Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cynllun costau teithio i'r ysbyty

Mae'n bosib y gallech chi gael help ariannol gan y Cynllun Costau Teithio i'r Ysbyty os ydych chi ar incwm isel, neu fod angen triniaeth dan y GIG arnoch mewn ysbyty, canolfan GIG arall neu glinig preifat a'ch bod wedi cael eich cyfeirio yno gan un o ymgynghorwyr ysbytai'r GIG.

Pwy gaiff hawlio?

Mae gennych yr hawl fel mater o drefn i hawlio dan y Cynllun Costau Teithio i'r Ysbyty os ydych chi (neu'r rhai sy'n dibynnu arnoch chi) yn derbyn o leiaf un o'r canlynol:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
  • Credyd Gwarant Pensiwn

Byddwch hefyd yn gymwys os yw eich incwm yn £15,050 neu'n llai a'ch bod hefyd yn derbyn un o'r canlynol.

  • Credyd Treth Plentyn (gyda Chredyd Treth Gwaith neu hebddo)
  • Credyd Treth Gwaith sy'n cynnwys 'elfen anabledd' neu 'elfen anabledd difrifol'

Os oes rhaid i oedolyn neu blentyn sy'n dibynnu arnoch deithio gyda chi am resymau meddygol, gallwch hawlio'u costau teithio nhw hefyd.

Os ydych ar incwm isel, ond nad ydych chi'n derbyn unrhyw un o'r budd-daliadau neu'r lwfansau hyn, mae'n bosibl y gallech chi ddal i hawlio costau teithio drwy gyfrwng cynllun cymorth incwm isel y GIG (ewch i'r adran 'Cynllun cymorth incwm isel y GIG').

Faint fyddwch chi'n ei gael?

Os oes gennych yr hawl i gael budd-daliadau neu lwfansau, fe gewch ad-daliad llawn ar gost eich taith drwy ddefnyddio'r ffurf rataf ar gludiant cyhoeddus sydd ar gael, gan gynnwys unrhyw ostyngiadau neu fargeinion arbennig.

Mae hyn yn berthnasol pa ffordd bynnag y byddwch chi'n dewis teithio. Er enghraifft, os defnyddiwch chi gar preifat, gallwch hawlio am betrol yn lle hynny (a chostau parcio car os nad oes modd osgoi hynny) hyd at gost yr un daith ar gludiant cyhoeddus.

Dylai'r ysbyty ddweud wrthych beth yw'r gyfradd y filltir ar gyfer costau petrol ar gyfer cludiant preifat.

Os nad oes modd teithio ar gludiant cyhoeddus neu os yw'n anymarferol (efallai na allwch chi gyrraedd eich apwyntiad mewn pryd neu ei bod yn anodd i chi symud o fan i fan), dylech gysylltu â'r ysbyty'n ddigon buan cyn eich apwyntiad. Bydd angen iddynt sicrhau bod eich trefniadau teithio newydd yn dderbyniol.

Os ydych chi ar gynllun incwm isel y GIG, mae'n bosib y cewch chi'ch costau teithio i gyd yn ôl, neu beth ohonynt, a dibynnu ar ba dystysgrif gawsoch chi.

Sut i hawlio

Cewch hawlio'r arian yn ysbyty neu glinig y GIG adeg eich apwyntiad. Cewch eich talu'n syth gydag arian parod, ar yr amod eich bod yn dangos:

  • prawf eich bod yn derbyn budd-dal cymwys (er enghraifft llythyr yn dweud bod gennych hawl i'r budd-dal)
  • tystysgrif eithrio credyd treth (byddwch yn cael y dystysgrif hon fel mater o drefn os byddwch chi'n gymwys)
  • tystysgrif yn dangos eich bod yn gymwys ar gyfer cynllun cymorth incwm isel y GIG

Cynllun cymorth incwm isel y GIG

I wneud cais am gynllun cymorth incwm isel y GIG, rhaid i chi lenwi ffurflen HC1.

Cewch archebu ffurflen HC1 ar-lein, dros y ffôn, ffoniwch linell Gymorth Gwasanaethau i Gleifion y GIG, ar 0845 850 1166 (rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener - galwadau ar y gyfradd leol) neu mae hi ar gael hefyd gan y canlynol:

  • ysbytai'r GIG
  • swyddfeydd y Ganolfan Byd Gwaith
  • rhai meddygfeydd teulu, deintyddion ac optegwyr

Caiff eich ffurflen ei hasesu ac os oes gennych hawl i gael cymorth ariannol, fe gewch dystysgrif sy'n cadarnhau a fyddwch chi'n cael cymorth llawn neu rannol gyda'ch costau teithio i'r ysbyty.

Beth arall y mae angen i chi ei wybod

Hawliadau wedi'u hôl-ddyddio

Cewch hawlio help gyda chostau teithio am hyd at dri mis ar ôl eich apwyntiad, cyn belled ag y gallwch chi brofi eich bod yn gymwys i hawlio ar y pryd. I wneud hyn, rhaid i chi lenwi ffurflen hawlio ad-daliad (HC5), ac mae honno ar gael gan un o'r canlynol:

  • ysbytai'r GIG
  • swyddfeydd y Ganolfan Byd Gwaith
  • llinell Gymorth Gwasanaethau i Gleifion y GIG, ar 0845 850 1166 (rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener - galwadau ar y gyfradd leol)

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU