Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Y Cynllun Ffrynt Cynnes yn Lloegr

Os oes angen help arnoch i dalu am wella system gwresogi ac insiwleiddio eich cartref, boed hwnnw'n eiddo preifat i chi, neu'n eiddo ar rent, mae'n bosibl y gallwch chi, eich partner neu eich partner sifil gael arian gan gynllun grantiau Ffrynt Cynnes y llywodraeth os, er enghraifft, rydych chi'n derbyn incwm neu fudd-daliadau sy'n gysylltiedig ag anabledd.

Pwy sy'n gymwys?

Efallai y cewch grant Ffrynt Cynnes os yw un o'r canlynol yn berthnasol i chi:

1. Rydych yn cael un neu fwy o'r budd-daliadau canlynol:

  • Credyd Treth Gwaith (gydag incwm llai na £15,460 a rhaid i hynny gynnwys elfen anabledd)
  • Credyd Treth Plant (gydag incwm llai na £15,460)
  • Lwfans Gweini
  • Lwfans Byw i'r Anabl
  • Cymhorthdal Incwm (rhaid i hynny gynnwys premiwm anabledd)
  • Budd-dal Tai (rhaid i hynny gynnwys premiwm anabledd)
  • Budd-dal Treth Gyngor (rhaid i hynny gynnwys premiwm anabledd)
  • Pensiwn Anabledd Rhyfel (a rhaid i hynny gynnwys atodiad symudedd neu Lwfans Gweini Cyson)
  • Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol (a rhaid i hynny gynnwys Lwfans Gweini Cyson)

2. Mae gennych blentyn dan 16 neu rydych chi'n feichiog ac mae gennych dystysgrif mamolaeth MAT B1 ac yn cael unrhyw un o'r canlynol:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Budd-dal Treth Gyngor
  • Budd-dal Tai
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
  • Credyd Pensiwn (elfennau Cynilion neu Warant)

3. Rydych chi'n 60 oed neu'n hŷn ac yn cael unrhyw un o'r canlynol:

  • Credyd Pensiwn (elfennau Cynilion neu Warant)
  • Budd-dal Treth Gyngor
  • Budd-dal Tai
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm

4. Nid ydych yn derbyn unrhyw fudd-daliadau

Efallai y bydd gennych hawl i gael grant Ffrynt Cynnes hyd yn oed os nad ydych chi'n cael unrhyw fudd-daliadau cymwys eto. Cynhelir archwiliad i weld a ydych yn gymwys i gael budd-daliadau, ac felly, grant Ffrynt Cynnes.

Faint fyddwch chi'n ei gael?

£2,700 neu hyd at £4,000 os oes angen gwres canolog olew yn eich cartref.

Sut mae'n gweithio

Bydd peiriannydd penodedig Ffrynt Cynnes yn cwblhau arolwg technegol o'r gwaith sydd ei angen ar gyfer system wresogi bresennol eich tŷ.

Er enghraifft, os oes angen boeler newydd yn eich tŷ, gwneir y gwaith o fewn chwech i wyth mis i'r arolwg technegol.

Ni fydd rhaid i chi dalu dim ar yr amod nad yw'r gwaith yn costio mwy na'r grant.

Dan rai amgylchiadau, mae'n bosib y bydd rhaid i chi gyfrannu at gost y gwaith, ond lle bynnag y bo modd, bydd y cynllun yn ceisio talu'r costau hyn.

Beth allwch chi ei wneud gyda'r grant hwn

Mae'r grant Ffrynt Cynnes yn darparu ar gyfer gwella systemau insiwleiddio a gwresogi, gan ddibynnu ar eich anghenion a'r eiddo rydych chi'n byw ynddo. Mae'r pecyn yn cynnwys:

Insiwleiddio

  • insiwleiddio atig
  • atal drafft
  • insiwleiddio wal geudod
  • insiwleiddio tanc dŵr poeth

Systemau gwres

  • gwresogyddion nwy gyda thermostat i'w rheoli
  • gwres canolog nwy, trydan neu olew
  • troi tân glo agored yn dân modern â wyneb gwydr
  • amseryddion ar wresogyddion trydan i gynhesu ystafelloedd a dŵr

Mesurau eraill

  • cyngor am ynni
  • dau fwlb golau ynni isel

Sut mae gwneud cais

Gallwch gael gwybod a ydych chi'n gymwys ar gyfer grant Ffrynt Cynnes dros y ffôn.

Bydd angen i chi lenwi ffurflen gais cyn i Ymgynghorydd Ynni Cartref ymweld â chi i asesu ac argymell gwaith ar gyfer eich tŷ.

Gallwch ffonio Partneriaeth Eaga, Rheolwr y Cynllun Ffrynt Cynnes ar rhadffôn 0800 316 2805, ffôn testun 0800 072 0156 (rhwng 8.00 am a 6.00 pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener).

Mae Grantiau Ffrynt Cynnes ar gael yn Lloegr yn unig. Yng Nghymru, mae'r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref (HEES Cymru) yn rhoi grantiau i wneud cartrefi pobl yn gynhesach, yn fwy ynni-effeithlon a mwy diogel.

Additional links

Cadw eich cartref

Cael cyngor am gynlluniau cymorth morgais a chymorth eraill

Arbed Arian
Arbed Ynni

LLEIHAU’CH CO2 - canfod dulliau hawdd i arbed arian ac ynni

Peidiwch â chael eich cnoi...

A ydych chi wedi cael cynnig benthyciad gan siarcod benthyg? Gallwch roi gwybod am fenthycwyr sydd heb drwydded

Allweddumynediad llywodraeth y DU