Efallai y bydd modd i chi gael Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol oherwydd damweiniau os ydych yn wael neu'n anabl oherwydd damwain neu ddigwyddiad yn y gwaith neu a oedd yn gysylltiedig â'ch gwaith.
Mae'n bosib y gallwch hawlio Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol oherwydd damweiniau:
Mae yna rai eithriadau i hyn - holwch eich Canolfan Darparu Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol ranbarthol.
Chewch chi ddim hawlio Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol oherwydd damweiniau os oeddech yn hunangyflogedig yn y gwaith a achosodd eich damwain.
Mae faint o fudd-dal a gewch chi'n dibynnu ar:
Arweiniad yn unig yw'r holl symiau hyn:
| Difrifoldeb yr anabledd, yn ôl yr asesiad | Dros 18 oed (swm wythnosol) | Dan 18 oed heb ddibynyddion (swm wythnosol) |
|---|---|---|
| 100% | £143.60 | £88.05 |
| 90% | £129.24 | £79.25 |
| 80% | £114.88 | £70.44 |
| 70% | £100.52 | £61.64 |
| 60% | £86.16 | £52.83 |
| 50% | £71.80 | £44.03 |
| 40% | £57.44 | £35.22 |
| 30% | £43.08 | £26.42 |
| 20% | £28.72 | £17.61 |
Bydd Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol oherwydd damweiniau a budd-daliadau cysylltiedig yn cael eu talu i'ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu, Swyddfa'r Post® neu Gynilion Cenedlaethol sy'n derbyn Taliad Uniongyrchol.
Ond, os ydych wedi'ch cofrestru'n ddall, neu os oes angen i'r sawl sy'n gofalu amdanoch gasglu'r taliad, gellir anfon siec atoch i'w chyfnewid am arian yn Swyddfa'r Post®.
Os ydych yn anabl yn sgîl afiechyd neu fyddardod a achoswyd yn y gwaith, efallai y gallwch gael budd-daliadau eraill - er y gellir cyfrif rhai o'r rhain fel incwm ar gyfer budd-daliadau sy'n seiliedig ar brawf modd.
Gallwch hawlio am ddamweiniau os asesir bod gennych anabledd 100 y cant a bod angen gofal a sylw dyddiol arnoch.
Bydd cyfradd y Lwfans Gweini Cyson a delir i chi yn seiliedig ar asesiad meddyg o'ch anghenion.
| Cyfradd Lwfans Gweini Cyson | Swm wythnosol |
|---|---|
| Cyfradd eithriadol | £115.00 |
| Cyfradd ganolradd | £86.25 |
| Cyfradd uchaf arferol | £57.50 |
| Cyfradd ran amser | £28.75 |
Gallwch hawlio £57.50 ar ben cyfraddau'r Lwfans Gweini Cyson, os bydd yr asesiad yn penderfynu eich bod yn gymwys ar gyfer cyfradd ganolradd neu eithriadol y Lwfans Gweini Cyson, a bod angen gofal a sylw cyson a pharhaus arnoch.
Efallai y gallwch gael Lwfans Enillion Is os yw eich enillion presennol, neu'ch enillion mewn swydd y tybir y gallech chi ei gwneud, yn llai na'r enillion presennol yn eich swydd reolaidd flaenorol. Dim ond os digwyddodd eich damwain cyn 1 Hydref 1990 y cewch chi Lwfans Enillion Is. Y gyfradd wythnosol uchaf yw £57.44.
Y gyfradd wythnosol uchaf yw £14.36 (mae'n disodli'r Lwfans Enillion Is pan fyddwch yn cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth).
Os byddwch yn derbyn y Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol oherwydd damweiniau a'i fudd-daliadau cysylltiedig, mae'n bosibl y cewch chi lai o Gymhorthdal Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar sail incwm, Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Gyngor. Rhowch wybod i'ch swyddfa budd-daliadau os ydych yn derbyn y Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol a'r budd-daliadau cysylltiedig.
Gallwch hawlio Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol drwy lenwi ffurflen hawlio
Gallwch gael ffurflen hawlio gan eich Canolfan Darparu Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol ranbarthol neu gallwch lwytho copi oddi ar y we.
Gallwch wneud cais am ddatganiad eich bod wedi cael damwain ddiwydiannol, hyd yn oed os nad ydych yn dymuno hawlio unrhyw fudd-dal yn syth. Gellir gwneud hyn ar y ffurflen y gellir ei llwytho uchod oddi ar y we.
Mae'n syniad da gwneud cais am ddatganiad os nad ydych yn anabl yn syth ar ôl eich damwain, ond eich bod yn meddwl y gallech brofi rhai problemau yn y dyfodol o ganlyniad iddi.
Mae'n bwysig eich bod yn cysylltu â'r swyddfa sy'n delio â'ch taliadau os ydych chi neu rywun yr ydych yn hawlio drostynt:
Mae'n debygol y byddwch chi neu'r person yr ydych yn gofalu amdano yn parhau i gael y Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol oherwydd damweiniau - hyd yn oed os byddwch yn mynd dramor am byth.
Ond os ydych yn mynd dramor dros dro, fel arfer dim ond am y tri mis cyntaf y cewch y taliadau. Cewch ragor o wybodaeth gan y swyddfa sy'n delio gyda'r taliad.