Os ydych chi'n sâl neu'n anabl o ganlyniad i glefyd neu fyddardod a achoswyd gan fathau penodol o waith, efallai y gallwch hawlio Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol ar gyfer clefydau a byddardod.
Gallwch hawlio os oeddech wedi'ch cyflogi mewn swydd a berodd i chi ddioddef o unrhyw un o'r canlynol:
Ceir rhestr lawn o'r gwahanol fathau o salwch gan eich Canolfan Byd Gwaith neu eich swyddfa nawdd cymdeithasol leol.
Allwch chi ddim hawlio Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol os oeddech yn hunangyflogedig mewn gwaith a achosodd eich clefyd neu'ch byddardod.
Effeithir ar y lefel budd-dal y gallwch ei gael gan eich amgylchiadau personol gan gynnwys eich oed a pha mor ddifrifol yw eich anabledd - a asesir gan eich meddyg ar raddfa o un i 100 y cant.
Arweiniad yn unig yw'r holl symiau hyn:
|
Lefel yr anabledd a aseswyd |
Dros 18 oed (swm wythnosol) |
Dan 18 oed heb ddibynyddion (swm wythnosol) |
|---|---|---|
|
100% |
£136.80 |
£83.85 |
|
90% |
£123.12 |
£75.47 |
|
80% |
£109.44 |
£67.08 |
|
70% |
£95.76 |
£58.70 |
|
60% |
£82.08 |
£50.31 |
|
50% |
£68.40 |
£41.93 |
|
40% |
£54.72 |
£33.54 |
|
30% |
£41.04 |
£25.16 |
|
20% |
£27.36 |
£16.77 |
Mae'r Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol a'r budd-daliadau cysylltiedig yn cael eu talu'n syth i'ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu, Swyddfa'r Post® neu Gynilion Cenedlaethol.
Os ydych wedi'ch cofrestru'n ddall, neu os oes angen i'r sawl sy'n gofalu amdanoch gasglu'r arian, anfonir siec y gellir ei chyfnewid am arian yn Swyddfa'r Post®.
Efallai y byddwch yn gymwys i dderbyn budd-daliadau eraill os ydych yn anabl oherwydd clefyd neu fyddardod ond gall hyn olygu eich bod yn cael llai o fudd-daliadau sy'n gysylltiedig ag incwm gan gynnwys Cymhorthdal Incwm a Budd-dal Treth Gyngor.
Rhowch wybod i'ch swyddfa budd-daliadau os ydych yn derbyn y Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol a'r budd-daliadau cysylltiedig.
Gallwch hawlio hwn os bu farw eich gwraig neu eich gur cyn 11 Ebrill 1988 o ganlyniad i glefyd neu ddamwain ddiwydiannol.
Gofynnwch yn eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith neu nawdd cymdeithasol leol am fanylion.
Telir y budd-dal ar brif gyfradd uwch ac is o £90.70 a £27.21.
Gallwch hawlio am glefydau a/neu fyddardod os asesir eich anabledd ar lefel 100 y cant a bod angen gofal a sylw dyddiol arnoch.
Mae'r gyfradd Lwfans Gweini Cyson y byddwch yn ei derbyn yn seiliedig ar asesiad o'ch anghenion.
|
Lefel yr anabledd a aseswyd |
Swm wythnosol |
|---|---|
|
Cyfradd eithriadol |
£109.60 |
|
Cyfradd ganolradd |
£82.20 |
|
Cyfradd uchaf arferol |
£54.80 |
|
Cyfradd ran amser |
£27.40 |
Gallwch hawlio £54.80 a delir yn ychwanegol i'r cyfraddau Lwfans Gweini Cyson, os cewch eich asesu ar gyfradd ganolradd neu eithriadol y Lwfans Gweini Cyson, a bod angen gofal a sylw cyson a pharhaus arnoch.
Gallwch hawlio am y gyfradd wythnosol uchaf o £54.72 ar gyfer hawliadau sy'n ymwneud â damweiniau cyn 1 Hydref 1990.
Gallech fod yn gymwys am y gyfradd wythnosol uchaf o £13.68 (yn lle'r Lwfans Enillion Is pan fyddwch yn cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth).
Gallwch hawlio'r Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol yn syth drwy lenwi ffurflen yn eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith.
Gallwch hefyd gael ffurflen hawlio – a chyngor am yr holl fudd-daliadau anabledd – o’r Llinell Ymholiadau am Fudd-daliadau.
Ffôn: 0800 882 200
Ffôn testun: 0800 243 355
Gallwch hefyd ddefnyddio’r gwasanaeth RNID Typetalk.
Mae’r Llinell Ymholiadau am Fudd-daliadau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.30am a 6.30pm, a rhwng 9.00 ac 1.00pm ar ddydd Sadwrn.
Mae'n bwysig eich bod yn cysylltu â'r swyddfa sy'n delio gyda'ch taliadau os byddwch chi neu rywun yr ydych yn hawlio drostynt:
Gan amlaf, byddwch chi neu'r person yr ydych yn gofalu amdano yn dal i gael y Budd-dal Anabledd Anafiadau Difrifol - hyd yn oed os byddwch yn mynd dramor am byth. Ond os mai dros dro y byddwch yn aros dramor, fel arfer dim ond am y tri mis cyntaf y cewch y taliadau. Cewch ragor o wybodaeth gan y swyddfa sy'n delio gyda'r taliad.
Gallwch hefyd gael cyngor o'r Swyddfa Rhanbarthol Anabledd neu'r Canolfan Pensiynau Rhyngwladol.
Gallech gael y Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol (damweiniau) hefyd os ydych chi'n anabl o ganlyniad i ddamwain yn y gwaith.
Os ydych yn dioddef o glefydau penodol efallai hefyd y cewch daliad dan Ddeddf Newmoconiosis (Iawndal Gweithwyr) 1979.