Os ydych chi'n mynd yn ôl i'r gwaith a bod gennych blant, fe allwch gael cymorth ariannol ac ymarferol gyda gofal plant. Mae sawl gwahanol fath o help ar gael i wneud eich bywyd yn haws - o gredydau treth i drefniadau gweithio hyblyg.
Mae gan bob plentyn tair a phedair oed hawl i gael hyd at bum sesiwn dwy awr a hanner dyddiol yr wythnos, am dri thymor bob blwyddyn, gyda 'darparwr cofrestredig' megis ysgol, meithrinfa neu gylch chwarae. Bydd rhai cyflogwyr mawr yn darparu addysg blynyddoedd cynnar gofrestredig yn y gweithle. Gallwch hefyd ddefnyddio gofalwr plant cofrestredig os ydyn nhw'n rhan o rwydwaith gofal plant cymeradwy.
Lwfans ar sail prawf modd ar gyfer rhieni a gofalwyr plant neu bobl ifanc sy'n dal mewn addysg amser llawn ydy'r Credyd Treth Plant. Bydd naw o bob deg teulu sydd â phlant yn gymwys i gael Credyd Treth Plant.
Os ydych chi'n gweithio mwy nag 16 awr yr wythnos a'ch bod ar incwm isel, mae'n bosib y gallwch chi gael Credyd Treth Gwaith hefyd.
Mae Credyd Treth Gwaith yn cynnwys elfen benodol i helpu gyda chost gofal plant cofrestredig i rieni sy'n gweithio. Gall yr elfen gofal plant helpu gyda hyd at 80 y cant o'ch costau gofal plant cymwys.
Ond dim ond hyn a hyn o'r costau wythnosol y cewch chi eu hawlio. Os byddwch chi'n talu am ofal plant ar gyfer:
Os ydych chi'n rhiant sy'n gweithio, bydd gennych yr hawl i fod yn absennol o'r gwaith am hyd at 13 wythnos ar gyfer pob plentyn nes eu bod yn bump oed (fe gewch fwy na hyn os oes gennych blentyn anabl). Does dim rhaid i'ch cyflogwr dalu i chi am yr amser hwn, ond mae'n bosib y bydd yn dewis gwneud hynny fel rhan o'ch pecyn cyflogaeth. Er mwyn cael yr amser hwn o'r gwaith:
Fel arfer, bydd yn rhaid i chi gymryd eich absenoldeb rhiant mewn blociau o wythnos neu fwy, hyd at ddim mwy na phedair wythnos y flwyddyn ar gyfer pob plentyn. Ond, mae'n bosib y bydd eich cyflogwr yn gadael i chi gymryd eich absenoldeb rhiant mewn blociau llai. Os oes gan eich plentyn yr hawl i Lwfans Byw i'r Anabl, fe gewch chi gymryd diwrnod ar y tro os dymunwch chi.
Os ydy'ch cyflogwr yn meddwl y byddai eich absenoldeb yn tarfu ar y busnes, yna, fel arfer, fe all ohirio'ch absenoldeb am hyd at chwe mis ar ôl y dyddiad y gwnaethoch chi gais amdano.
Mae gweithio hyblyg yn golygu y cewch chi ofyn i'ch cyflogwr am batrwm gweithio newydd i'ch helpu i ofalu am eich plentyn. Os oes gennych blentyn 16 oed neu’n iau, neu blentyn anabl dan 18 oed, mae gennych chi'r hawl i ofyn am batrwm gwaith hyblyg. Mae'n rhaid i'ch cyflogwr ystyried eich cais yn ddifrifol.
Er mwyn gallu gofyn am gael patrwm gweithio hyblyg, mae'n ofynnol eich bod:
Bydd yn rhaid i chi lenwi ffurflen gais wrth wneud cais am batrwm gweithio hyblyg. Dim ond un cais y flwyddyn gewch chi ei wneud.
Un taliad di-dreth yw'r Grant Swydd. Gallwch ei gael pan fyddwch chi'n dechrau gweithio am o leiaf 16 awr yr wythnos ac yn stopio cael budd-daliadau. Efallai y bydd gennych hawl cael Grant Swydd os byddwch yn dechrau gweithio am o leiaf 16 awr yr wythnos, os nad oes gennych bartner sy'n gweithio 16 awr neu fwy yr wythnos ac os ydych chi'n disgwyl i'ch gwaith bara am bum wythnos o leiaf. Rhaid eich bod hefyd wedi hawlio un o'r budd-daliadau canlynol am 26 wythnos o leiaf cyn dechrau ar eich swydd newydd:
Gallwch gael gwybod rhagor am y Grant Swydd drwy ddilyn y ddolen isod:
Os ydych chi (neu bartner presennol yr ydych yn byw gyda) yn hawlio Cymhorthdal Incwm, Lwfans Chwilio Gwaith yn seiliedig ar incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy’n gysylltiedig ag incwm, ni fydd yr £20 yr wythnos gyntaf o unrhyw gynhaliaeth yr ydych yn derbyn yn effeithio ar y budd-daliadau hynny. Mae’r drefn hon wedi ei hestyn ar draws cynlluniau hen a newydd yr Asiantaeth Cefnogaeth Plant, a hefyd yn gymwys os ydych yn trefnu cynhaliaeth drwy gytundeb preifat.
Eich cyfrifoldeb chi yw rhoi gwybod i’r Ganolfan Byd Gwaith ynghylch unrhyw gynhaliaeth yr ydych yn derbyn.
Cael gwybod mwy ynghylch cynhaliaeth a budd-daliadau: