Caiff y Taliad Cynhaliaeth Plant ei dalu gan riant nad yw'n byw gyda'r teulu er mwyn eich helpu chi i fagu eu plentyn. Felly os yw rhiant arall y plentyn yr ydych yn gofalu amdano yn byw yn rhywle arall - dylai'r rhiant hwnnw roi arian i chi. Gall Yr Asiantaeth Cynnal Plant gyfrifo a chasglu'r Cynhaliaeth Plant i chi.
Gallwch ofyn i'r Gynhaliaeth Plant gael ei chyfrifo a'i gasglu os yw un o'r canlynol yn berthnasol:
Mae rheolau arbennig yn gymwys os yw unrhyw un o'r canlynol yn berthnasol:
Yn yr Alban, gall yr Asiantaeth hefyd dderbyn ceisiadau gan blentyn 12 oed neu drosodd - sy'n cael gwneud cais drostynt eu hunain.
Ni chewch Gynhaliaeth Plant gan riant sydd:
Fel arfer, ni fydd yr Asiantaeth yn barod i fwrw ymlaen â'ch cais am Gynhaliaeth Plant os yw'r rhiant dan sylw yn byw y tu allan i'r DU - oni bai eu bod yn gweithio i gyflogwr sydd â'i ganolfan yn y DU neu eu bod yn gwasanaethu gyda Lluoedd Arfog EM.
Mae swm taliad y Cynhaliaeth Plant y mae'n rhaid i riant nad yw'n byw gyda'r teulu ei dalu fel arfer yn dibynnu ar y canlynol:
Gallwch ddefnyddio 'cyfrifiannell cynhaliaeth' yr Asiantaeth i weld faint rydych chi'n debygol o'i gael.
Bydd y Cynhaliaeth Plant yn cael ei thalu'n syth i'ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu, Swyddfa'r Post® neu Gynilion Cenedlaethol sy'n derbyn Taliadau Uniongyrchol
Neu gall y rhiant nad yw'n byw gyda'r teulu ei dalu'n uniongyrchol i'r rhiant sy'n gofalu am y plentyn.
Ni fydd Cynhaliaeth Plant yn effeithio ar gredydau treth.
Os ydych chi'n cael Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith, bydd yr Asiantaeth Cynnal Plant yn gwneud cais am Gynhaliaeth Plant ar eich rhan, oni bai eich bod yn gofyn iddyn nhw beidio â gwneud hynny (gelwir hyn yn 'dewis peidio').
Efallai y byddwch chi'n meddwl y byddai'r risg o niwed neu boen meddwl diangen i chi neu'ch plant petai'r Asiantaeth yn ceisio trefnu Cynhaliaeth Plant yn 'rheswm da' dros ddewis peidio.
Heb 'reswm da', gallai dewis peidio olygu:
Os ydych chi'n meddwl y gallai hyn fod yn berthnasol i chi, soniwch wrth eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol.
I wneud cais am Gynhaliaeth Plant gallwch wneud un o'r canlynol:
Mae'n bwysig sôn wrth yr Asiantaeth ar unwaith os bydd un o'r canlynol yn newid:
Gallwch ofyn am newid ffigyrau'r Gynhaliaeth Plant:
Bydd yr Asiantaeth Cynnal Plant yn gwneud penderfyniadau am daliadau Cynhaliaeth Plant.
Os ydych chi'n meddwl bod penderfyniad am Gynhaliaeth Plant yn anghywir, fe gewch apelio.
Gallwch ffonio Llinell Gymorth Genedlaethol yr Asiantaeth Cynnal Plant ar 08457 133 133, ffôn testun 08457 138 924 (rhwng 8.00 am a 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, a rhwng 9.00 am a 5.00 pm ar ddydd Sadwrn).
Os ydych chi eisoes yn derbyn cynhaliaeth, a'ch bod eisiau holi am eich achos, rhaid i chi gysylltu â chanolfan yr Asiantaeth Cynnal Plant sydd wedi bod yn delio â chi.