Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Tâl Salwch Statudol – dweud wrth eich cyflogwr eich bod yn sâl a darparu tystiolaeth

Cyn y gall eich cyflogwr benderfynu ar eich hawl i gael Tâl Salwch Statudol (SSP), mae’n rhaid i chi ddweud wrthynt eich bod yn sâl. Byddwch hefyd angen darparu rhyw fath o dystiolaeth feddygol i’ch cyflogwr.

Rhoi gwybod i’ch cyflogwr eich bod yn sâl

Efallai bod gan eich cyflogwr eu rheolau eu hunan ynglŷn â phryd a sut rydych yn dweud wrthynt eich bod yn sâl a dylent ddweud wrthych beth ydynt. Gofynnwch i'ch cyflogwr os nad ydych yn gwybod. Nid oes rhaid i’ch cyflogwr dalu SSP am unrhyw ddyddiad cyn rydych yn dweud wrthynt os nad ydych yn dilyn y rheolau hyn.

Os nad oes gan eich cyflogwr eu rheolau eu hunan, dylech ddweud wrth eich cyflogwr o fewn saith diwrnod o’r dyddiad cyntaf rydych yn sâl. Os byddwch n oedi dweud wrth eich cyflogwr nid oes rhaid iddynt dalu SSP am unrhyw ddyddiau cyn i chi ddweud wrthynt.

Fodd bynnag ni all eich cyflogwr fynnu eich bod yn dweud wrthynt:

  • yn bersonol
  • yn gynharach na’r dyddiad cymhwyso cyntaf neu erbyn amser penodol
  • ar ffurflen arbennig
  • ar ddatganiad meddyg, sydd fel arfer yn cael ei alw’n bapur doctor
  • mwy nag unwaith yr wythnos yn ystod eich salwch

Tystiolaeth eich bod yn sâl

Bydd eich cyflogwr yn gofyn am dystiolaeth eich bod yn sâl. Bydd hyn mewn ffurf datganiad meddygol gan eich meddyg, sydd fel arfer yn cael ei alw’n bapur doctor.

Ni all eich cyflogwr ofyn i chi ddarparu papur doctor am y saith diwrnod cyntaf rydych yn sâl. Efallai y byddant yn gofyn i chi lenwi hunandystiad eu hunan neu ffurflen SC2 sydd ar gael o’ch meddygfa, neu ar wefan Cyllid a Thollau EM.

Os byddwch yn sâl am fwy na saith diwrnod bydd angen i chi ofyn i’ch meddyg am bapur doctor ar gyfer eich cyflogwr.

Derbyn tystiolaeth feddygol

Mae hi i fyny i’ch cyflogwr i benderfynu os ydych yn analluog i weithio. Mae papur doctor gan eich meddyg yn dystiolaeth gref eich bod yn sâl ac fel arfer bydd yn cael ei dderbyn, oni bai bod tystiolaeth i brofi fel arall.

Gallech hefyd ddarparu papur doctor gan rywun sydd ddim yn ymarferydd meddygol, e.e. deintydd. Bydd eich cyflogwr yn penderfynu os yw’r dystiolaeth hyn yn dderbyniol neu beidio. Os oes gan eich cyflogwr unrhyw amheuon, gallent ddal i ofyn am nodyn gan eich Meddyg Teulu.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU