Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Tâl Tadolaeth Statudol

Pan fydd eich gwraig, partner neu bartner sifil yn rhoi genedigaeth i blentyn neu'n mabwysiadu plentyn, mae'n bosibl y gallech gael Tâl Tadolaeth Statudol a delir gan eich cyflogwr i'ch helpu i gael amser o'r gwaith.

Pwy sy'n gymwys?

Er mwyn bod yn gymwys i gael Tâl Tadolaeth Statudol rhaid i'r canlynol i gyd fod yn wir amdanoch chi:

  • rhaid mai chi yw tad biolegol neu fabwysiadwr y plentyn neu ur neu bartner neu bartner sifil i'r fam (neu'r fam sy'n mabwysiadu), neu fod gennych gyfrifoldeb dros fagu'r plentyn neu eich bod yn disgwyl ysgwyddo'r cyfrifoldeb hwnnw
  • rhaid eich bod wedi gweithio i'r un cyflogwr yn ddi-dor am o leiaf 26 wythnos erbyn y 15fed wythnos cyn dyddiad tebygol geni'r babi, neu wedi'ch cyflogi hyd at a chan gynnwys yr wythnos y parwyd eich gwraig neu'ch partner neu bartner sifil â phlentyn i'w fabwysiadu
  • rhaid eich bod yn dal i weithio i'r cyflogwr hwnnw'n ddi-fwlch hyd at y dyddiad pan enir y plentyn neu y'i rhoddir i'w fabwysiadu
  • rhaid i chi fod yn ennill o leiaf £87 yr wythnos ar gyfartaledd (cyn treth)

Faint fyddwch chi'n ei gael?

Os ydych chi'n ennill £87 yr wythnos neu fwy ar gyfartaledd (cyn treth), telir y Tâl Mabwysiadu Statudol, sef, £112.75 am 26 wythnos neu 90 y cant o'ch enillion wythnosol ar gyfartaledd os yw hynny'n llai.

Sut mae'n cael ei dalu

Bydd eich cyflogwr yn talu'r Tâl Tadolaeth Statudol i chi yn yr un ffordd ac ar yr un pryd ag y byddwch chi'n cael eich cyflog arferol.

Bydd eich Tâl Tadolaeth Statudol yn cael ei drin fel petai'n gyflog arferol, ac felly, bydd treth ac Yswiriant Gwladol yn cael ei dynnu oddi arno fel arfer.

Sut a phryd i hawlio

I hawlio Tâl Tadolaeth Statudol rhaid i chi hefyd chi hefyd ddweud wrth eich cyflogwr pa bryd rydych chi'n bwriadu bod yn absennol a hynny erbyn y 15fed wythnos cyn dyddiad tebygol geni'r babi, neu o fewn saith niwrnod i'r adeg pan fydd eich gwraig, eich partner neu bartner sifil yn cael gwybod gan yr asiantaeth fabwysiadu bod plentyn ar gael iddynt.

Os byddwch yn newid eich meddwl, rhaid i chi roi 28 diwrnod o rybudd.

Mae'n bosibl y bydd eich cyflogwr yn gofyn i chi am ffurflen hunan-dystysgrifo SC3 - dod yn rhiant - sy'n cadarnhau bod gennych yr hawl i'r tâl.

Beth arall y mae angen i chi ei wybod

Cewch ddewis pa bryd i ddechrau cael eich Tâl Tadolaeth Statudol. Gall y cyfnod absenoldeb ddechrau unrhyw ddiwrnod o'r wythnos

  • ar ddiwrnod neu ar ôl diwrnod geni'r babi, ond rhaid iddo ddod i ben o fewn wyth wythnos i union ddyddiad geni'r babi (neu wyth wythnos ar ôl y dyddiad y disgwylid i'r babi gyrraedd os genir y babi'n fuan)
  • o ddiwrnod lleoli'r plentyn, ond rhaid iddo ddod i ben o fewn wyth wythnos i ddyddiad y lleoli

Cewch gymryd naill ai un wythnos neu ddwy wythnos ar ôl ei gilydd.

Os oes gennych fwy nag un swydd, mae'n bosibl y gallwch chi gael Tâl Tadolaeth Statudol gan bob cyflogwr.

All eich cyflogwr ddim talu Tâl Tadolaeth Statudol i chi am unrhyw wythnos pan fyddwch chi'n gweithio.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU