Budd-dal di-dreth yw'r Lwfans Byw i'r Anabl sydd ar gael i blant neu oedolion a bod angen cymorth arnynt gyda gofal personol neu os ydynt yn cael trafferth i gerdded oherwydd eu bod yn anabl yn gorfforol neu'n feddyliol.
Canllaw yn unig yw'r wybodaeth yn yr adran hon. Gall y swyddfa sy'n delio gyda'ch hawliad ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am hawlio a derbyn y Lwfans Byw i'r Anabl.
Efallai y cewch Lwfans Byw i'r Anabl os:
Os ydych chi'n 65 oed neu'n fwy, efallai y cewch Lwfans Gweini.
Gallwch gael Lwfans Byw i'r Anabl os ydych yn gweithio neu beidio.
Fel arfer nid effeithir arno gan unrhyw gynilion neu incwm sydd gennych.
Rheolau arbennig - os nad oes gwella arnoch
Os oes gennych glefyd cynyddol ac nad oes disgwyl i chi fyw'n hwy na chwe mis arall, mae 'na reolau arbennig i'ch helpu i gael y Lwfans Gweini yn gyflym ac yn rhwydd.
Archwiliadau meddygol
Fel arfer ni fydd angen archwiliad meddygol arnoch pan fyddwch yn hawlio Lwfans Byw i'r Anabl. Ond, os gofynnir i chi gael archwiliad, gallwch gael mwy o wybodaeth drwy ddilyn y ddolen isod.
Mae dwy ran i'r Lwfans Byw i'r Anabl a elwir yn 'elfennau':
Dim ond un elfen y bydd gan rai pobl yr hawl iddi tra bydd gan eraill hawl i'r ddwy elfen.
Telir yr elfen ofal a'r elfen symudedd ar wahanol gyfraddau yn dibynnu ar sut y mae'r anabledd yn effeithio arnoch.
Fel arfer mae'r Lwfans Byw i'r Anabl yn cael ei dalu'n uniongyrchol i unrhyw gyfrif o'ch dewis chi sy'n derbyn Taliad Uniongyrchol ar gyfer budd-daliadau. Gall hwn fod yn fanc, yn gymdeithas adeiladu neu'n ddarparwr cyfrif arall.
Efallai y gall rhywun arall fynd i gasglu'ch Lwfans Byw i'r Anabl ar eich rhan. I gael cymorth gyda hyn, cysylltwch â'ch banc, eich cymdeithas adeiladu neu'ch darparwr cyfrif arall.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwch gael eich talu drwy ffyrdd eraill, cysylltwch â'r swyddfa sy'n delio gyda'ch hawliad - ceir manylion yn yr adran 'Cyfraddau a sut i hawlio'.
Os byddwch chi'n dechrau cael Lwfans Byw i'r Anabl, efallai y bydd yn cynyddu'r budd-daliadau eraill y mae gennych chi'r hawl i'w cael, er enghraifft:
Mae'r Lwfans Byw i'r Anabl yn cael ei anwybyddu fel incwm wrth gyfrifo'r budd-daliadau cysylltiedig ag incwm hyn a chredydau treth.
Hawliwch yn syth - os na wnewch chi, efallai y byddwch chi'n colli budd-dal.
Gallwch gael pecyn hawlio drwy:
Isod, cewch wybod mwy am 'Gyfraddau a sut i hawlio' - Lwfans Gweini (adran pobl anabl).
I gael y Lwfans Byw i'r Anabl, rhaid i chi fod ym Mhrydain Fawr yn gyffredinol, neu gael eich trin fel petaech yn byw yma, a bodloni rhai amodau eraill o ran eich preswyliaeth a phresenoldeb.
Hefyd, gall newidiadau i'ch amgylchiadau effeithio ar faint o Lwfans Byw i'r Anabl gewch chi neu a fyddwch chi'n ei gael o gwbl. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys cyfnod mewn ysbyty neu os bydd eich anabledd yn gwella neu'n gwaethygu.
Lwfans Byw i’r Anabl – Ffilmiau gydag Iaith Arwyddion Prydain ac is-deitlau
Ffilm byr ynghylch budd-daliadau anabledd – sydd wedi ei chyflwyno mewn Iaith Arwyddion Prydain, ei hadrodd a chydag is-deitlau – gellir ei llwytho o Directgov. Maer’ wybodaeth ar gael ar DVD hefyd, a gallwch ofyn am gael copi trwy’r post.