Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Grantiau Gofal yn y Gymuned

Os oes angen help ariannol arnoch i fyw'n annibynnol yn y gymuned neu i liniaru pwysau eithriadol arnoch chi a'ch teulu, mae'n bosib y gallech chi gael Grant Gofal yn y Gymuned. Does dim rhaid i chi ei dalu'n ôl.

Pwy sy’n gymwys?

Gallwch wneud cais am Grant Gofal yn y Gymuned os ydych chi:

  • eisoes yn derbyn Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, Credyd Pensiwn, neu daliad ar gyfrif ar gyfer un o'r budd-daliadau hyn
  • yn debygol o ddechrau cael un o'r budd-daliadau hyn o fewn y chwe wythnos nesaf oherwydd eich bod yn gadael gofal

a bod unrhyw un o'r canlynol yn berthnasol:

  • eich bod yn symud allan o ofal preswyl neu o ofal sefydliadol i fyw'n annibynnol
  • eich bod yn symud i gartref newydd a fydd yn fwy addas i chi yn dilyn cyfnod ansefydlog yn eich bywyd a'ch bod yn cael eich adsefydlu gan gorff megis cyngor lleol neu fudiad gwirfoddol
  • bod angen help arnoch i aros yn eich cartref yn hytrach na mynd i ofal preswyl neu i'r ysbyty
  • bod angen help arnoch oherwydd eich bod chi neu'ch teulu'n wynebu pwysau eithriadol, megis chwalfa yn y teulu neu oherwydd bod gan un ohonoch salwch tymor hir
  • eich bod yn gofalu am rywun sy'n sâl neu'n anabl, neu sydd wedi'i ryddhau o'r carchar ar drwydded dros dro
  • bod angen help arnoch gyda chostau megis ymweld â rhywun sy'n wael neu i fynd i angladd perthynas

Faint fyddwch chi'n ei gael?

Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

Effaith cynilion ar yr arian a gewch chi

Mae'n bosib y cewch chi lai o Grant Gofal yn y Gymuned os yw'r arian rydych wedi'i gynilo:

  • yn fwy na £500 a chithau a'ch partner dan 60 oed
  • yn fwy na £1,000 a chithau ac/neu eich partner dros 60 oed

Sut mae'n cael ei dalu

Fel arfer, telir y grant i'ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu ddarparwr cyfrif arallyr ydych wedi enwebu.

Yr effaith ar fudd-daliadau eraill

Nid yw Grant Gofal yn y Gymuned yn cyfri fel incwm ac ni fydd yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau eraill a gewch.

Does dim modd rhoi'r grant ar gyfer y canlynol

Chewch chi ddim Grant Gofal yn y Gymuned ar gyfer:

  • unrhyw angen sy'n codi y tu allan i'r Deyrnas Unedig
  • costau addysg neu hyfforddiant
  • gwisg ysgol arbennig, dillad neu offer chwaraeon
  • costau teithio yn ôl ac ymlaen i'r ysgol
  • prydau ysgol
  • costau yng nghyswllt achos llys neu gyfreithiol
  • costau symud cartref neu gostau storio, os gall yr awdurdod lleol helpu gyda'r rhain
  • cymorth yn y cartref neu ofal seibiant
  • gwaith atgyweirio ar dai'r awdurdod lleol neu gymdeithas dai
  • eitemau neu wasanaethau meddygol, llawfeddygol, ar gyfer y llygaid, y clyw neu'r dannedd
  • dyledion i adrannau'r llywodraeth, gan gynnwys ôl-ddyledion treth
  • buddsoddiadau
  • Y Dreth Gyngor
  • y rhan fwyaf o gostau eraill sy'n berthnasol i dai
  • costau tanwydd, ac eithrio dan rai amgylchiadau
  • costau llai na £30, ac eithrio costau teithio neu fyw beunyddiol
  • costau sy'n gysylltiedig â'r gwaith
  • cost prynu, rhentu neu osod ffôn a chostau galwadau
  • costau byw beunyddiol megis bwyd (oni bai eich bod yn gofalu am garcharor neu droseddwr ifanc sydd wedi'i ryddhau ar drwydded dros dro)

Fel arfer, ni fyddwch yn gallu cael Grant Gofal yn y Gymuned os ydych chi eisoes wedi gofyn am yr un eitemau neu wasanaethau yn ystod y 26 wythnos diwethaf.

Sut mae gwneud cais

Llwytho ffurflen hawlio i'w hargraffu a'i llenwi

Gallwch lawrlwytho ffurflen hawlio Grant Gofal yn y Gymuned ar ffurf PDF. Ceir nodiadau gyda'r ffurflen i'ch helpu i'w llenwi. Nid yw'r ffurflen hon yn berthnasol i Ogledd Iwerddon.

Cysylltwch â'r Ganolfan Byd Gwaith i gael gwybod i ble y dylech anfon eich ffurflen ar ôl ei llenwi.

Pryd i wneud cais

Fel arfer, dylech wneud cais ar unwaith.

Os ydych chi'n dal mewn gofal preswyl neu dan ofal sefydliad, gallwch wneud cais hyd at chwe wythnos cyn i chi adael.

Sut i apelio

Os ydych chi'n anhapus gyda phenderfyniad neu ddyfarniad Grant Gofal yn y Gymuned mae gennych yr hawl i ofyn am adolygiad. Mae’n rhaid i chi ysgrifennu at Ganolfan Byd Gwaith o fewn 28 diwrnod yn esbonio pam yr oeddech yn meddwl fod y penderfyniad yn anghywir a gofyn iddyn nhw ailystyried.

Os ydych chi'n dal yn anhapus gyda'r canlyniad, gallwch ofyn am adolygiad pellach gan un o Arolygwyr y Gronfa Gymdeithasol. Mae'r broses adolygu'n gyflym ac yn rhwydd, ac ni ddylai gymryd mwy na 12 diwrnod.

Gallwch lwytho'r daflen a'r ffurflen hawlio, 'Sut mae gofyn am adolygiad annibynnol' oddi ar wefan y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU