Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Bonws Nadolig

Mae'n bosib y gallwch gael Bonws Nadolig, y taliad untro di-dreth o £10 a delir cyn y Nadolig.

Pwy sy’n gymwys?

I gael Bonws Nadolig, rhaid i chi fod yn byw yn y DU, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, Gibraltar neu yn unrhyw un o wledydd eraill AEE, neu'r Swistir a bod gennych hawl i o leiaf un o'r budd-daliadau isod yn ystod wythnos lawn gyntaf mis Rhagfyr:

  • Lwfans Gweini
  • Lwfans Gweini Cyson
  • Lwfans Byw i’r Anabl
  • Budd-dal Analluogrwydd ar y gyfradd tymor hir
  • Budd-dal Marwolaeth Ddiwydiannol
  • Lwfans Gofalwr
  • Atodiad Symudedd
  • Credyd Pensiwn – elfen gwarant
  • Pensiwn y Wladwriaeth (yn cynnwys Pensiwn Graddedig)
  • Lwfans Anabledd Difrifol
  • Atodiad neu Lwfans i'r Anghyflogadwy
  • Pensiwn Anabledd Rhyfel os ydych chi'n 65 oed neu'n hŷn
  • Pensiwn Rhyfel Gŵr neu Wraig Weddw
  • Pensiwn Gwraig Weddw
  • Lwfans Mam Weddw
  • Lwfans Rhiant Gweddw

Faint fyddwch chi'n ei gael?

Taliad untro o £10 yw'r Bonws Nadolig.

Os ydych chi'n un o bâr priod neu ddibriod neu bartneriaeth sifil a bod gan y ddau ohonoch yr hawl i un o'r budd-daliadau perthnasol, bydd y ddau ohonoch yn derbyn taliad Bonws Nadolig.

Bydd eich partner neu'ch partner sifil hefyd yn cael bonws os bydd y ddau bwynt canlynol yn berthnasol:

  • bod y ddau ohonoch dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth erbyn y dydd Llun cyntaf ym mis Rhagfyr
  • bod eich partner neu'ch partner sifil hefyd yn byw yn y DU, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, Gibraltar, mewn gwlad AEE neu yn y Swistir am yr wythnos lawn gyntaf ym mis Rhagfyr

a naill ai

  • bod gennych yr hawl i gynnydd mewn budd-dal cymwys ar gyfer eich partner neu'ch partner sifil

neu

  • yr unig fudd-dal cymwys rydych chi'n ei gael yw'r Credyd Pensiwn

Sut mae'n cael ei dalu

Fel arfer, telir y Bonws Nadolig yn syth i'ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu, Swyddfa'r Post® neu Gynilion Cenedlaethol sy'n derbyn Taliad Uniongyrchol.

Os ydych wedi'ch cofrestru'n ddall, neu os oes angen i'r sawl sy'n gofalu amdanoch gasglu'ch arian, anfonir siec atoch y gellir ei chyfnewid am arian yn Swyddfa'r Post®.

Yr effaith ar fudd-daliadau

Chaiff y Bonws Nadolig ddim effaith ar eich budd-daliadau eraill.

Sut i wneud cais

Does dim angen i chi hawlio'r Bonws Nadolig - fe'i cewch fel mater o drefn. Os ydych chi'n meddwl eich bod yn gymwys i gael y taliad ond nad ydych wedi'i dderbyn, holwch yn eich Canolfan Byd Gwaith neu'r ganolfan bensiwn sy'n delio â'ch taliadau.

Additional links

Cyfryngu Teuluol

Angen cymorth i ddatrys anghydfod o fewn y teulu? Ffoniwch 0845 60 26 627

Allweddumynediad llywodraeth y DU