Gweision y Goron dramor - gwybodaeth am y Grant Iechyd yn ystod Beichiogrwydd
Os ydych chi'n un o Weision y Goron wedi'i leoli dramor - er enghraifft, rydych chi'n was sifil neu'n aelod o Luoedd Arfog EM - gallwch gael y Grant Iechyd yn ystod Beichiogrwydd. Er mwyn bod yn gymwys i'w gael, rhaid i chi fodloni rhai amodau arbennig.
Os ydych chi'n gweithio fel un o Weision y Goron dramor, er mwyn cael y grant mae'n rhaid i chi fodloni'r amodau arferol ynglŷn â bod yn feichiog ers o leiaf 25 wythnos, a chael cyngor iechyd gan eich bydwraig neu'ch meddyg.
Yn ogystal â hynny, rhaid i un o'r canlynol fod wedi bod yn berthnasol yn union cyn i chi gael eich lleoli dramor:
Gallwch hefyd gael y grant os yw un o’r canlynol yn berthnasol:
Gallwch gysylltu â Swyddfa'r Grant Iechyd yn ystod Beichiogrwydd drwy sawl ffordd.
Gallwch e-bostio ymholiadau cyffredinol drwy ddilyn y ddolen isod, neu gallwch gysylltu â Llinell Gymorth y Grant Iechyd yn ystod Beichiogrwydd. Mae'r llinell gymorth ar agor o 8.00 am tan 8.00 pm bob dydd ac eithrio Dydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan.
Gallwch ffonio 0845 366 7885, neu'r ffôn testun ar 0845 366 7886 - os ydych chi'n fyddar neu fod gennych nam ar eich lleferydd
Os byddai’n well gennych siarad Cymraeg gallwch ffonio 0845 302 1489.
Os ydych yn ffonio o dramor gallwch hefyd gysylltu â'r llinell gymorth ar + 44 292 050 1178.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs