Ar ôl i chi gael eich gwneud yn weddw, mae'n bosibl y gallwch chi hawlio Lwfans Profedigaeth, y budd-dal wythnosol trethadwy, am hyd at 52 wythnos ar ôl dyddiad marw eich gŵr, eich gwraig neu eich partner sifil.
Efallai y gallwch hawlio Budd-dal Profedigaeth os bydd pob un o'r canlynol yn berthnasol i chi:
Pan fyddwch chi'n llenwi'r ffurflen hawlio, gofynnir i chi roi rhif Yswiriant Gwladol eich diweddar ŵr, gwraig neu bartner sifil a manylion eu cyflogaeth ddiweddar.
Yna, bydd y swyddfa sy'n delio â'ch hawliad yn gallu edrych ar eu cofnod Yswiriant Gwladol i weld a ydych chi'n gymwys i gael Lwfans Profedigaeth ac os felly, faint.
Chewch chi ddim hawlio Lwfans Profedigaeth:
Os oeddech yn hwn nag oedran Pensiwn y Wladwriaeth pan fu farw'ch cymar neu'ch partner sifil, mae'n bosibl y cewch chi swm ychwanegol at Bensiwn y Wladwriaeth ar sail cyfraniadau Yswiriant Gwladol eich diweddar ŵr, gwraig neu bartner sifil.
Os oeddech dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth pan fu farw'ch cymar a bod gennych blentyn yn dibynnu arnoch, gallwch hawlio'r Lwfans Rhiant Gweddw. Ond chewch chi ddim y Lwfans Rhiant Gweddw a'r Lwfans Profedigaeth ar yr un pryd.
|
Eich oedran pan fu farw'ch cymar neu’ch partner sifil |
Cyfradd wythnosol uchaf (2007-2008) |
|---|---|
|
45 oed |
£27.21 |
|
46 oed |
£33.56 |
|
47 oed |
£39.91 |
|
48 oed |
£46.26 |
|
49 oed |
£52.61 |
|
50 oed |
£58.96 |
|
51 oed |
£65.30 |
|
52 oed |
£71.65 |
|
53 oed |
78.00 |
|
54 oed |
£84.35 |
|
rhwng 55 oed ac oedran Pensiwn y Wladwriaeth |
£90.70 |
Mae'r union swm gewch chi'n dibynnu ar:
Mae'r Lwfans Profedigaeth yn cael ei dalu'n syth i'ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu, Swyddfa'r Post® neu Gynilion Cenedlaethol sy'n derbyn Taliad Uniongyrchol.
Os ydych yn ddall neu os oes angen i'r sawl sy'n gofalu amdanoch gasglu'r arian, anfonir siec atoch y gellir ei chyfnewid am arian yn Swyddfa'r Post®.
Unwaith y cewch Lwfans Profedigaeth, gallai'ch taliadau newid os ydych eisoes yn cael unrhyw un o'r budd-daliadau canlynol:
Bydd y Ganolfan Byd Gwaith neu'r swyddfa nawdd cymdeithasol sy'n delio â'ch hawliad yn esbonio hyn i chi.
Cewch archebu pecyn hawlio Budd-daliadau Profedigaeth, Ffurflen BB1, dros y ffôn gan eich Canolfan Byd Gwaith neu eich swyddfa nawdd cymdeithasol agosaf. Mae nodiadau gyda'r pecyn sy'n eich helpu i lenwi'r ffurflen gais.
Neu fe allwch lwytho'r ffurflen hawlio oddi ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Ar ôl llenwi'r ffurflen, anfonwch hi i'ch Canolfan Byd Gwaith neu i'ch swyddfa nawdd cymdeithasol agosaf.
Dim ond am dri mis y gellir ôlddyddio'r hawliadau ac fe'u dyddir pan fydd y swyddfa'n eu derbyn, felly wrth oedi, fe allech chi golli eich budd-dal.
Os byddwch chi'n ailbriodi neu'n dechrau byw gyda rhywun fel petaech chi'n briod, ni fyddwch yn gymwys rhagor i gael Lwfans Profedigaeth. Mae'n bwysig eich bod yn dweud wrth y swyddfa sy'n delio gyda'ch taliadau os digwydd hyn.