Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Taliadau Statudol – os credwch fod penderfyniad eich cyflogwr yn anghywir

Os credwch fod penderfyniad eich cyflogwr i beidio â thalu Tâl Salwch Statudol yn anghywir, gofynnwch iddo. Dylech hefyd ofyn iddo roi’r rheswm i chi yn ysgrifenedig.

Gofyn i’ch cyflogwr am esboniad

Os credwch fod penderfyniad eich cyflogwr i beidio â’ch talu, peidio â thalu digon i chi neu beidio â’ch talu pan y dylai fod wedi yn anghywir, gofynnwch am esboniad ganddo.

Mae’n rhaid i chi ofyn i’ch cyflogwr cyn gynted â phosib a dylai esbonio’r rhesymau yn ysgrifenedig. Gall siarad â’ch cyflogwr yn gyntaf helpu i ddatrys unrhyw broblemau.

Os na allwch chi a’ch cyflogwr gytuno

Os na allwch chi a’ch cyflogwr gytuno ar eich taliadau, gallwch ofyn i Gyllid a Thollau EM am gyngor.

Mae Cyllid a Thollau EM yn sicrhau bod cyflogwyr yn talu'r hyn y mae gennych hawl i’w gael ar gyfer Tâl Mabwysiadu Statudol, Tâl Mamolaeth Statudol, Tâl Tadolaeth Statudol a Thâl Salwch Statudol.

Gallwch gysylltu â llinell gymorth i gyflogeion Cyllid a Thollau EM ar 0845 302 1479. Bydd yn eich helpu i ddeall y rheolau ar gyfer taliadau, gan ystyried eich amgylchiadau arbennig.

Ar ôl siarad â llinell gymorth i gyflogeion Cyllid a Thollau EM, gallech fynd a’ch achos ymhellach. Os gwnewch hynny, bydd tîm y llinell gymorth i gyflogeion yn rhoi rhif ffôn Tîm Anghydfodau Taliadau Statudol Cyllid a Thollau EM i chi gofnodi eich anghydfod â hwy.

Cofnodi anghydfod â Chyllid a Thollau EM

Os penderfynwch gofnodi anghydfod, bydd angen i chi roi’r wybodaeth ganlynol:

  • eich enw llawn, cyfeiriad, dyddiad geni a’ch rhif Yswiriant Gwladol
  • enw, cyfeiriad a manylion cyswllt eich cyflogwr

Bydd angen i chi hefyd esbonio'r hyn a ddigwyddodd ar ôl penderfyniad eich cyflogwr, gan gynnwys unrhyw ddyddiadau perthnasol. Efallai y gofynnir i chi anfon copïau o unrhyw lythyrau gan eich cyflogwr.

Cofiwch, mae’n rhaid i chi siarad â’ch cyflogwr am pam nad yw wedi eich talu, neu heb dalu’r swm cywir, a cheisio datrys y broblem cyn ysgrifennu at Gyllid a Thollau EM.

Terfynau Amser

Mae’n rhaid i chi gofnodi eich anghydfod gyda’r Tîm Anghydfodau o fewn chwe mis i’r dyddiad cyntaf y byddech wedi bod yn gymwys i gael taliad.

Beth allwch ei ddisgwyl gan Dîm Anghydfodau Cyllid a Thollau EM

Bydd y Tîm Anghydfodau yn ceisio datrys y broblem drwy ffonio eich cyflogwr. Os na all wneud hynny, bydd yn ysgrifennu at eich cyflogwr am wybodaeth i’w helpu gyda’r benderfyniad. Byddant efallai hefyd yn ysgrifennu atoch os bydd angen mwy o wybodaeth arnynt.

Os yw eich anghydfod ynglŷn â Thâl Salwch Statudol

Os nad yw eich cyflogwr yn credu eich bod yn sâl, hyd yn oed os oes gennych dystiolaeth feddygol gan eich meddyg, efallai y bydd angen i chi gael prawf meddygol a drefnir drwy Gyllid a Thollau EM cyn y gwneir penderfyniad. Caiff ei gynnal gyda’ch caniatâd.

Beth fydd yn digwydd ar ôl i Gyllid a Thollau EM gwneud penderfyniad

Os byddwch chi a’ch cyflogwr yn cytuno ar y penderfyniad a wneir gan Gyllid a Thollau EM, dylai eich cyflogwr eich talu erbyn eich diwrnod talu nesaf. Os byddwch chi neu’ch cyflogwr yn anghytuno â’r penderfyniad, bydd yn rhaid i chi roi eich rhesymau i Gyllid a Thollau EM o fewn 14 diwrnod i’r penderfyniad. Trosglwyddir yr achos i Swyddog Penderfyniadau Cyllid a Thollau EM i ystyried yr achos ac i gyhoeddi penderfyniad ffurfiol.

Bydd gennych chi a’ch cyflogwr yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad ffurfiol hwn. Yn ôl y gyfraith y cyfnod apelio yw 30 diwrnod. Os bydd un ohonoch yn apelio, ni chaiff taliad ei wneud nes y gwrandawir ar yr apêl.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y broses apelio ar wefan Cyllid a Thollau EM.

Taliadau a budd-daliadau eraill yn ystod y broses anghydfod

Os bydd eich cyflogwr yn gwrthod talu taliad statudol i chi a’ch bod wedi cofnodi eich anghydfod â Chyllid a Thollau EM, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am Gymhorthdal Incwm. Bydd y rheolau arferol o ran gwneud cais am Gymhorthdal Incwm yn gymwys wrth i Gyllid a Thollau EM archwilio eich achos.

Efallai y byddwch hefyd yn gallu gwneud cais am Fudd-dal Tai a/neu Fudd-dal Treth Cyngor.

Rhagor o gyngor a help am daliadau statudol

Gall rhai sefydliadau cynnig help a chyngor am daliadau statudol. Yn eu plith mae:

  • Y Ganolfan Cyngor ar Bopeth
  • Canolfan cyfreithiol
  • Cyfreithwyr
  • Undebau llafur

Allweddumynediad llywodraeth y DU