Os oes angen help arnoch i dalu'r dreth gyngor pan fydd budd-daliadau penodol eraill yn dod i ben am eich bod yn dychwelyd i'r gwaith, yn gweithio mwy o oriau neu'n ennill mwy o arian, efallai y bydd modd i chi gael Budd-dal y Dreth Gyngor am bedair wythnos yn ychwanegol.
Erbyn hyn, does dim rhaid i chi hawlio Budd-dal y Dreth Gyngor am gyfnod Estynedig os ydych chi neu'ch partner neu'ch partner sifil (a'u bod yn dal yn bartner i chi drwy gydol yr hawliad) wedi rhoi'r gorau i gael un o'r budd-daliadau a grybwyllir isod gan fod disgwyl i un ohonoch wneud un o'r canlynol am bum wythnos neu ragor:
a'ch bod wedi bod yn cael un o'r canlynol
neu
ac
Fel arfer, fe gewch yr un faint o Fudd-dal y Dreth Gyngor ag yr oeddech chi'n ei gael cyn i'ch Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, eich Cymhorthdal Incwm, eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm, eich Budd-dal Analluogrwydd, eich Lwfans Anabledd Difrifol neu'ch Lwfans Cyflogaeth a Chymorth cyfrannol ddod i ben.
Caiff ei dynnu oddi ar eich bil Treth Gyngor yn y ffordd arferol.
Pan fydd eich Cymhorthdal Incwm, eich Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm neu'ch Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm yn dod i ben gan eich bod yn dechrau gweithio neu gan fod eich amgylchiadau'n newid, bydd eich cyngor lleol yn edrych i weld ers faint yr ydych wedi bod yn eu cael.
Pan fydd eich Budd-dal Analluogrwydd, eich Lwfans Anabledd Difrifol neu'ch Lwfans Cyflogaeth a Chymorth cyfrannol yn dod i ben am eich bod yn dechrau gweithio neu am fod eich amgylchiadau'n newid, bydd eich cyngor lleol yn edrych i weld ers faint yr ydych chi wedi bod yn eu cael.
Yn y naill sefyllfa neu'r llall, eich cyngor lleol fydd yn penderfynu a oes gennych hawl i gael taliadau estynedig ai peidio.
Bydd eich cyngor lleol yn ystyried a oes gennych hefyd hawl i Fudd-dal y Dreth Gyngor mewn gwaith. Ar ôl i chi gael y tâl am y cyfnod estynedig, bydd modd i chi gael Budd-dal y Dreth Gyngor mewn gwaith (ar yr amod bod gennych hawl iddo) heb orfod gwneud hawliad newydd.
Os gwrthodir Budd-dal y Dreth Gyngor neu'r Taliad Estynedig i chi, gallwch ofyn i'r cyngor lleol ailedrych ar y penderfyniad.
Os ydych chi'n dal yn anhapus gyda'r canlyniad, gallwch apelio i Dribiwnlys Apêl annibynnol.
A ydych chi wedi cael cynnig benthyciad gan siarcod benthyg? Gallwch roi gwybod am fenthycwyr sydd heb drwydded