Os yw eich teulu'n derbyn Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, mae'n bosibl y gallech chi gael taliad Premiwm Cynhaliaeth Plant gwerth hyd at £10 ychwanegol yr wythnos pan delir Cynhaliaeth Cynnal Plant ar gyfer eich plant.
Rydych chi'n gymwys i gael y taliad hwn os ydych chi'n derbyn Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, a'ch bod yn derbyn Cynhaliaeth Cynnal Plant ar gyfer plentyn sy'n byw gyda chi.
Os ydych chi'n gofalu am blentyn a'ch bod wedi 'dewis peidio' derbyn Cynhaliaeth Cynnal Plant 'heb reswm da', ni fyddwch yn gymwys i gael y Premiwm Cynhaliaeth Plant.
Os ydych chi'n gymwys i gael y Premiwm Cynhaliaeth Plant, byddwch yn gallu cael incwm ychwanegol gwerth hyd at £10 yr wythnos gyda'ch Cynhaliaeth Cynnal Plant heb i hynny newid dim ar eich pecyn budd-daliadau.
Fel rhywun sy'n gofalu am blentyn, gallwch gael un Premiwm Cynhaliaeth Plant gwerth hyd at £10 yr wythnos, waeth faint o blant cymwys a rhieni dibreswyl (rhieni sydd ddim yn byw ar eich aelwyd) sydd yn rhan o'r sefyllfa.
Os yw'r Asiantaeth Cynnal Plant yn casglu'ch Cynhaliaeth Cynnal Plant, fe gewch eich Cymhorthdal Incwm neu'ch Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm yn llawn gan y Ganolfan Byd Gwaith, a bydd yr Asiantaeth yn talu'r Premiwm drwy Daliad Uniongyrchol neu drwy siec. Byddant yn gwneud hyn unwaith i'r taliad gan y rhiant dibreswyl gael ei glirio.
Os ydych chi'n derbyn y Cynhaliaeth Cynnal Plant yn uniongyrchol gan y rhiant dibreswyl, bydd rhaid i chi ddweud wrth y Ganolfan Byd Gwaith. Yna, byddan nhw'n gweld faint o Gymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm a delir i chi, gan ganiatáu ar gyfer cynnydd o hyd at £10 yr wythnos yn eich incwm.
Mae'r Premiwm Cynhaliaeth Plant yn caniatáu i chi gael £10 o incwm ychwanegol yr wythnos gyda'ch Cynhaliaeth Cynnal Plant ar ben unrhyw Gymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm rydych chi'n ei dderbyn. Chaiff hyn ddim effaith ar eich hawl i gael Budd-dal Tai neu Fudd-dal Treth Gyngor.
Os ydych chi'n gofalu am blentyn a'ch bod yn derbyn Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, does dim rhaid i chi wneud cais am Gynhaliaeth Cynnal Plant.
Bydd yr Asiantaeth Cynnal Plant yn cychwyn cais am Gynhaliaeth Cynnal Plant fel mater o drefn (oni fyddwch chi'n gofyn iddyn nhw beidio). Bydd hyn yn digwydd hefyd pan fydd rhywun arall ar eich aelwyd yn hawlio Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm.
Os byddwch chi'n anghytuno â phenderfyniad gan y swyddfa sy'n delio â'ch hawliad, cewch ofyn iddyn nhw ailystyried eu penderfyniad. Os ydych chi'n dal i fod yn anhapus, gallwch apelio.