Gall swyddogion budd-daliadau eich helpu i ddychwelyd i'r gwaith pan fyddwch yn ddi-waith drwy sicrhau eich bod yn hawlio'r holl fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt. Maent hefyd yn archwilio hawliadau am fudd-daliadau i sicrhau bod arian cyhoeddus yn mynd i'r bobl sydd ei angen.
Bob blwyddyn mae twyll budd-dal yn costio miliynau o bunnoedd i'r cyhoedd mewn budd-daliadau sydd wedi'u dwyn. Yn 2004/05, collwyd amcangyfrif o £800 miliwn o ganlyniad i dwyll.
Caiff y wybodaeth a rowch chi i gefnogi'ch hawliad ei harchwilio i sicrhau ei bod yn gywir. Bydd hyn o fudd i gael gwybod a oes hawl gennych i dderbyn unrhyw fudd-dal, a faint y gallwch chi ei hawlio.
Gellir gwneud archwiliadau unrhyw bryd, nid yn unig pan fyddwch yn gwneud hawliad am y tro cyntaf. Weithiau caiff archwiliad ei wneud ar bawb sy'n derbyn budd-dal penodol neu ar grŵp o bobl sy'n hawlio.
Gallwch helpu i leihau twyll trwy sicrhau bod y wybodaeth a rowch yn gyfredol ac yn gywir, a thrwy weithio gyda'ch swyddog budd-daliadau wrth i archwiliadau gael eu gwneud.
Ar ddechrau'r hawliad, bydd swyddogion budd-daliadau'n gwneud ymholiadau i wirio bod y wybodaeth a roddwyd gennych yn gywir.
Gellir cymharu'r hyn a ddywedwyd neu a ysgrifennwyd gennych ar y ffurflen hawlio gyda chofnodion amdanoch gan asiantaeth arall y llywodraeth. Er enghraifft, gellir gofyn i Gyllid a Thollau EM a ydych yn talu treth ac yn gweithio, neu i gadarnhau eich enillion.
Hefyd, gellir rhannu gwybodaeth amdanoch gydag awdurdodau lleol, a bydd gofyn iddynt archwilio hawliadau cyn rhoi Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Gyngor.
Gellir gofyn i chi gefnogi eich hawliad gyda thystiolaeth o'ch incwm a'ch cyfalaf, er enghraifft.
Hefyd, bydd angen i chi roi eich rhif Yswiriant Gwladol, neu wneud cais am un os nad oes gennych un. Os na allwch gofio eich rhif Yswiriant Gwladol, gofynnir i chi am fanylion eraill (er enghraifft eich dyddiad geni a'ch cyfeiriad) er mwyn gallu dod o hyd i'ch rhif Yswiriant Gwladol.
Os na fydd ymholiadau amdanoch yn cyd-fynd â'r hyn sydd yn eich hawliad, gall swyddogion awdurdodedig ymweld â chi neu ofyn i chi fynychu cyfweliad i drafod y mater.
Ni ellir talu eich hawliad oni bai y bydd yr archwiliadau hyn yn gyflawn, felly mae'n bwysig mynychu'r cyfweliad ac ateb unrhyw lythyrau ynghylch yr ymchwiliad yn brydlon.
Os bydd swyddogion budd-daliadau'n credu bod twyll difrifol ar waith, bydd swyddogion awdurdodedig yn ymchwilio i'ch hawliad yn fanylach. Gallant gasglu gwybodaeth amdanoch chi ac aelodau o'ch teulu a'i chymharu â'r wybodaeth a roddwyd ar ffurflenni hawlio neu mewn cyfweliadau.
Gall swyddogion gysylltu â mudiadau preifat a mudiadau cyhoeddus eraill sy'n cadw gwybodaeth amdanoch gan gynnwys:
Dim ond os bydd ganddynt sail resymol dros gredu eich bod yn cyflawni twyll neu'n helpu rhywun arall i wneud hynny y bydd modd i swyddogion wneud ymholiadau.
Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cadw gwybodaeth amdanoch sy'n ymwneud ag unrhyw fudd-daliadau y byddwch yn eu hawlio. Mae'r gyfraith yn caniatáu croeswirio'r wybodaeth hon a'i rhannu gyda mudiadau penodol eraill.
Mae Deddf Diogelu Data 1998 yn rhoi'r hawl yn ôl y gyfraith i chi gael gwybod pa wybodaeth bersonol a gedwir amdanoch gan y mudiadau. Gorfodir hyn gan y Comisiynydd Gwybodaeth - rhif ffôn 01625 545 745, (llinellau ar agor rhwng 9.00 am a 5.00 pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio ar wyliau banc)).
I gael gwybod mwy am sut mae'r Ddeddf Diogelu Data'n effeithio arnoch chi, darllenwch y daflen ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Os ydych yn poeni am archwiliadau ar eich hawliad budd-dal, neu os gofynnir i chi gyflwyno tystiolaeth, gallwch gael cymorth gan fudiadau fel Canolfan Cyngor ar Bopeth.