Mae'n bosib eich bod wedi gallu hawlio Lwfans Anabledd Difrifol cyn Ebrill 2001, os nad oeddech wedi gallu gweithio am o leiaf 28 wythnos yn ddi-dor oherwydd salwch neu anabledd.
Allwch chi ddim hawlio o'r newydd am Lwfans Anabledd Difrifol.
Ond os ydych chi eisoes yn derbyn y lwfans - byddwch yn parhau i'w dderbyn.
Mae'n bosib bod gennych yr hawl i Lwfans Anabledd Difrifol cyn Ebrill 2001 os cawsoch eich asesu gydag anabledd o 80 y cant a'ch bod:
£51.05 os ydych chi wedi bod yn cael y Lwfans Anabledd Difrifol cyn Ebrill 2001.
Efallai eich bod yn cael swm wythnosol ychwanegol yn gysylltiedig ag oedran yn dibynnu ar eich oed pan ddaethoch yn anabl i weithio. Er enghraifft os oeddech, cyn Ebrill 2001:
Mae'r Budd-dal Anabledd Difrifol yn cael ei dalu'n syth i'ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu, Swyddfa'r Post® neu Gynilion Cenedlaethol sy'n derbyn Taliad Uniongyrchol.
Os ydych wedi'ch cofrestru'n ddall, neu os oes angen i'r sawl sy'n gofalu amdanoch gasglu'r arian, bydd modd anfon siec y gellir ei chyfnewid am arian yn Swyddfa'r Post®.
Mae 'na rai mathau o 'waith wedi'i eithrio' (gwaith a ganiateir) y gallwch ei wneud a chael Lwfans Anabledd Difrifol yr un pryd. Gofynnwch yn eich Canolfan Byd Gwaith neu swyddfa nawdd cymdeithasol leol am ragor o fanylion.
Ond os ydych yn cael Lwfans Anabledd Difrifol a chyflog, gallai hyn effeithio ar y budd-daliadau sy'n gysylltiedig ag incwm yr ydych yn eu derbyn megis Cymhorthdal Incwm, Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Gyngor.
Allwch chi ddim hawlio Lwfans Anabledd Difrifol os nad ydych yn ei gael yn barod.
Ond efallai y bydd modd i chi wneud cais os yw hwnnw'n dyddio'n ôl cyn mis Ebrill 2001 - pan oedd gennych hawl i gael Lwfans Anabledd Difrifol.
Mae'n bwysig eich bod yn cysylltu â'ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith neu'ch swyddfa nawdd cymdeithasol os bydd eich amgylchiadau'n newid. Er enghraifft:
Os byddwch yn mynd dramor yn barhaol neu dros dro, efallai y bydd gennych hawl i gael rhyw fath o Lwfans Anabledd Difrifol dramor. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith neu'ch swyddfa nawdd cymdeithasol leol.
Os byddwch chi'n anghytuno â phenderfyniad, fe allwch chi apelio i dribiwnlys annibynnol. Ond os oes gennych chi ymholiad ynghylch taliad presennol, fe allwch chi gysylltu â'r swyddfa Canolfan Byd Gwaith sy'n ymdrin â'ch cais.
Os ydych chi'n credu y byddech chi wedi bod â hawl i gael Lwfans Anabledd Difrifol pan oedd hwnnw ar gael cyn mis Ebrill 2001, efallai y bydd modd i chi hawlio Budd-dal Analluogrwydd nawr.
I gael cyngor cyffredinol, ffoniwch y Llinell Ymholiadau am Fudd-daliadau ar 0800 882 200 (rhwng 8.30 am a 6.30 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 9.00 am ac 1.00 pm ar ddydd Sadwrn).
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith neu'ch swyddfa nawdd cymdeithasol leol.