Cynllun, nid budd-dal, yw Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref. Ei fwriad yw eich helpu i amddiffyn eich hawl i Bensiwn y Wladwriaeth os nad ydych chi'n talu Cyfraniadau Yswiriant Gwladol oherwydd eich bod yn ddi-waith, neu fod eich enillion yn fach oherwydd eich bod yn gofalu am blentyn neu berson sydd naill ai'n wael neu'n anabl.
Cymhwyso'n awtomatig ar gyfer y Cynllun Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref
Dylech fod yn gymwys fel mater o drefn ar gyfer y cynllun Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref os ydych chi'n derbyn naill ai:
Gwneud cais am Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref
Dylech wneud cais am Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref os ydych chi naill ai:
neu
Lwfans Gofalwr
Os ydych chi'n derbyn Lwfans Gofalwr byddwch chi'n cael credydau Yswiriant Gwladol fel mater o drefn ac fel arfer ni fydd angen i chi wneud cais am Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref.
Menywod priod neu weddwon
Os ydych yn wraig briod neu'n weddw, allwch chi ddim cael Cymorth Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref am unrhyw flwyddyn dreth gyflawn os ydych wedi dewis naill ai:
Wrth gyfrifo Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth, tynnir nifer y blynyddoedd hynny pan fyddwch yn derbyn taliadau Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref o'r nifer o flynyddoedd cymwys sydd eu hangen er mwyn cyfrifo'ch pensiwn.
Ond ar gyfer Pensiwn sylfaenol llawn y Wladwriaeth, ni all y cynllun Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref ostwng nifer y blynyddoedd cymwys o dan 20.
Byddwch hefyd yn adeiladu Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth os byddwch yn gymwys ar gyfer Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref oherwydd byddwch naill ai:
I hawlio Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref, mae angen i gysylltu â’ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith i gael ffurflen: ‘Sut i amddiffyn eich Pensiwn y Wladwriaeth os ydych yn gofalu am rywun yn y cartref’, a ffurflen hawlio CF411.
Llwytho ffurflen i brintio a chwblhau
Neu allwch lwytho’r ffurflen hawlio CF411 o wefan Cyllid a Thollau EM.
Gofalwyr maeth
Os ydych chi'n ofalwr maeth, pan fyddwch chi'n llenwi ffurflen CF411, rhaid i chi roi llythyr gan eich awdurdod lleol neu'r asiantaeth rydych chi'n gweithio iddi'n cadarnhau eich bod wedi bod yn ofalwr maeth cymeradwy drwy gydol y flwyddyn dreth gron.
Pryd i hawlio
Os ydych chi'n hawlio dan y cynllun Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref am y blynyddoedd pan fuoch chi'n gofalu am rywun â salwch neu anabledd hirdymor rhwng mis Ebrill 1978 a mis Ebrill 2002, gallwch hawlio unrhyw bryd nes i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Am y blynyddoedd treth 2002/2003 ymlaen, mae’n rhaid i chi hawlio dan y Cynllun Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref o fewn tair blynedd i ddiwedd unrhyw flwyddyn dreth a dreuliwyd gennych yn gofalu am rywun â salwch neu anabledd hirdymor. Er enghraifft, os oeddech yn gofalu am rywun â salwch neu anabledd hirdymor trwy gydol y flwyddyn dreth 2004/2005, mae’n rhaid i chi hawlio Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref cyn 5 Ebrill 2008.
Rhaid i chi ddweud wrth y Gwasanaeth Pensiwn:
Mae'r cynllun Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref hefyd yn help i warchod budd-daliadau profedigaeth i'ch gŵr neu wraig neu bartner sifil.