Efallai y gallwch wneud cais am Dâl Mamolaeth Statudol gan eich cyflogwr cyn i'ch babi gael ei eni ac ar ôl hynny. Rhaid i chi fod wedi bod mewn cyflogaeth barhaus gyda'ch cyflogwr am o leiaf 26 o wythnosau ac yn ennill o leiaf £95 yr wythnos.
I fod yn gymwys i gael Tâl Mamolaeth Statudol (SMP), rhaid i chi fodloni dwy reol sylfaenol:
I fodloni'r rheol o ran cyflogaeth barhaus rhaid i chi fod wedi bod yn gweithio i'ch cyflogwr yn barhaus am o leiaf 26 o wythnosau i mewn i'r wythnos gymhwyso.
Yr wythnos gymhwyso yw'r 15fed wythnos cyn yr wythnos y disgwylir i'r babi gael ei eni.
Rhaid i'r cyfnod hwn gynnwys o leiaf un diwrnod o gyflogaeth yn yr wythnos gymhwyso.
Er bod cyflogaeth barhaus fel arfer yn golygu cyflogaeth gan yr un cyflogwr heb seibiant, mae rhai amgylchiadau lle gellir diystyru seibiannau mewn cyflogaeth. Gellir addasu'r rheol o ran cyflogaeth ychydig os caiff eich babi ei eni'n gynamserol.
Os cewch eich cyflogi gan asiantaeth
Os cewch eich cyflogi gan asiantaeth, ym mhob un o'r 26 o wythnosau i mewn i'r wythnos gymhwyso, byddwch yn bodloni'r rheol o ran cyflogaeth barhaus. Os gwnaethoch rywfaint o waith yn ystod unrhyw wythnos mae'n cyfrif fel wythnos lawn. Efallai y bydd rhai wythnosau lle na wnaethoch weithio i'r asiantaeth, ond nid yw hyn yn golygu na fyddwch yn bodloni'r rheol o ran cyflogaeth.
Os oes gennych fwy nag un cyflogwr
Os oes gennych fwy nag un swydd, efallai y gallwch gael SMP gan bob cyflogwr.
Os byddwch yn newid cyflogwr
Os byddwch yn newid swyddi yn ystod eich beichiogrwydd, mae'n annhebygol y byddwch yn bodloni'r rheol o ran cyflogaeth barhaus. Ond mae amgylchiadau lle gellir trin eich cyflogaeth yn barhaus, hyd yn oed os bydd eich cyflogwr yn newid.
Gellir cael rhagor o wybodaeth am y rheol o ran cyflogaeth barhaol yn nhaflen NI17A 'Canllaw i Fudd-daliadau Mamolaeth'.
I fod yn gymwys i gael SMP, rhaid eich bod wedi bod yn ennill:
Dyma'r Terfyn Enillion Is, sef y swm sy'n rhaid i chi ei ennill cyn y cewch eich trin fel pe baech yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol.
Os byddwch yn bodloni'r ddwy reol o ran cyflogaeth barhaus ac enillion, rhaid i'ch cyflogwr dalu SMP i chi. Rhaid iddo dalu SMP i chi hyd yn oed os daw eich contract i ben ar unrhyw adeg ar ôl dechrau'r 15fed wythnos cyn yr wythnos y disgwylir i'ch babi gael ei eni.
Nid oes terfynau oedran i fod yn gymwys i gael SMP. Er enghraifft, os ydych o dan 16 oed ac yn bodloni'r rheolau gallwch fod yn gymwys i gael SMP gan eich cyflogwr.
Y dyddiad pwysig er mwyn gweithio allan os gallwch gael SMP a faint y gallwch ei gael yw:
Cyfeirir at yr wythnos y disgwylir i'ch babi gael ei eni fel EWC.
Bob tro y byddwch yn feichiog rhaid i chi ddefnyddio'r dyddiad y disgwylir i'ch babi gael ei eni i weithio allan eich SMP ar gyfer y beichiogrwydd hwnnw.
Os na all eich cyflogwr dalu SMP i chi rhaid iddo:
Efallai y gallwch wneud cais am Lwfans Mamolaeth yn ei le. Os ydych am wneud cais am Lwfans Mamolaeth bydd angen i chi anfon y ffurflen SMP1 i'r Ganolfan Byd Gwaith ynghyd â'ch ffurflen gais am Lwfans Mamolaeth.
Gellir cael rhagor o wybodaeth yn y daflen NI17A 'Canllaw i Fudd-daliadau Mamolaeth'.