Mae'r rhan fwyaf o driniaethau dan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) am ddim, ond weithiau fe godir tâl am rai pethau. Efallai y cewch gymorth gyda chostau'r GIG, er enghraifft os ydych chi ar incwm isel.
Mae'n bosib y cewch chi help gyda chostau iechyd megis:
Mae'n bosib y cewch chi help gyda chostau os oes o leiaf un o'r canlynol yn berthnasol i chi.
Os ydych chi'n cael, neu wedi eich cynnwys, yn un o'r canlynol:
Mae'n bosibl y cewch hefyd help gyda chostau:
Os nad oes dim un o'r uchod yn berthnasol a'ch bod ar incwm isel, efallai y gallwch gael help gyda chostau drwy Gynllun Incwm Isel y GIG.
Bydd faint o help gewch chi'n dibynnu ar faint o incwm sydd gennych, ond efallai na fyddwch yn gymwys i gael help os yw'ch cynilion yn uwch na'r terfyniadau a ddangosir isod.
Ni allwch gael help:
Bydd angen i chi lenwi ffurflen HC1 gan swyddfa'r Ganolfan Byd Gwaith neu eich ysbyty GIG lleol. Mae'n bosibl y gallech gael ffurflen HC1 gan eich meddyg, eich deintydd neu'ch optegydd hefyd.
Gallwch gael ffurflen HC1 hefyd drwy gysylltu â llinell archebu Ffurflenni'r GIG ar 0845 610 1112 neu drwy anfon e-bost ar y cyfeiriad canlynol:
I gael gwybod mwy am sut i hawlio, cysylltwch â llinell gyngor Costau Iechyd ar 0845 850 1166.
Os bydd eich amgylchiadau'n newid, er enghraifft eich bod bellach yn 19 oed neu os nad ydych yn cael dim o'r budd-daliadau penodedig mwyach, mae'n bosibl na fydd gennych hawl i fudd-daliadau iechyd ychwaith.
Cysylltwch â llinell gyngor Costau Iechyd ar 0845 850 1166 i holi a ydych yn gymwys.
Os nad oes gennych hawl i bresgripsiynau am ddim a'ch bod yn meddwl y bydd yn rhaid i chi dalu am fwy na 3 eitem mewn 3 mis, neu 14 eitem mewn 12 mis, efallai y bydd yn rhatach i chi brynu tystysgrif i dalu am bresgripsiynau ymlaen llaw (PPC).
I gael mwy o wybodaeth, i wneud cais neu i wybod beth yw costau PPC, ewch i wefan Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG neu ffoniwch llinell gyngor PPC ar 0845 850 0030.
I gael rhagor o wybodaeth am gostau'r GIG yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, gallwch lwytho llyfryn HC11 oddi ar wefan yr Adran Iechyd.
I gael rhagor o gyngor ynghylch cael help gyda chostau iechyd, ffoniwch llinell gyngor Costau Iechyd ar 0845 850 1166 neu cysylltwch â'ch canolfan Cyngor Ar Bopeth (CAB) leol.