Grant gan y cyngor lleol yw'r Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl i gynorthwyo gyda chost gwneud addasiadau i'ch cartref er mwyn i chi allu parhau i fyw yno. Telir y grant pan fo'r cyngor o'r farn fod y newidiadau'n angenrheidiol er mwyn diwallu'ch anghenion - ac yn fodlon fod y gwaith yn rhesymol ac yn ymarferol.
Gallwch hawlio os ydych chi, neu rywun sy'n byw yn eich eiddo, yn anabl a hefyd:
Gall landlord wneud cais ar ran tenant anabl.
Gellir defnyddio grant i wneud addasiadau hanfodol er mwyn i chi allu symud yn fwy hwylus o amgylch eich cartref ac i mewn ac allan o'ch cartref a/neu ddarparu cyfleusterau hanfodol yn y cartref.
Os ydych chi'n anabl, mae'r mathau derbyniol o waith yn cynnwys:
Bydd therapydd galwedigaethol yn edrych ar eich amgylchiadau a gall argymell beth y mae angen ei wneud.
Gall adran dai neu adran iechyd yr amgylchedd yn eich cyngor lleol roi gwybodaeth fanwl i chi wrth i chi wneud cais am Grant Cyfleusterau i bobl Anabl.
Mae'r dyfarniad yn gweithio fel hyn:
£25,000 yw uchafswm y Grant Cyfleusterau i bobl Anabl y mae'n rhaid i gyngor ei dalu ar gyfer cais yn Lloegr - llai unrhyw gyfraniad asesedig oddi wrthych chi.
Os yw cost y gwaith cymwys yn fwy, gall y cyngor ddefnyddio pwerau dewisol i godi'r grant.
Os ydych o dan 19 oed, bydd incwm a chyfalaf eich rhieni'n cael eu hystyried wrth gyfrifo'r incwm wythnosol cyfartalog.
Ni fydd Grant Cyfleusterau i bobl Anabl yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau yr ydych yn eu derbyn.