Budd-dal di-dreth yw'r Lwfans Gweini y gallech ei gael os ydych chi'n 65 neu'n hŷn a bod angen cymorth arnoch gyda gofal personol oherwydd eich bod yn anabl yn gorfforol neu'n feddyliol.
Canllaw yn unig yw'r wybodaeth yn yr adran hon. Gall y swyddfa sy'n delio gyda'ch hawliad ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am hawlio a derbyn y Lwfans Gweini.
Efallai y cewch chi Lwfans Gweini os yw unrhyw rai o'r canlynol yn berthnasol:
Os ydych o dan 65 oed, efallai y cewch Lwfans Byw i'r Anabl.
Fel arfer nid effeithir ar y Lwfans Gweini gan unrhyw gynilion neu incwm sydd gennych.
Rheolau arbennig - os nad oes gwella arnoch
Os oes gennych glefyd cynyddol ac nad oes disgwyl i chi fyw'n hwy na chwe mis arall, mae 'na reolau arbennig i'ch helpu i gael y Lwfans Gweini yn gyflym ac yn rhwydd.
Archwiliadau meddygol
Fel arfer, fyddwch chi ddim angen archwiliad meddygol wrth hawlio Lwfans Gweini.
Os gofynnir i chi gael archwiliad, gallwch gael mwy o wybodaeth drwy ddilyn y ddolen isod.
Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar sut mae'ch anabledd yn effeithio arnoch.
Mae dwy gyfradd i'r Lwfans Gweini:
| Lwfans Gweini | Cyfradd wythnosol (blwyddyn dreth 2007-2008) |
|---|---|
| Cyfradd uwch | £64.50 |
| Cyfradd is | £43.15 |
Mae'r Lwfans Gweini'n cael ei dalu'n uniongyrchol i unrhyw gyfrif o'ch dewis chi sy'n derbyn Taliad Uniongyrchol ar gyfer budd-daliadau. Gall hwn fod yn fanc, yn gymdeithas adeiladu neu'n ddarparwr cyfrif arall.
Efallai y gall rhywun arall fynd i gasglu'ch Lwfans Gweini ar eich rhan. I gael cymorth gyda hyn, cysylltwch â'ch banc, eich cymdeithas adeiladu neu'ch darparwr cyfrif arall.
I gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwch gael eich talu drwy ffyrdd eraill, gallwch gysylltu â'r swyddfa sy'n delio gyda'ch hawliad - ceir y manylion yn yr adran 'Cyfraddau a sut i hawlio'.
Os byddwch yn dechrau cael Lwfans Gweini, efallai y bydd yn cynyddu swm y budd-daliadau a'r cymorth ariannol y mae gennych hawl iddynt.
Efallai y cewch swm ychwanegol am anabledd difrifol gyda:
Fel arfer mae'r Lwfans Gweini'n cael ei anwybyddu fel incwm wrth gyfrifo budd-daliadau sy'n gysylltiedig ag incwm a hawliadau eraill.
Hawliwch yn syth - neu efallai y byddwch chi'n colli'r budd-dal.
Gallwch hawlio ar-lein neu gael pecyn hawlio drwy:
Isod, cewch wybod mwy am 'Gyfraddau a sut i hawlio' - Lwfans Gweini (adran pobl anabl).
I gael y Lwfans Gweini, rhaid i chi fod ym Mhrydain Fawr, neu gael eich trin fel petaech yn byw yma, a bodloni rhai amodau eraill o ran eich preswyliaeth a phresenoldeb.
Hefyd, gall newidiadau i'ch amgylchiadau effeithio ar faint eich Lwfans Gweini, neu a fyddwch yn ei gael neu beidio.
Lwfans Gweini - ffilmiau gydag Iaith Arwyddion Prydain ac is-deitlau
Gellir llwytho ffilm fer - sy'n cael ei chyflwyno yn Iaith Arwyddion Prydain, ac sy'n cynnwys sylwebaeth ac is-deitlau - oddi ar wefan Directgov. Mae'r wybodaeth ar gael ar DVD hefyd, a gallwch ofyn am gael copi trwy'r post.