod rhywun yn twyllo gyda'u budd-daliadau, fe allwch eu riportio nhw a'u hatal rhag cymryd arian oddi ar y bobl sydd fwyaf ei angen.
Lladrad budd-daliadau yw pan fydd rhywun yn dweud celwyddau i gael budd-dal. Mae hyn yn cynnwys pobl sydd:
Mae tair ffordd o riportio lleidr budd-daliadau:
Llenwch ffurflen ar-lein ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Ffoniwch y Llinell Twyll Budd-daliadau Genedlaethol ar 0800 854 440. Mae'r llinellau ar agor rhwng 7.00 am ac 11.00 pm, 7 diwrnod yr wythnos. Mae'r cyfan yn rhad ac am ddim ac yn gyfrinachol.
Os oes gennych broblemau llefaru neu broblem gyda'ch clyw, gallwch ddefnyddio gwasanaeth ffôn testun ar 0800 328 0512.
Petai'n well gennych riportio'r lladrad trwy lythyr, anfonwch y wybodaeth i:
NBFH, PO Box 224, Preston, PR1 1GP
Mae'r gyfraith yn dweud bod rhaid cael rheswm da dros ymchwilio i ladrad budd-daliadau - felly, dylech roi cymaint o'r wybodaeth ganlynol ag y bo modd:
Os byddwch chi'n defnyddio'r ffurflen riportio ar-lein, yn ffonio, neu'n anfon llythyr, fe gewch ddewis peidio â rhoi'ch manylion cysylltu os yw hynny'n well gennych.
Ond cofiwch fod rhoi eich enw'n gallu bod o help, oherwydd fe all y gwasanaeth archwilio ddod yn ôl atoch chi gydag unrhyw gwestiwn.
Bydd staff yr adran lladrad budd-daliadau'n edrych ar y wybodaeth a rowch chi. Os ydych chi wedi rhoi digon o wybodaeth, byddan nhw'n edrych ar gais yr unigolyn am fudd-dal.
Bydd angen peth amser ar gyfer yr archwiliad, a chaiff y staff ddim sôn wrthych am y canlyniad.
Weithiau, ni chymerir unrhyw gamau. Mae'n bosib bod y person wedi datgan ei fod yn gwneud y gwaith wrth hawlio ac nad oes unrhyw effaith ar y budd-dal.
Dim ond os byddan nhw'n canfod bod y person wedi bod yn dwyn wrth hawlio budd-dal y bydd staff yr adran yn cymryd camau. Gall y camau hynny gynnwys dileu budd-daliadau rhywun a mynd â nhw i'r llys.
Pethau eraill y mae'r llywodraeth yn eu gwneud i roi terfyn ar ladrad budd-daliadau yw: