Os ydych chi'n ddi-waith ac ar gael i weithio, mae'n bosibl y gallwch chi hawlio'r Lwfans Ceisio Gwaith a budd-daliadau eraill, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau. Fe allech chi hefyd gael help a chymorth i chwilio am waith drwy gynllun y Fargen Newydd.
Budd-dal i bobl ddi-waith sy'n chwilio am waith yw'r Lwfans Ceisio Gwaith. Cewch hawlio hwn os yw'r canlynol i gyd yn berthnasol i chi:
Rhaid i chi hefyd:
Ceir dau fath o Lwfans Ceisio Gwaith, y naill yn seiliedig ar gyfraniadau a'r llall yn seiliedig ar incwm. Bydd pa un gewch chi'n dibynnu ar faint o gyfraniadau Yswiriant Gwladol rydych chi wedi'u talu yn y gorffennol.
Byddwch chi'n adeiladu'ch hawl i Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar gyfraniadau drwy dalu Cyfraniadau Yswiriant Gwladol tra'ch bod mewn gwaith. Os na wnaethoch chi ennill digon i dalu Cyfraniadau Yswiriant Gwladol, mae'n bosib y byddwch chi'n dal i gael Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar gyfraniadau os cawsoch chi gredydau Cyfraniadau Yswiriant Gwladol. Byddai hyn wedi digwydd petaech chi'n ennill mwy na'r terfyn enillion isaf (£90 yr wythnos yn 2008-2009), petaech chi'n ddi-waith neu'n methu gweithio oherwydd salwch, a dan rai amgylchiadau eraill.
Os ydych ar incwm isel, efallai y gallwch dderbyn Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, hyd yn oed os nad ydych wedi talu Cyfraniadau Yswiriant Gwladol. Bydd faint gewch chi'n dibynnu ar bethau megis incwm eich partner, unrhyw gynilion sydd gennych ac a ydych chi'n gofalu am blant ai peidio.
Os ydych yn ddi-waith ac yn 16 neu'n 17 oed, fel arfer, fyddwch chi ddim yn gallu cael y Lwfans Ceisio Gwaith, heblaw:
Os ydy unrhyw un o'r rhain yn berthnasol i chi, mae'n bosib y gallwch gael Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm.
Cewch fwy o wybodaeth am y Lwfans Ceisio Gwaith ar wefan y Ganolfan Byd Gwaith. Os ydych chi am siarad â rhywun, cysylltwch â'ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith, eich Canolfan Gwaith neu'ch swyddfa nawdd cymdeithasol leol. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa agosaf yn y llyfr ffôn neu drwy ymweld â gwefan Y Ganolfan Byd Gwaith.
Mwy am y Fargen Newydd
Gallwch hefyd ddarllen mwy am bob rhaglen y Fargen Newydd ar wefan y Ganolfan Byd Gwaith.
Os oes gennych unrhyw gwestiwn am y Fargen Newydd, ffoniwch linell gymorth y Fargen Newydd ar 0845 606 2626 (ffôn testun 0845 606 0680). Mae'r llinell ar agor saith niwrnod yr wythnos o 7.00 am tan 11.00 pm.
Gallwch hefyd ddarllen mwy am bob rhaglen a phenderfynu pa un sy'n iawn i chi ar wefan y Fargen Newydd.
Mae'n bosib y gallech chi gael budd-daliadau eraill wrth i chi chwilio am waith os ydych chi:
Mae cyngor ar gael am fudd-daliadau gan eich Canolfan Byd Gwaith, eich Canolfan Gwaith neu'ch swyddfa nawdd cymdeithasol leol. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa agosaf yn y llyfr ffôn neu drwy ymweld â gwefan Y Ganolfan Byd Gwaith.