Os ydych ar incwm isel a bod angen help arnoch i dalu am angladd rydych chi'n ei drefnu, mae'n bosibl y gallwch gael Taliad Angladd gan y Gronfa Gymdeithasol. Mae'n bosibl y bydd rhaid i chi ad-dalu peth ohono neu'r cyfan ohono o ystâd y sawl a fu farw.
Mae'n bosibl eich bod yn gymwys i gael Taliad Angladd gan y Gronfa Gymdeithasol os ydych chi neu'ch partner yn derbyn unrhyw un o'r budd-daliadau neu'r credydau treth hyn:
Defnyddir y term ‘partner’ yma i olygu:
Er mwyn cael Taliad Angladd rhaid i chi hefyd fod naill ai:
Ar ôl cyfrifo faint o help y gallwch chi ei gael, edrychir hefyd ar faint o arian (ar wahân i'ch cynilion personol) sydd ar gael i'ch helpu gyda chost yr angladd.
Gallai hyn gynnwys arian o ystâd y sawl a fu farw, cyfraniadau a dderbyniwyd ac arian, er enghraifft, o bolisïau yswiriant, ond nid yw'n cynnwys Taliad Profedigaeth nawdd cymdeithasol nac arian o rai ymddiriedolaethau a noddir gan y llywodraeth.
Er mwyn bod yn gymwys, rhaid i'r sawl a fu farw fod wedi bod yn breswylydd yn y DU fel arfer, a rhaid i'r angladd fel arfer fod wedi'i gynnal yn y DU.
Chewch chi ddim taliad fel perthynas agos neu fel ffrind agos i'r sawl a fu farw:
Mae Taliad Angladd yn cynnwys y ffioedd claddu neu amlosgi angenrheidiol, rhai costau eraill a nodir a hyd at £700 ar gyfer unrhyw gostau angladdol eraill, megis ffioedd y trefnwr angladdau, yr arch neu'r blodau.
Os oedd gan y sawl a fu farw gynllun angladd y talwyd amdano ymlaen llaw, dim ond ar gyfer eitemau nad yw'r cynllun eisoes yn darparu ar eu cyfer y cewch chi help.
Gallwch gael manylion llawn am yr hyn y bydd y Taliad Angladd yn talu amdano ar dudalen chwech a saith y ffurflen hawlio sydd ar gael i'w llwytho oddi ar y we isod.
Os nad yw bil y trefnwr angladdau eisoes wedi ei dalu, fel arfer bydd y Taliad Angladd yn cael ei dalu'n uniongyrchol i gyfrif banc y trefnwr angladdau. Neu efallai yr anfonir siec atoch, yn daladwy i'r trefnwr angladdau, i chi i'w rhoi iddyn nhw. Os yw bil y trefnwr angladdau wedi ei dalu, bydd y taliad yn cael ei dalu i chi, yn syth i'ch cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu fel arfer.
Ni chaiff Taliad Angladd unrhyw effaith ar fudd-daliadau eraill.
Gallwch ofyn am ffurflen hawlio drwy gysylltu â'r Ganolfan Byd Gwaith.
Neu fe allwch lwytho'r ffurflen, isod, oddi ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Mae nodiadau gyda'r ffurflen i'ch helpu i'w llenwi ac i ddweud wrthych i ble y dylech ei hanfon.
Rhaid hawlio Taliad Angladd rhwng dyddiad y farwolaeth a hyd at dri mis ar ôl dyddiad yr angladd.
Os ydych chi'n disgwyl am benderfyniad ynghylch budd-dal neu hawl gymwys, rhaid i chi ddal i hawlio o fewn y terfynau amser uchod.
Os byddwch yn cael Taliad Angladd, bydd angen iddo gael ei dalu'n ôl o ystâd y sawl a fu farw. Mae'r ystâd yn golygu unrhyw arian, eiddo a phethau eraill yr oedd y person ymadawedig yn berchen arnynt. Nid yw tŷ neu eiddo personol a adewir i'r gŵr neu'r wraig weddw, neu'r partner sifil sydd dal yn fyw, yn cael eu cyfrif yn rhan o'r ystâd.
Os hoffech chi wybod mwy am y penderfyniad, neu os ydych chi'n credu ei fod yn anghywir, cysylltwch â'r Ganolfan Byd gwaith o fewn mis i ddyddiad y llythyr sy'n cynnwys y penderfyniad. Os byddwch yn cysylltu â'r Ganolfan Byd Gwaith yn hwyrach na hynny, efallai na fyddant yn gallu'ch helpu.
Gallwch chi, neu rywun arall a chanddynt yr awdurdod i weithredu ar eich rhan:
Gallwch gymryd unrhyw un o'r camau a restrir uchod, neu gallwch gymryd pob un ohonynt.