Os hoffech gymryd rhan yn ein harolwg wefan ymwelydd, a wnewch chi ymweld â'r safle ac wedyn dod yn �l a dewis y ddolen hon i gymryd rhan yn yr arolwg.

Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Tâl Salwch Statudol

Os oes gennych chi waith ond na allwch chi weithio oherwydd eich bod yn sâl, mae'n bosibl y gallwch chi gael Tâl Salwch Statudol. Caiff ei dalu gan eich cyflogwr a hynny am hyd at 28 wythnos.

Pwy all gael Tâl Salwch Statudol

Os ydych chi'n gweithio i gyflogwr dan gontract gwasanaeth (hyd yn oed os mai dim ond newydd ddechrau ydych chi), bydd gennych hawl i'r Tâl Salwch Statudol, os yw'r canlynol yn berthnasol:

  • eich bod yn sâl am o leiaf bedwar diwrnod yn olynol (gan gynnwys penwythnosau, gwyliau banc a dyddiau pan na fyddwch yn gweithio fel arfer)
  • eich bod yn ennill o leiaf £95 yr wythnos

Os oes gennych fwy nag un swydd, mae'n bosibl y gallwch chi gael Tâl Salwch Statudol gan bob cyflogwr.

Am ragor o wybodaeth, darllenwch 'Tâl Salwch Statudol – hawl a pha ddyddiau byddwch yn cael eich talu amdanynt'.

Sut mae cael Tâl Salwch Statudol

Er mwyn cael Tâl Salwch Statudol, rhaid i chi:

  • ddweud wrth eich cyflogwr eich bod yn sâl
  • cyflwyno rhyw fath o dystiolaeth feddygol i'ch cyflogwr

Am ragor o wybodaeth, darllenwch 'Tâl Salwch Statudol - dweud wrth eich cyflogwr eich bod yn sâl a darparu tystiolaeth'.

Faint fyddwch chi’n ei gael?

Y gyfradd safonol ar gyfer Tâl Salwch Statudol yw £79.15 yr wythnos.

Bydd eich cyflogwr yn cyfrifo cyfradd ddyddiol o Dâl Salwch Statudol pe bai angen, drwy rannu'r gyfradd safonol gyda'r dyddiau pan fyddech fel arfer yn gweithio. I ddibenion cyfrifo'r Tâl Salwch Statudol, dydd Sul yw dechrau'r wythnos.

Sut caiff ei dalu

Fel arfer, telir y Tâl Salwch Statudol ar eich diwrnod cyflog arferol yn yr un modd â'ch enillion cyffredin.

Codir treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol o'r Tâl Salwch Statudol. Fodd bynnag, os mai dim ond y Tâl Salwch Statudol rydych chi'n ei dderbyn, efallai na fydd digon ohono i godi treth arno, oni bai eich bod yn cael taliadau eraill yn ychwanegol.

Beth sy'n digwydd os nad yw'r Tâl Salwch Statudol yn daladwy, neu ei fod yn dirwyn i ben?

Os na allwch chi gael Tâl Salwch Statudol, neu os yw wedi dod i ben, rhaid i'ch cyflogwr lenwi ffurflen SSP1 a'i rhoi i chi. Ar y ffurflen, rhaid i'ch cyflogwr ddweud pam na chafodd y Tâl Salwch Statudol ei dalu neu pam ei fod yn dod i ben, yn ogystal â nodi dyddiad y taliad olaf. Defnyddir ffurflen SSP1 i gefnogi cais am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.

Gallwch lwytho ffurflen SSP1 oddi ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Mae dwy fersiwn o'r ffurflen, un y gallwch ei hargraffu ac yna'i llenwi â llaw, neu un y gallwch ei llenwi ar-lein ac yna'i hargraffu.

Cynlluniau tâl salwch galwedigaethol

Os oes gan eich cyflogwr gynllun tâl salwch, sy'n hafal i'r Tâl Salwch Statudol neu'n uwch, nid oes rheidrwydd arnynt i weithredu'r cynllun Tâl Salwch Statudol. Efallai hefyd bod ganddynt reolau gwahanol wrth dalu, a bydd rhaid i chi gadw at y rhain.

Am ragor o wybodaeth am gynlluniau tâl salwch galwedigaethol, darllenwch 'hawliau tâl salwch'.

Os byddwch chi'n sâl ar ôl 28 wythnos o dâl salwch galwedigaethol, neu os daw hwn i ben ynghynt ac nad ydych chi'n gymwys i gael Tâl Salwch Statudol, rhaid i'ch cyflogwr roi ffurflen SSP1 i chi er mwyn i chi allu hawlio'r Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.

Gwybodaeth i weithwyr asiantaeth

Os ydych chi'n bodloni'r amodau, bydd y Tâl Salwch Statudol yn daladwy i chi yn union fel y mae i'r rhai sy'n cyfrif fel cyflogeion.

Erys yn daladwy pan fyddwch chi'n gweithio ar aseiniad neu pan fyddwch dan gontract gyda'ch asiantaeth. All eich cyflogwr ddim terfynu eich contract gwasanaeth er mwyn osgoi talu Tâl Salwch Statudol i chi.

Sut mae budd-daliadau a Thaliadau Statudol yn effeithio ar y Tâl Salwch Statudol

Gall y Tâl Salwch Statudol effeithio ar rai budd-daliadau a thaliadau eraill y gallech fod yn gymwys i'w cael. Am ragor o wybodaeth, darllenwch 'Tâl Salwch Statudol - yr effaith ar fudd-daliadau a thaliadau eraill'.

Beth arall y dylech ei wybod

Os byddwch chi'n mynd i'r ysbyty, chaiff hyn ddim effaith ar y Tâl Salwch Statudol.

Os byddwch yn gweithio dramor, mae'n bosibl y gallwch chi gael Tâl Salwch Statudol os yw eich cyflogwr yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol drosoch chi.

Os byddwch chi'n mynd dramor ar ymweliad, efallai y cewch ddal i hawlio Tâl Salwch Statudol os gallwch brofi eich bod yn dal yn sâl.

All aelodau sy'n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog ddim cael Tâl Salwch Statudol, ond efallai y gall aelodau o'u teuluoedd ei gael.

Am ragor o wybodaeth, darllenwch 'Hawlio budd-daliadau yn Ewrop'.

Tâl Salwch Statudol ac ansolfedd

Os nad yw eich cyflogwr yn gallu rhoi Tâl Salwch Statudol i chi oherwydd ei fod wedi mynd yn fethdalwr, bydd Cyllid a Thollau EM yn eich talu yn lle hynny. Dim ond pan fydd eich cyflogwr wedi mynd yn fethdalwr yn ffurfiol y byddan nhw'n gwneud hyn. Bydd Cyllid a Thollau EM yn dechrau talu yn ystod wythnos yr ansolfedd. Rhaid i unrhyw daliadau cyn y dyddiad hwnnw gael eu talu gan eich cyflogwr.

Os yw eich cyflogwr yn fethdalwr, dylech ffonio'r Tîm Anghydfodau Taliadau Statudol ar 0191 225 5221. Bydd arnynt angen gwybod:

  • eich enw a'ch cyfeiriad
  • y dyddiad pan aeth eich cyflogwr yn fethdalwr
  • manylion o'ch slipiau cyflog am unrhyw daliadau a gawsoch a'r cyfnod yr oedd y taliad olaf yn ei gynnwys
  • y dyddiad pan fydd y tâl salwch statudol yn dod i ben, neu'r dyddiad y bwriedwch ddychwelyd i'r gwaith

Efallai y bydd gofyn i chi gyflwyno rhywfaint o'r wybodaeth hon ar bapur.

Os byddwch chi'n anghytuno â'r penderfyniad am eich Tâl Salwch Statudol

Os ydych yn credu bod eich cyflogwr wedi gwneud camgymeriad wrth benderfynu peidio â rhoi Tâl Salwch Statudol i chi, neu os nad ydych yn cael y swm cywir, dylech ofyn iddo beth yw'r rheswm dros hynny.

Os ydych yn dal i anghytuno gallwch ffonio llinell ymholiadau Cyllid a Thollau EM ar gyfer cyflogeion ar 0845 302 1479 i gael cyngor.

Darllenwch ‘Taliadau statudol – os ydych yn credu bod penderfyniad eich cyflogwr yn anghywir’ am fwy o wybodaeth.

Allweddumynediad llywodraeth y DU