Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cymorth gyda’r Grant Iechyd yn ystod Beichiogrwydd

Os ydych chi'n ddarpar fam, mae'n bosib y gallwch gael un taliad di-dreth, a elwir yn Grant Iechyd yn ystod Beichiogrwydd. Mae'r arian ar gael er mwyn eich helpu gyda chostau amrywiol wrth i enedigaeth eich babi nesáu.

Pwy all gael y Grant?

Gallwch gael y grant os yw pob un o’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn feichiog ers 25 wythnos o leiaf
  • rydych wedi cael cyngor iechyd gan fydwraig neu feddyg i’ch helpu chi a’ch babi aros yn iach yn ystod y beichiogrwydd
  • rydych yn bresennol yn y DU, yn ‘preswylio fel arfer’ yn y DU ac yn meddu ar ‘hawl i breswylio’ yn y DU (bydd a ydych yn ‘preswylio fel arfer’ ai peidio yn dibynnu ar eich amgylchiadau, ond fel arfer mae'n golygu mai yma y mae eich prif gartref)

Os mai dim ond newydd gyrraedd y DU yr ydych chi, yr un yw'r rheolau preswylio â'r rhai ar gyfer Budd-dal Plant.

Os ydych chi, eich partner neu'ch rhiant yn byw dramor fel un o Weision y Goron (mae hyn yn golygu gweision sifil y DU neu aelodau o Luoedd Arfog Ei Mawrhydi) gallwch ddal i gael y grant os oes rhai rheolau penodol yn berthnasol. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth drwy ddilyn y ddolen isod.

Faint fyddwch chi’n ei gael?

Gallwch gael un taliad o £190 ar gyfer pob beichiogrwydd

Gallwch gael un taliad o £190 ar gyfer pob beichiogrwydd. Dim ond un grant o £190 a gaiff ei dalu hyd yn oed os ydych chi'n disgwyl mwy nag un babi - gefeilliaid, er enghraifft.

Bydd y taliad yn ychwanegol at unrhyw gredydau treth neu fudd-daliadau eraill y byddwch o bosib yn eu cael. Bydd pawb yn cael yr un faint – ni fydd neb yn eich holi am eich incwm.

Sut i hawlio

Dim ond gan eich meddyg neu'ch bydwraig y gallwch gael ffurflen hawlio, os mai dyna pwy fyddwch chi'n eu gweld yn ystod eich apwyntiadau cyn-geni. Byddan nhw:

  • yn rhoi'r ffurflen hawlio i chi, fel arfer, yn ystod yr apwyntiad cyn-geni cyntaf a gewch ar ôl i chi fod yn feichiog ers 25 wythnos
  • angen llenwi, arwyddo a dyddio eu rhan nhw o'r ffurflen hawlio cyn ei rhoi i chi

Pan fydd eich bydwraig neu’ch meddyg wedi llenwi eu rhannau hwy o’r ffurflen hawlio, byddwch chi’n llenwi’r gweddill ac yn ei hanfon, yn yr amlen a ddarperir, i’r cyfeiriad canlynol:

Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi a’r Grant Iechyd yn ystod Beichiogrwydd / HM Revenue & Customs Health in Pregnancy Grant
Comben House
Farriers Way
Lerpwl
L75 1AX

Os nad oes gan eich bydwraig neu'ch meddyg ffurflen hawlio

Os nad oes gan eich bydwraig neu’ch meddyg ffurflen hawlio, ffoniwch Linell Gymorth y Grant Iechyd yn ystod Beichiogrwydd ar 0845 366 7885 a rhoi gwybod iddynt. Bydd y Llinell Gymorth yn trefnu i anfon ffurflen yn syth at eich bydwraig neu'ch meddyg, a fydd wedyn yn ei rhoi i chi er mwyn i chi allu hawlio.

Os byddwch yn colli eich ffurflen hawlio

Os byddwch yn colli eich ffurflen hawlio, gofynnwch am un arall gan eich bydwraig neu'ch meddyg cyn gynted â phosibl.

Ffurflenni mewn print bras

Gallwch hefyd gael gafael ar gopi o'r ffurflen mewn print bras drwy ffonio Llinell Gymorth y Grant Iechyd yn ystod Beichiogrwydd ar 0845 366 7885. Byddant yn trefnu i anfon y ffurflen at eich bydwraig neu'ch meddyg er mwyn i chi allu hawlio

Cofiwch anfon eich ffurflen hawlio mewn da bryd

Ar ôl llenwi eich ffurflen hawlio, dylech sicrhau ei bod yn cyrraedd Swyddfa’r Grant Iechyd yn ystod Beichiogrwydd ddim mwy na 31 diwrnod ar ôl i’ch bydwraig neu’ch meddyg ei llofnodi. Fel arall, mae'n bosibl na chewch eich talu. Dylech ddal i anfon eich ffurflen hyd yn oed os na allwch lenwi'r ffurflen i gyd, er enghraifft, os nad oes gennych rif Yswiriant Gwladol neu os nad oes gennych gyfrif banc.

Neges am ddim i'ch atgoffa

Gallwch gael neges am ddim i’ch atgoffa pan fyddwch yn feichiog ers 25 wythnos i’ch helpu i gofio gwneud eich hawliad. Gallwch gofrestru ar gyfer y gwasanaeth cyfrinachol hwn unrhyw adeg drwy un o’r ffyrdd canlynol:

  • ar-lein (drwy ddilyn y ddolen isod)
  • anfon DUE (wedi'i ddilyn gan y dyddiad y disgwylir i'ch babi gael ei eni ar ffurf ddmmbb) ar neges testun i 83377 – er enghraifft, os disgwylir i'ch babi gael ei eni ar 6 Mehefin 2009 dylech roi'r canlynol yn eich neges: DUE 060609

Sut caiff y grant ei dalu

Bydd y grant yn cael ei dalu’n uniongyrchol i’ch cyfrif banc neu'ch cyfrif cymdeithas adeiladu. Bydd angen i’r cyfrif fod un ai:

  • yn eich enw chi, neu
  • yn eich enw chi ac yn enw eich partner, neu
  • yn enw rhywun sy’n gweithredu ar eich rhan, ‘penodai’, er enghraifft, neu
  • ar y cyd yn eich enw chi ac yn enw rhywun sy’n gweithredu ar eich rhan

Os nad oes gennych gyfrif banc na chyfrif cymdeithas adeiladu, gall unrhyw fanc neu gymdeithas adeiladu eich helpu i agor un. Os byddwch chi'n cael anhawster wrth geisio agor cyfrif banc, cysylltwch â Llinell Gymorth y Grant Iechyd yn ystod Beichiogrwydd er mwyn trafod ffyrdd eraill o gael eich talu.

Oes angen rhagor o help arnoch?

Gallwch gysylltu â Swyddfa'r Grant Iechyd yn ystod Beichiogrwydd drwy sawl ffordd.

Gallwch anfon e-bost gydag ymholiadau cyffredinol drwy ddilyn y ddolen isod, neu gallwch gysylltu â Llinell Gymorth y Grant Iechyd yn ystod Beichiogrwydd. Mae'r Llinell gymorth ar agor rhwng 8.00 am ac 8.00 pm bob dydd ac eithrio Dydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan.

Gallwch ffonio 0845 366 7885, neu'r ffôn testun ar 0845 366 7886 - os ydych chi'n fyddar neu fod gennych nam ar eich lleferydd.

Os byddai’n well gennych siarad Cymraeg gallwch ffonio 0845 302 1489.

Os ydych yn ffonio o dramor gallwch hefyd gysylltu â'r Llinell gymorth ar + 44 292 050 1178.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU