Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Lwfans Enillion Is

Mae'n bosib y gallwch chi gael Lwfans Enillion Is os na allwch chi ennill cymaint ag y gallech fel arfer oherwydd damwain neu salwch a achoswyd gan eich gwaith.

Pwy sy’n gymwys?

Efallai y byddwch yn gymwys i gael Lwfans Enillion Is os ydych chi'n dioddef o salwch neu anabledd a achoswyd gan ddamwain neu salwch yn y gwaith cyn 1 Hydref 1990.

Faint fyddwch chi'n ei gael?

£54.72 yr wythnos yw'r gyfradd uchaf.

Gall eich amgylchiadau personol chi, er enghraifft, a ydych chi'n gweithio ai peidio, effeithio ar y swm a gewch chi. I gael mwy o fanylion, cysylltwch â'ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol.

Sut mae'n cael ei dalu

Mae'r Lwfans Enillion Is yn cael ei dalu'n syth i'ch cyfrif banc, i gymdeithas adeiladu, i Swyddfa'r Post® neu i gyfrif Cynilion Cenedlaethol sy'n derbyn Taliadau Uniongyrchol.

Os ydych chi'n ddall, neu os oes angen i'r sawl sy'n gofalu amdanoch gasglu'ch arian, anfonir siec atoch i'w chyfnewid am arian yn Swyddfa'r Post®

Yr effaith ar fudd-daliadau

Mae'n bosib yr effeithir ar y budd-daliadau canlynol os dechreuwch chi dderbyn Lwfans Enillion Is:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Budd-dal Tai
  • Budd-dal y Dreth Gyngor

I gael mwy o fanylion, cysylltwch â'ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol.

Sut i hawlio

Mae'n bwysig hawlio ar unwaith neu fe allech chi golli'r budd-dal. Gofynnwch am ffurflen hawlio yn eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol.

Bydd rhaid i chi brofi pwy ydych chi wrth wneud cais. Bydd yn rhaid i chi hefyd ateb cwestiynau am eich amgylchiadau a'ch cefndir a dangos dogfennau swyddogol i brofi'r wybodaeth honno.

Beth i'w wneud os bydd eich amgylchiadau'n newid

Soniwch wrth eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol os bydd eich amgylchiadau'n newid. Er hynny, gan amlaf, ni fydd hyn yn effeithio ar daliadau'r Lwfans Enillion Is.

Dyma rai newidiadau na fydd yn cael effaith ar y taliad:

  • cael eich derbyn i'r ysbyty
  • cael eich derbyn i gartref nyrsio neu ofal preswyl
  • dechrau gwneud gwaith gwirfoddol

Os byddwch chi'n gadael y DU i fyw'n barhaol y tu allan i Ardal Economaidd Ewrop (AEE), chewch chi ddim hawlio'r Lwfans Enillion Is.

Ond, os dros dro y byddwch chi'n ymweld, fel arfer, cewch ei hawlio am dri mis cyntaf eich ymweliad. Gall hyn fod yn hwy dan amgylchiadau arbennig, ond bydd angen i chi holi'r Ganolfan Bensiynau Ryngwladol i weld a ydych chi'n gymwys ai peidio.

Beth arall y mae angen i chi ei wybod

Os byddwch yn derbyn mwy na £2 yr wythnos o Lwfans Enillion Is pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth (sef 60 i fenywod a 65 i ddynion ar hyn o bryd) ac nad ydych chi mewn gwaith rheolaidd, fe gewch fudd-dal arall yn lle'r lwfans hwn, sef y Lwfans Ymddeol.

Mae math arall o fudd-dal, y Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol, ar gael i bobl sydd wedi mynd yn anabl o ganlyniad i ddamwain neu glefyd yn y gwaith.

I gael cyngor cyffredinol, ffoniwch y Llinell Ymholiadau am Fudd-daliadau ar 0800 882 200 (rhwng 8.30 am a 6.30 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 9.00 am ac 1.00 pm ar ddydd Sadwrn). Neu ffôn testun 0800 243 355

Os hoffech gael rhagor o help gyda'ch budd-daliadau, ffoniwch y Llinell Ymholiadau am Fudd-daliadau ar 0800 882 200 (ffôn testun 0800 243 355). Gwasanaeth cynghori cyfrinachol yw hwn i bobl anabl a'r bobl sy'n gofalu amdanynt.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU