Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Taliad Profedigaeth

Os yw eich gŵr, eich gwraig neu'ch partner sifil wedi marw, mae'n bosibl y gallwch chi dderbyn Taliad Profedigaeth, taliad unswm untro gwerth £2,000 sy'n ddi-dreth.

Pwy sy'n gymwys?

Mae'n bosibl y gallwch chi hawlio Taliad Profedigaeth os oedd eich gŵr, eich gwraig neu'ch partner sifil wedi talu eu cyfraniadau Yswiriant Gwladol neu os achoswyd eu marwolaeth gan eu swydd a naill ai:

  • eich bod dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth (60 i fenywod a 65 i ddynion) pan fuont farw

neu

  • bod eich gŵr, eich gwraig neu'ch partner sifil yn anghymwys i gael Budd-dal Ymddeol Categori A y wladwriaeth pan fuont farw.

Cyfraniadau Yswiriant Gwladol a Thaliadau Profedigaeth

Pan fyddwch chi'n llenwi'r ffurflen hawlio, gofynnir i chi roi rhif Yswiriant Gwladol eich diweddar gŵr neu wraig a manylion eu cyflogaeth ddiweddar.

Yna, bydd y swyddfa sy'n delio â'ch hawliad yn gallu edrych ar eu cofnod Yswiriant Gwladol i weld a ydych chi'n gymwys i gael Taliad Profedigaeth.

Pwy sydd ddim yn gymwys?

Chewch chi ddim hawlio Taliad Profedigaeth:

  • os oeddech chi a'ch diweddar ŵr neu wraig wedi ysgaru pan fu farw neu os oedd y bartneriaeth sifil wedi chwalu pan fu farw'r partner sifil
  • os ydych chi'n byw gyda rhywun arall fel gŵr, gwraig neu bartner sifil
  • os ydych chi yn y carchar

Faint fyddwch chi'n ei gael?

Un taliad unswm, untro, di-dreth gwerth £2,000 yw hwn.

Sut mae'n cael ei dalu

Mae'r Taliad Profedigaeth yn cael ei dalu'n syth i'ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu, Swyddfa'r Post® neu Gynilion Cenedlaethol sy'n derbyn Taliad Uniongyrchol.

Yr effaith ar fudd-daliadau eraill

Nid yw'r Taliad Profedigaeth untro hwn yn effeithio ar eich hawl i gael budd-daliadau eraill. Ond efallai bydd eich cynilion a Thaliad Profedigaeth yn gostwng y swm o fudd-daliadau prawf moddion yr ydych yn derbyn, fel:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceiswyr Gwaith yn seiliedig incwm
  • Budd-daliadau Tai a Budd-daliadau Treth Cyngor

Sut i wneud cais

Cewch archebu pecyn Budd-daliadau Profedigaeth dros y ffôn gan eich Canolfan Byd Gwaith, neu eich swyddfa nawdd cymdeithasol agosaf. Mae nodiadau gyda'r pecyn sy'n eich helpu i lenwi'r ffurflen gais.

Llwytho ffurflen i'w hargraffu a'i llenwi

Neu fe allwch lwytho ffurflen hawlio BB1 oddi ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Unwaith i chi gwblhau’r ffurflen, anfonwch ef i’ch Canolfan Byd Gwaith agosaf neu swyddfa nawdd cymdeithasol mor gynted â phosib.

Gall hawliadau ond cael eu hol-ddyddio tri mis am Lwfans Profedigaeth a Lwfans Rhieni Gweddw ac maent yn cael eu dyddio pan fo’r swyddfa yn eu derbyn, felly os ydych yn oedi efallai byddwch yn colli budd-dal. Mae’r terfyn amser am hawliau Taliad Profedigaeth wedi’i ymestyn i 12 mis.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU