I'ch helpu i gael amser o'r gwaith cyn i chi gael eich babi ac ar ôl y geni, mae'n bosibl y gallwch gael Tâl Mamolaeth Statudol, sef taliad wythnosol gan eich cyflogwr.
I fod yn gymwys i gael SMP rhaid i chi:
Darllenwch 'Tâl Mamolaeth Statudol - cymhwysedd' am ragor o wybodaeth.
Os na allwch gael SMP gan unrhyw un o'ch cyflogwyr (os oes gennych fwy nag un) efallai y gallwch gael Lwfans Mamolaeth yn ei le.
I wneud cais am SMP, rhaid i chi:
Darllenwch 'Tâl Mamolaeth Statudol - sut i wneud cais' am ragor o wybodaeth
Os ydych yn gymwys i gael SMP, fe'i telir:
Darllenwch 'Tâl Mamolaeth Statudol - sut y caiff ei gyfrifo' am ragor o wybodaeth.
Bydd eich cyflogwr fel arfer yn eich talu yn yr un ffordd ac ar yr un pryd â'ch cyflog arferol. Gall gael ei dalu am hyd at 39 o wythnosau.
Darllenwch 'Tâl Mamolaeth Statudol - pryd fydd eich taliadau'n dechrau' am ragor o wybodaeth.
Os ydych eisoes yn cael SMP mae amgylchiadau a all effeithio ar eich taliadau. Mae'r enghreifftiau canlynol yn rhoi rhagor o wybodaeth.
Os byddwch yn dychwelyd i'r gwaith tra'n cael SMP
Gallwch weithio hyd at ddeg diwrnod yn ystod eich Cyfnod Tâl Mamolaeth i'r cyflogwr sy'n talu eich SMP heb golli eich hawliad. Gelwir y rhain yn ddyddiau Cadw mewn Cysylltiad. Unwaith y byddwch wedi gweithio am ddeg diwrnod a byddwch yn gwneud rhagor o waith i'r cyflogwr hwnnw, byddwch yn colli SMP am bob wythnos yn eich Cyfnod Tâl Mamolaeth y byddwch yn gwneud y gwaith hwnnw.
Noder, os byddwch yn gweithio eich degfed diwrnod Cadw mewn Cysylltiad ac yn gwneud diwrnod arall o waith yn ystod yr un wythnos, byddwch yn colli eich SMP am yr wythnos honno. Y rheswm am hyn yw y byddwch wedi gweithio mwy na'r uchafswm o ddeg diwrnod yn ystod yr wythnos honno. Yn ystod y Cyfnod Tâl Mamolaeth, mae wythnos yn golygu unrhyw gyfnod o saith diwrnod. Er enghraifft, os dechreuodd eich SMP ar ddydd Iau, bydd wythnos yn rhedeg o ddydd Iau i ddydd Mercher.
Os byddwch yn dechrau gwaith gyda chyflogwr newydd
Os byddwch yn dechrau gwaith gyda chyflogwr newydd cyn i'ch babi gael ei eni ni fydd yn effeithio ar eich SMP.
Os byddwch yn dechrau gwaith gyda chyflogwr newydd ar ôl i'ch babi gael ei eni (os ydych yn gweithio i gyflogwr nad oedd yn eich cyflogi yn y 15fed wythnos cyn yr wythnos y disgwyliwyd i'ch babi gael ei eni) rhaid i'ch SMP ddod i ben. Rhaid i chi ddweud wrth y cyflogwr sy'n talu eich SMP.
Os byddwch yn dechrau gwaith gwirfoddol
Fel arfer nid yw gwaith gwirfoddol yn effeithio ar SMP.
Os byddwch yn mynd i fyw dramor neu'n ymweld â gwlad dramor
Unwaith y byddwch yn gymwys neu os ydych eisoes yn cael SMP ac yna'n mynd dramor, rhaid i'ch cyflogwr dalu SMP i chi.
Os byddwch yn gweithio y tu allan i'r Deyrnas Unedig (DU) i gyflogwr o'r DU efallai y gallwch gael SMP os yw eich cyflogwr yn talu cyfraniadau YG ar eich rhan, neu os byddai'n eu talu pe bai eich enillion yn ddigon uchel.
Os oeddech yn gweithio i gyflogwr o'r DU yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r DU ac yn gweithio yn y DU yn y 15fed wythnos cyn yr wythnos y disgwyliwyd i'ch babi gael ei eni efallai y gallwch gael SMP hyd yn oed os nad yw eich cyflogwr wedi talu cyfraniadau YG ar eich rhan.
Os byddwch yn mynd i'r ysbyty neu gartref gofal
Nid effeithir ar SMP os ewch i'r ysbyty neu gartref gofal.
Os cewch eich anfon i'r carchar neu'ch arestio
Daw SMP i ben, ond byddwch yn gallu gwneud cais am Lwfans Mamolaeth (MA).
Os byddwch yn wael ar ddiwedd eich SMP
Gallwch hawlio Tâl Salwch Statudol gan eich cyflogwr, bydd y rheolau arferol o ran cymhwysedd yn gymwys.
Os nad oes gennych hawl i Dâl Salwch Statudol, efallai y gallwch wneud cais am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth. Bydd eich cyflogwr yn rhoi ffurflen SSP1 i chi i egluro pam nad oes gennych hawl i Dâl Salwch Statudol.
SMP os ydych yn hawlio budd-daliadau neu gredydau treth
Os ydych chi neu'ch partner neu'ch partner sifil yn hawlio budd-daliadau neu gredydau treth, efallai y gallwch gael Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn.
Os ydych yn cael SMP, efallai y gallwch wneud cais am Gymhorthdal Incwm i ychwanegu at eich incwm.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Fudd-daliadau Mamolaeth yn nhaflen NI 17A 'Canllaw i Fudd-daliadau Mamolaeth' ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Bob tro y byddwch yn feichiog rhaid i chi ddefnyddio'r dyddiad y disgwylir i'ch babi gael ei eni i weithio allan eich SMP ar gyfer y beichiogrwydd hwnnw.
Os oes gennych fwy nag un swydd, efallai y gallwch gael SMP gan bob cyflogwr.
Os credwch fod penderfyniad eich cyflogwr i beidio â thalu SMP yn anghywir, neu os nad ydych yn cael y swm cywir, gofynnwch iddynt am reswm.
Os byddwch yn anghytuno o hyd, gallwch gysylltu â llinell ymholiadau Cyflogeion Cyllid a Thollau EM ar 0845 302 1479 am gyngor.