Y Tâl Mabwysiadu Statudol yw'r taliad wythnosol a gewch chi gan eich cyflogwr i'ch helpu i gael amser o'r gwaith wrth fabwysiadu plentyn.
Er mwyn bod yn gymwys i gael Tâl Mabwysiadu Statudol rhaid eich bod:
Os ydych chi'n ennill £90 yr wythnos neu fwy ar gyfartaledd (cyn treth), telir y Tâl Mabwysiadu Statudol sef £117.18 neu 90 y cant o'ch enillion wythnosol ar gyfartaledd os yw hynny'n llai.
Os disgwylir i'ch plentyn ddod atoch ar gyfer ei fabwysiadu ar 31 Mawrth 2007 neu cyn y dyddiad hwnnw, bydd gennych hawl i gael Tâl Mabwysiadu Statudol am hyd at 26 wythnos os ydych chi'n gymwys. Os disgwylir i'ch plentyn ddod atoch ar gyfer ei fabwysiadu ar 1 Ebrill 2007 neu ar ôl y dyddiad hwnnw, bydd gennych hawl i gael Tâl Mabwysiadu Statudol am 39 wythnos os ydych chi'n gymwys.
Bydd eich cyflogwr yn talu'r Tâl Mabwysiadu Statudol i chi yn yr un ffordd ac ar yr un pryd ag y byddwch chi'n cael eich cyflog arferol.
Bydd eich Tâl Mabwysiadu Statudol yn cael ei drin fel petai'n gyflog arferol, felly bydd treth ac Yswiriant Gwladol yn cael ei dynnu ohono hefyd.
Er mwyn hawlio'r Tâl Mabwysiadu Statudol, rhaid i chi ddangos tystiolaeth i'ch cyflogwr, sef y dogfennau a gawsoch chi gan yr asiantaeth fabwysiadu. Fel arfer, 'tystysgrif baru' fydd y ddogfen hon.
Rhaid i chi hefyd ddweud wrth eich cyflogwr pa bryd rydych chi'n bwriadu bod yn absennol. Rhaid i chi wneud hyn o fewn saith niwrnod ar ôl i'r asiantaeth fabwysiadu ddweud wrthych eich bod wedi'ch paru gyda phlentyn.
Cewch ddewis pa bryd i ddechrau cael eich Tâl Mabwysiadu Statudol. Gall ddechrau ar ddyddiad lleoli'r plentyn neu hyd at 14 diwrnod cyn y dyddiad y disgwylir i'r plentyn gael ei leoli.
Os oes gennych fwy nag un swydd, mae'n bosib y gallwch chi gael Tâl Mabwysiadu Statudol gan bob cyflogwr.
Os disgwylir i'ch plentyn ddod atoch ar gyfer ei fabwysiadu ar 31 Mawrth 2007 neu cyn y dyddiad hwnnw, ni chaiff eich cyflogwr dalu Tâl Mabwysiadu Statudol i chi am unrhyw wythnos y byddwch yn gwneud unrhyw waith i'ch cyflogwr.
Os disgwylir i'ch plentyn ddod atoch ar gyfer ei fabwysiadu ar 1 Ebrill 2007 neu ar ôl y dyddiad hwnnw, cewch weithio i'r cyflogwr sy'n talu Tâl Mabwysiadu Statudol i chi am 10 wythnos heb golli unrhyw Dâl Mabwysiadu Statudol.