Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn

Os ydych chi ar incwm isel, taliad untro yw'r Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn i helpu tuag at gostau babi newydd. Daw'r grant gan y Gronfa Gymdeithasol a does dim rhaid i chi ei dalu'n ôl.

Pwy sy'n gymwys?

Gallwch gael Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn os ydych chi neu'ch partner yn derbyn unrhyw un o'r canlynol:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
  • Credyd Pensiwn
  • Credyd Treth Plant ar gyfradd uwch na'r elfen deulu
  • Credyd Treth Gwaith sy’n cynnwys ‘elfen anabledd’ neu ‘elfen anabledd ddifrifol’

ac os yw un o'r canlynol yn berthnasol i chi:

  • rydych chi neu'ch partner yn feichiog ac yn disgwyl babi o fewn 11 wythnos neu wedi rhoi genedigaeth o fewn y tri mis diwethaf
  • rydych chi neu'ch partner wedi mabwysiadu plentyn, neu mewn amgylchiadau penodol wedi cael gorchymyn preswylio ar gyfer plentyn, o fewn y tri mis diwethaf ac mae'r plentyn yn llai na blwydd oed
  • eich bod chi a'ch gŵr neu'ch gwraig wedi cael gorchymyn rhiant ar gyfer trefniant benthyg croth o fewn y tri mis diwethaf
  • eich bod chi neu'ch partner yn cael budd-dal ar gyfer dibynnydd dan 20 oed sy'n disgwyl babi o fewn 11 wythnos neu wedi geni babi o fewn y tri mis diwethaf

Defnyddir y term Partner yma i olygu:

  • rhywun rydych chi’n briod â nhw, neu sy’n byw gyda chi fel petaech chi’n briod â nhw, neu
  • bartner sifil, neu rywun sy'n byw gyda chi fel petaech chi'n bartneriaid sifil

Faint fyddwch chi'n ei gael?

£500 am bob babi. Ni fydd eich cynilion yn effeithio ar y grant.

Sut mae'n cael ei dalu

Fel arfer, telir yr arian yn syth i'ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu, neu unrhyw ddarparwr cyfrifon arall yr ydych chi wedi ei enwebu.

Yr effaith ar fudd-daliadau neu gredydau treth

Chaiff Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn ddim effaith ar eich budd-daliadau eraill na'ch credydau treth.

Sut i wneud cais

Gallwch chi, eich partner neu bartner sifil wneud cais am Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn drwy lenwi ffurflen SF100 gan swyddfa eich Canolfan Byd Gwaith leol.

Neu fe allwch lwytho ffurflen oddi ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau a'i dychwelyd i swyddfa eich Canolfan Byd Gwaith.

Pryd mae gwneud cais

Rhaid i chi hawlio'r grant yn y cyfnod rhwng 29ain wythnos eich beichiogrwydd a phan fydd eich plentyn yn dri mis oed.

Os ydych yn mabwysiadu babi neu wedi cael gorchymyn preswylio, rhaid i chi hawlio'r grant o fewn tri mis i'r dyddiad yr ydych yn mabwysiadu neu ddyddiad y gorchymyn preswylio ac ni ddylai'r plentyn fod yn hŷn na 12 mis pan fyddwch yn hawlio.

Os rhoddwyd gorchymyn rhiant i chi ar gyfer geni trwy fenthyg croth, rhaid i chi hawlio o fewn tri mis i ddyddiad y gorchymyn rhiant.

Os ydych chi'n disgwyl am benderfyniad ynghylch budd-dal neu gredyd treth, peidiwch ag oedi wrth hawlio gan ei bod yn dal i fod yn reidrwydd arnoch i hawlio o fewn y terfyn amser o dri mis.

Sut i apelio

Os gwrthodir Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn i chi, neu os oes gennych gwestiynau am eich taliad, cysylltwch â'r Ganolfan Byd Gwaith o fewn mis i ddyddiad llythyr y penderfyniad. Os byddwch yn cysylltu â'r Ganolfan Byd Gwaith yn hwyrach na hynny, efallai na fyddant yn gallu'ch helpu.

Gallwch chi, neu rywun arall a chanddynt yr awdurdod i weithredu ar eich rhan:

  • ofyn am eglurhad
  • gofyn am ddatganiad ysgrifenedig o’r rhesymau dros y penderfyniad
  • gofyn i Ganolfan Byd Gwaith edrych eto ar y penderfyniad i weld a ellir ei newid. Efallai eich bod yn credu bod rhai ffeithiau wedi cael eu hanwybyddu, neu efallai bod gennych wybodaeth sy'n effeithio ar y penderfyniad
  • apelio yn erbyn y penderfyniad i dribiwnlys annibynnol. Rhaid i hyn fod mewn ysgrifen

Gallwch gymryd unrhyw un o'r camau a restrir uchod, neu gallwch gymryd pob un ohonynt.

Beth arall y mae angen i chi ei wybod

Gwybodaeth y bydd rhaid i chi ei darparu wrth wneud cais

Bydd angen i chi ddweud wrth y Ganolfan Byd Gwaith pryd mae'ch babi i fod i gyrraedd.

Os yw’r babi wedi’i eni eisoes - dywedwch wrth y Ganolfan Byd Gwaith beth oedd dyddiad y geni, y mabwysiadu, y gorchymyn preswylio neu'r geni drwy fenthyg croth.

Os ydych chi'n hawlio ar gyfer mabwysiadu, gorchymyn preswylio neu fenthyg croth, byddan nhw am weld copïau gwreiddiol eich papurau mabwysiadu, eich gorchymyn preswylio neu'ch gorchymyn rhiant.

Rhaid i chi ddangos hefyd i'r Ganolfan Byd Gwaith eich bod wedi cael cyngor ynghylch anghenion iechyd a lles cyffredinol eich plentyn ac, os byddwch chi'n hawlio cyn geni'r babi, iechyd y fam.

Ceir tystysgrif ar gyfer hyn ar gefn y ffurflen hawlio a bydd rhaid i rywun proffesiynol ei llofnodi, er enghraifft:

  • bydwraig yn y gymuned neu fydwraig ysbyty
  • ymwelydd iechyd
  • eich meddyg

Gallwch gael rhagor o wybodaeth o'r Ganolfan Byd Gwaith.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU