Mae'n bosibl y gallwch gael y Bonws Cynnal Plant os ydych chi'n derbyn Cynhaliaeth Cynnal Plant dan yr hen gynllun (a gyfrifwyd cyn 3 Mawrth 2003) a bod eich budd-dal yn dod i ben oherwydd i chi ddechrau gweithio neu oherwydd eich bod yn ennill mwy.
Os ydych chi'n derbyn Cynhaliaeth Cynnal Plant (a'r swm wedi'i gyfrifo cyn 3 Mawrth 2003) a'ch bod yn hawlio Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, mae'n bosibl eich bod yn gymwys i gael y Bonws Cynnal Plant dan yr amodau canlynol:
Os cyfrifwyd eich Cynhaliaeth Cynnal Plant ar ôl 3 Mawrth 2003, fyddwch chi ddim yn gallu cael y Bonws Cynnal Plant.
Ond, mae'n bosibl eich bod yn gymwys i gael y Premiwm Cynnal Plant neu'r Credyd Treth Plant a'r Credyd Treth Gwaith - bydd eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol yn gallu esbonio hyn i chi.
Gall y Bonws Cynnal Plant fod yn werth hyd at £5 yr wythnos, gan ddibynnu ar faint o Gynhaliaeth Cynnal Plant a delid pan oeddech yn derbyn budd-dal. Y swm mwyaf sydd ar gael yw £1,000 yr wythnos.
Taliad untro yw'r Bonws Cynnal Plant ac fe'i telir i gyfrif banc, cymdeithas adeiladu, Swyddfa'r Post® neu Gynilion Cenedlaethol sy'n derbyn Taliad Uniongyrchol. Os oes gennych unrhyw gwestiwn am sut mae'n cael ei dalu, cysylltwch â'ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol.
Chaiff y Bonws Cynnal Plant ddim effaith ar eich budd-daliadau eraill na'ch credydau treth.
Rhaid i chi hawlio'r Bonws Cynnal Plant o fewn 28 diwrnod ar ôl i'ch budd-dal ddod i ben.
Er mwyn hawlio, gofynnwch i'ch Canolfan Byd Gwaith leol am ffurflen hawlio Bonws Cynnal Plant CMB1, neu ei llwytho oddi ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau (AGPh).
Os na fydd eich cais am Fonws Cynnal Plant yn llwyddiannus, neu os oes gennych gwestiynau am eich hawliad, gallwch ofyn i'r swyddfa Canolfan Byd Gwaith a fu'n delio gydag ef edrych eto ar eu penderfyniad.
Os ydych chi'n dal i fod yn anhapus am y canlyniad, gallwch apelio.
Mae'r Bonws Cynnal Plant yn cael ei ddirwyn i ben yn raddol, ac yn ei le, fe geir y Premiwm Cynnal Plant.
I gael rhagor o wybodaeth am sut y bydd y newidiadau'n effeithio arnoch chi, cysylltwch â llinell gymorth genedlaethol yr Asiantaeth Cynnal Plant ar 08457 133 133 (rhwng 8.00 am ac 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, a rhwng 9.00 am a 5.00 pm ar ddydd Sadwrn) neu â'ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith.