Os ydych chi'n feichiog neu fod gennych fabi newydd ond nad ydych chi'n gymwys i gael Tâl Mamolaeth Statudol, mae'n bosib y gallwch chi hawlio Lwfans Mamolaeth drwy'r Ganolfan Byd Gwaith.
Mae'n bosib y cewch chi Lwfans Mamolaeth:
Gallech fod yn gymwys:
Os nad ydych chi'n gymwys i gael Tâl Mamolaeth Statudol na Lwfans Mamolaeth, mae'n bosib y gallwch gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn lle hynny.
Os ydych chi neu'ch partner neu'ch partner sifil yn hawlio budd-daliadau neu gredydau treth, mae'n bosib y gallwch gael Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn.
Ceir mwy o wybodaeth yn nhaflen NI 17A 'Canllaw i Fudd-daliadau Mamolaeth'.
Os ydych chi'n gymwys i gael Tâl Mamolaeth Statudol (gan unrhyw un o'ch cyflogwyr, hyd yn oed os oes gennych fwy nag un), fyddwch chi ddim yn gymwys i gael Lwfans Mamolaeth.
Mae'r Lwfans Mamolaeth yn talu cyfradd wythnosol safonol o £123.06 neu 90 y cant o'ch enillion wythnosol gros ar gyfartaledd (cyn treth), pa un bynnag yw'r lleiaf.
Telir y Lwfans Mamolaeth am gyfnod o 39 wythnos ar y mwyaf.
Efallai y gallwch gael arian ychwanegol ar gyfer eich gŵr, eich partner sifil neu rywun arall sy'n gofalu am eich plentyn, os yw'r person hwnnw ar incwm isel iawn.
Gellir talu'r Lwfans Mamolaeth bob wythnos neu bob pedair wythnos yn syth i'ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu, Swyddfa'r Post® neu Gynilion Cenedlaethol sy'n derbyn Taliad Uniongyrchol.
O'r 11eg wythnos cyn yr wythnos y disgwylir i'ch babi gael ei eni yw'r cynharaf y gellir cael Lwfans Mamolaeth. Y diwrnod olaf y cewch chi ddechrau ei gael yw ar y diwrnod ar ôl y geni.
O Ebrill 2009 mae’r Canolfan Byd Gwaith yn cyflwyno newidiadau i’r diwrnod a pha mor aml yr ydych yn cael eich talu Lwfans Mamolaeth. Gall y newidiadau symud y diwrnod yr ydych yn cael eich talu, bydd y diwrnod hwn yn cael ei benderfynu gan eich rhif Yswiriant Gwladol. Mae’r newidiadau hefyd yn golygu y byddwch yn cael eich talu o leiaf bob dwy wythnos. Dilynwch y ddolen isod am fwy o wybodaeth.
Nid yw'r Lwfans Mamolaeth yn effeithio ar Gredydau Treth nac ar y Lwfans Byw i'r Anabl.
Ond tra byddwch yn cael y Lwfans Mamolaeth ac unrhyw un o'r budd-daliadau canlynol - mae'n bosib y cânt eu lleihau neu eu stopio:
Cewch hawlio Lwfans Mamolaeth cyn gynted ag y byddwch yn feichiog ers 26 wythnos. I gael ffurflen hawlio (Ffurflen MA1), gallwch ffonio'r Ganolfan Byd Gwaith ar 0800 055 6688 (rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener) neu gallwch lwytho'r ffurflen oddi ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Os nad oes gennych hawl i Dâl Mamolaeth Statudol gan unrhyw un o'ch cyflogwyr, rhaid i bob un o'ch cyflogwyr roi ffurflen SMP1 i chi i'w hanfon gyda'ch ffurflen hawlio MA1.
Bydd angen i chi hefyd roi tystiolaeth feddygol i brofi'r dyddiad y disgwylir i'ch babi gael ei eni. Fel arfer, bydd y dyddiad hwn ar y dystysgrif mamolaeth, ffurflen MATB1, y bydd eich meddyg neu'ch bydwraig yn ei rhoi i chi ddim cynt na 20 wythnos cyn yr wythnos y disgwylir i'ch babi gael ei eni.
Bydd angen i chi roi prawf o'ch enillion. Dylech anfon eich slipiau cyflog gwreiddiol. Byddant yn cael eu dychwelyd atoch. Os ydych chi'n hunangyflogedig gyrrwch eich tystysgrif Eithrio Enillion Isel neu os ydych yn talu Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2, gofynnir i Gyllid a Thollau EM gadarnhau eich bod wedi gwneud pob taliad sy'n ddyledus.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â’r Ganolfan Byd Gwaith.
Mae'n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i'r Ganolfan Byd Gwaith os bydd eich amgylchiadau'n newid.
Os byddwch yn gwneud rhywfaint o waith i gyflogwr, neu fel person hunangyflogedig, cyn mae'ch Lwfans Mamolaeth i fod i ddod i ben, cewch weithio am hyd at ddeg diwrnod heb golli dim Lwfans Mamolaeth. Os byddwch yn gweithio mwy na deg diwrnod, byddwch yn colli Lwfans Mamolaeth am y dyddiau y byddwch yn eu gweithio ar ôl hynny.
Rhaid i chi roi gwybod i'r Ganolfan Byd Gwaith am unrhyw waith yr ydych yn ei wneud pan fyddwch yn cael Lwfans Mamolaeth.
Dyma rai newidiadau na fydd yn cael effaith ar y taliad:
Os gwrthodir y Lwfans Mamolaeth i chi, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich taliad, gallwch ofyn i'r Ganolfan Byd Gwaith ystyried eu penderfyniad eto.
Os ydych chi'n dal yn anhapus gyda'r canlyniad, gallwch apelio.
Bob tro y byddwch yn feichiog rhaid i chi ddefnyddio'r wythnos y disgwylir i'ch babi gael ei eni i gyfrifo'ch Lwfans Mamolaeth ar gyfer y beichiogrwydd hwnnw.
Mae Credydau Yswiriant Gwladol ar gael ar gyfer pob wythnos gyflawn (o ddydd Sul hyd at ddydd Sadwrn) o fewn cyfnod eich Lwfans Mamolaeth.
Os ydych chi'n ddi-waith yn yr 11eg wythnos cyn yr wythnos y disgwylir i'ch babi gael ei eni a'ch bod yn gymwys i gael Lwfans Mamolaeth, bydd y taliadau'n cychwyn bryd hynny. Os genir eich babi cyn hyn, bydd eich Lwfans Mamolaeth yn dechrau ar y diwrnod ar ôl y geni.
Os bydd eich babi'n cael ei eni cyn dechrau'r 11eg wythnos cyn yr wythnos y disgwylir i'ch babi gael ei eni neu cyn y dyddiad y bwriadwyd i'ch Lwfans Mamolaeth ddechrau, bydd y lwfans yn dechrau o'r diwrnod ar ôl geni'r plentyn.
Os byddwch chi'n absennol o'r gwaith am reswm yn gysylltiedig â'r beichiogrwydd yn ystod y pedair wythnos cyn yr wythnos y disgwylir i'r babi gael ei eni, bydd y Lwfans Mamolaeth yn dechrau y diwrnod ar ôl y diwrnod llawn cyntaf i chi fod yn absennol o'r gwaith oherwydd eich beichiogrwydd.
Os ydych chi'n dal yn gyflogedig neu'n hunangyflogedig yn ystod yr 11 wythnos cyn dyddiad geni tebygol eich babi, cewch ddewis pryd i ddechrau derbyn Lwfans Mamolaeth. Bydd y dyddiad yr ydych chi'n ei ddewis yn cyd-fynd â'r dyddiad y byddwch chi'n dechrau ar eich absenoldeb mamolaeth.
Ceir mwy o wybodaeth yn nhaflen NI 17A 'Canllaw i Fudd-daliadau Mamolaeth'.