Mynd i'r prif gynnwys
Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os nad oeddech yn gallu gweithio oherwydd salwch neu anabledd cyn 31 Ionawr 2011 efallai rydych yn cael Budd-dal Analluogrwydd. Ers 31 Ionawr 2011, ni dderbyniwyd unrhyw gais newydd am Fudd-dal Analluogrwydd. Dylech wneud cais am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn lle.
O 31 Ionawr 2011, ni all pobl gwneud ceisiadau newydd am Fudd-dal Analluogrwydd mwyach. Dylech wneud cais am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn lle.
Newidiadau i bobl sydd eisoes yn hawlio budd-daliadau analluogrwydd
Caiff eich cais ei adolygu os ydych yn cael un o’r budd-daliadau canlynol
Bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn ysgrifennu atoch pan fydd eich cais am fudd-dal yn mynd i gael ei adolygu. Ni chysylltir â phawb ar yr un pryd. Dechreuodd hyn ym mis Hydref 2010 a disgwylir iddo gael ei gwblhau yn 2014.
Hyd nes caiff eich cais ei adolygu byddwch yn parhau i gael eich budd-dal cyfredol, cyn belled â'ch bod yn parhau i fodloni'r amodau ar gyfer y budd-dal hwnnw.
Ni fydd y newid hwn yn effeithio arnoch os ydych:
Defnyddiwch y ddolen ganlynol i gael gwybod mwy am sut y bydd eich cais yn cael ei adolygu.
Mae Budd-dal Analluogrwydd yn cael ei dalu yn ôl tair cyfradd wythnosol:
Y symiau wythnosol ar hyn o bryd
| Cyfradd wythnosol | Swm | Swm os ydych dros oed Pensiwn y Wladwriaeth |
|---|---|---|
| tymor byr (cyfradd is) | £71.10 | £90.45 |
| tymor byr (cyfradd uwch) | £84.15 | £94.25 |
| cyfradd sylfaenol hirdymor | £94.25 | Nid ydych yn gymwys am gyfradd sylfaenol hirdymor Budd-dal Analluogrwydd |
Efallai y gallwch gael budd-dal ychwanegol - 'ychwanegiad oedran' - gyda'r Budd-dal Analluogrwydd hirdymor os oeddech o dan 45 oed pan aethoch yn rhy sâl neu'n rhy anabl i weithio.
Efallai y gallwch gael budd-dal ychwanegol ar gyfer eich partner, partner sifil neu'r person sy'n gofalu am eich plant.
Os oes gennych incwm o bensiwn gros o fwy na £85 yr wythnos, bydd y swm y budd-dal ei ostwng o hanner y swm dros ben.
Y sŵn ychwanegol yw'r gwahaniaeth rhwng £85 a'r incwm pensiwn gwirioneddol. Er enghraifft, ar gyfer incwm pensiwn o £100, y swm ychwanegol yw
£15. Mae swm y Budd-dal Analluogrwydd sy'n daladwy yn cael ei ostwng gan hanner o hynny, sef £7.50.
Eithriadau
Nid yw’r rheol hon yn briodol os:
Caiff pob budd-dal, pensiwn a lwfans ei dalu i mewn i gyfrif. Dyma’r ffordd fwyaf diogel, cyfleus ac effeithlon o gael ei dalu.
Os ydych yn cael Budd-dal Analluogrwydd efallai y byddwch yn gallu gwneud rhai mathau o waith - o fewn terfynau. Gelwir hyn yn 'Gwaith a Ganiateir'. Ond os ydych yn cael Budd-dal Analluogrwydd a chyflog, gallai hyn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau sy’n gysylltiedig ag incwm a gewch, fel
Mae'n bwysig eich bod yn cysylltu â'ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol os bydd eich amgylchiadau'n newid - er enghraifft:
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith leol.
A yw eich Budd-dal Analluogrwydd wedi’i ostwng oherwydd bod chi neu’ch partner wedi methu â mynd i gyfweliad sy'n canolbwyntio ar waith cyn 31 Hydref 2011?
O 31 Hydref 2011, os oes gennych blentyn o dan flwydd oed yn y cartref, mae’r rheolau ar gyfer cyfweliadau sy'n canolbwyntio ar waith yn y Ganolfan Gwaith wedi newid.
Os ydych yn hawlio Budd-dal Analluogrwydd ac yn perthyn i un o'r grwpiau a restrir isod, efallai na fydd y gostyngiad yn berthnasol mwyach:
Cysylltwch â’ch Canolfan Gwaith leol i gael rhagor o wybodaeth.
Gallwch ofyn i’r swyddfa a deliodd â’ch cais i edrych ar ei phenderfyniad budd-dal eto os:
Os byddwch yn parhau i fod yn anfodlon gyda’r canlyniad, gallwch apelio.
Efallai y gallwch gael Credyd Treth Plant os ydych chi'n gyfrifol am o leiaf un plentyn. Os ydych yn gweithio ac ar incwm isel, mae'n bosib y gallwch gael Credyd Treth Gwaith.
Gallwch archebu pecyn cais dros y ffôn drwy ffonio’r Llinell Cymorth Credyd Treth.