Os nad oes modd i chi weithio'n amser llawn ac os nad oes gennych chi ddigon o arian i fyw, mae'n bosibl y gallwch chi gael budd-dal Cymhorthdal Incwm. Eich amgylchiadau fydd yn penderfynu a fyddwch chi'n gymwys ai peidio a faint gewch chi.
Mae'n bosibl y byddwch chi'n gallu cael Cymhorthdal Incwm os ydych chi rhwng 16 a 59 a bod unrhyw un o'r canlynol yn berthnasol:
a bod y canlynol yn berthnasol:
Mae'n bosibl y byddwch yn gymwys i gael Cymhorthdal Incwm hefyd os yw eich incwm yn isel ac:
I gael gwybod a ydych chi'n gymwys i gael Cymhorthdal Incwm, cysylltwch â'ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith (neu'ch swyddfa fudd-daliadau leol).
Petai'n well gennych, fe allech siarad ag un o gynghorwyr y Ganolfan Cyngor ar Bopeth.
Os byddwch chi'n gweithio mwy na 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd, neu fod gennych bartner neu bartner sifil sy'n gweithio 24 awr neu fwy yr wythnos ar gyfartaledd, fe arfer, fyddwch chi ddim yn gallu hawlio Cymhorthdal Incwm.
Bydd faint o Gymhorthdal Incwm gewch chi'n amrywio yn ôl eich amgylchiadau fel unigolyn. Dyma rai o'r ffactorau sy'n gallu effeithio ar faint gewch chi:
Caiff y Cymhorthdal Incwm ei dalu'n syth i'ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu, Swyddfa'r Post® neu Gynilion Cenedlaethol sy'n derbyn Taliad Uniongyrchol.
Ond mae'n bosib i chi gael siec i'w chyfnewid yn Swyddfa'r Post® os na allwch chi agor neu reoli cyfrif.
Os oes gennych hawl i i gael Cymhorthdal Incwm, byddwch yn gymwys fel mater o drefn i gael:
Holwch eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith agosaf sut mae hawlio Cymhorthdal Incwm.
Neu gallwch hawlio ar-lein, isod.
Ar ôl i chi siarad â swyddog, bydd hwnnw/honno'n eich ffonio chi'n ôl i drefnu apwyntiad i chi weld asesydd ariannol a chynghorydd personol.
Bydd yr asesydd ariannol yn sicrhau eich bod wedi rhoi'r holl wybodaeth sydd ei hangen i gefnogi'ch hawliad cyn i chi gael cyfweliad gyda phwyslais ar waith â'r cynghorydd personol, a fydd yn eich helpu i ddod o hyd i waith.
Soniwch wrth eich swyddfa Canolfan Byd Gwaith neu'ch swyddfa fudd-daliadau cyn gynted ag y bydd unrhyw un o'r canlynol yn berthnasol:
Os gwrthodwyd Cymhorthdal Incwm i chi neu os ydych chi'n meddwl eich bod wedi derbyn y swm anghywir, gallwch ofyn i'r swyddfa a fu'n delio gyda'ch hawliad ailystyried eu penderfyniad.
Os ydych chi'n dal i fod yn anhapus gyda'r canlyniad, gallwch apelio drwy lenwi taflen GL24 'Os credwch fod ein penderfyniad yn anghywir'.