Os oes angen sylw a gofal dyddiol arnoch oherwydd anabledd a chithau'n hawlio Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol neu Bensiwn Anabledd Rhyfel gallwch hawlio'r Lwfans Gweini Cyson.
Er mwyn bod yn gymwys i gael y Lwfans Gweini Cyson, mae'n rhaid i chi fod yn hawlio un o'r canlynol:
Os ydych yn hawlio Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol
I hawlio Lwfans Gweini Cyson, rhaid i chi:
Gallwch gysylltu â'ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol i ganfod a ydych yn gymwys i hawlio'r Lwfans Gweini Cyson.
Os ydych yn hawlio Pensiwn Anabledd Rhyfel
I hawlio Lwfans Gweini Cyson, rhaid i chi:
I gael gwybod a ydych chi'n gymwys i hawlio'r Lwfans Gweini Cyson, cysylltwch â llinell gymorth Asiantaeth Cyn-aelodau'r Lluoedd Arfog ar 0800 169 2277 (rhwng 8.15 am a 5.15 pm o ddydd Llun i ddydd Iau a rhwng 8.15 am a 4.30 pm ar ddydd Gwener) neu ffôn testun 0800 169 3458.
Mae'r Lwfans Gweini Cyson ar gael ar bedair cyfradd wahanol, yn dibynnu ar faint eich anabledd a faint o ofal sydd ei angen arnoch:
| Cyfradd | Swm wythnosol |
|---|---|
| cyfradd eithriadol | £115.00 |
| cyfradd ganolradd | £86.25 |
| cyfradd uchaf arferol | £57.50 |
| cyfradd ran amser | £28.75 |
Mae'r Lwfans Gweini Cyson yn cael ei dalu'n syth i'ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu, Swyddfa'r Post® neu Gynilion Cenedlaethol sy'n derbyn Taliad Uniongyrchol.
Ond os ydych wedi'ch cofrestru'n ddall, neu os oes angen i'r sawl sy'n gofalu amdanoch gasglu'ch arian, anfonir siec atoch y gellir ei chyfnewid am arian yn Swyddfa'r Post®.
Ar gyfer achosion anaf diwydiannol
Holwch am ffurflen gais BI104 yn eich Canolfan Byd Gwaith leol.
Neu gallwch lwytho'r ffurflen hawlio oddi ar y we, isod.
Ar gyfer achosion pensiwn rhyfel
Gall Asiantaeth Cyn-aelodau'r Lluoedd Arfog anfon ffurflen hawlio atoch (WPA 0003 (CAA)).
Gallwch ffonio'u llinell gymorth 0800 169 2277, ffôn testun 0800 169,345 3458 (rhwng 8.15 am a 5.15 pm o ddydd Llun i ddydd Iau a rhwng 8.15 am a 4.30 pm ar ddydd Gwener).
Dylech ddweud wrth eich Canolfan Byd Gwaith leol neu Asiantaeth Cyn-aelodau'r Lluoedd Arfog os bydd eich amgylchiadau'n newid. Er enghraifft:
Os gwrthodir y Lwfans Gweini Cyson i chi, neu os oes gennych gwestiynau am eich taliad, gallwch ofyn i'r swyddfa Canolfan Byd Gwaith a fu'n delio gyda'ch hawliad edrych eto ar eu penderfyniad.
Os ydych chi'n dal i fod yn anhapus gyda'r canlyniad, gallwch apelio.
Os ydych yn cael 'cyfradd eithriadol' neu 'gyfradd ganolradd' y Lwfans Gweini Cyson, efallai y byddwch hefyd yn gallu cael y Lwfans Anabledd Difrifol Eithriadol. Gallwch gysylltu ag Asiantaeth Cyn-aelodau'r Lluoedd Arfog neu swyddfa leol y Ganolfan Byd Gwaith am gyngor.
I gael cyngor cyffredinol, ffoniwch y Llinell Ymholiadau am Fudd-daliadau ar 0800 882 200, ffôn testun 0800 243 355 (rhwng 8.30 am a 6.30 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 9.00 am ac 1.00 pm ar ddydd Sadwrn).