Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Benthyciadau Argyfwng

Os os angen help ariannol arnoch adeg argyfwng neu drychineb, mae'n bosib y gallech chi gael Benthyciad Argyfwng; benthyciad di-log gan y Gronfa Gymdeithasol y bydd angen i chi ei dalu'n ôl.

Pwy sy'n gymwys?

Gallwch wneud cais am Fenthyciad Argyfwng os bydd y canlynol i gyd yn berthnasol:

  • rydych yn 16 oed neu’n hŷn
  • nid oes gennych ddigon o arian i ddiwallu eich anghenion chi (neu’ch teulu) yn y tymor byr mewn argyfwng neu o ganlyniad i drychineb
  • heb y benthyciad, y gwneir niwed difrifol neu fod risg ddifrifol i'ch iechyd neu'ch diogelwch (neu i iechyd neu ddiogelwch eich teulu)

neu os bydd y canlynol i gyd yn berthnasol:

eich bod yn 16 oed neu’n hŷn a'ch bod:

  • wedi bod yn derbyn Grant Gofal yn y Gymuned ond eich bod yn gadael llety sefydliadol neu lety preswyl ac nad oes gennych ddigon o arian i dalu rhent ymlaen llaw i landlord nad yw'n landlord awdurdod lleol

Faint fyddwch chi'n ei gael?

Nid oes swm penodol wedi'i bennu ar gyfer Benthyciad Argyfwng. Bydd y swm y gallech ei fenthyg yn dibynnu ar y canlynol:

  • eich amgylchiadau fel unigolyn
  • unrhyw gynilion sydd gennych
  • a ydych chi wedi cael benthyg arian gan y Gronfa Gymdeithasol o'r blaen

Sut mae'n cael ei dalu

Fel arfer, telir y benthyciad yn syth i'ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu ddarparwr cyfrif arall yr ydych wedi enwebu.

Sut ydych chi'n ei dalu'n ôl?

Os byddwch yn gymwys i gael Benthyciad Argyfwng bydd angen i chi gytuno sut y byddwch chi'n ei dalu'n ôl.

Bydd cynghorydd yn eich Canolfan Byd Gwaith yn trafod y peth gyda chi a byddwch chi'n cytuno ar gynllun talu'n ôl y gallwch ei fforddio. Os ydych chi'n derbyn budd-dal, fel arfer byddwch chi'n ad-dalu'r benthyciad bob wythnos o daliadau'ch budd-dal.

Does dim rhaid i chi dalu llog ar Fenthyciad Argyfwng. Mae hyn yn golygu mai dim ond y swm rydych chi wedi ei fenthyg y byddwch chi'n ei dalu'n ôl.

Yr effaith ar fudd-daliadau eraill

Nid yw Benthyciad Argyfwng yn cyfri fel incwm ac ni fydd yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau eraill a gewch.

Sut i wneud cais

Cysylltwch â Chanolfan Byd Gwaith i wneud cais am Fenthyciad Argyfwng.

Llwytho ffurflen Benthyciad Argyfwng oddi ar y we i'w hargraffu a'i llenwi

Neu fe allwch lwytho'r ffurflen Benthyciadau Argyfwng oddi ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Mae nodiadau gyda'r ffurflen i'ch helpu i'w llenwi ac anfon y ffurflen wedyn.

Sut i apelio

Os ydych chi'n anhapus gyda phenderfyniad Benthyciad Argyfwng mae gennych chi'r hawl i i ofyn am adolygiad. Mae’n rhaid i chi ysgrifennu at Ganolfan Byd Gwaith o fewn 28 diwrnod i'r penderfyniad yn esbonio iddynt pam yr oeddech yn meddwl fod y penderfyniad yn anghywir a gofyn iddyn nhw ailystyried.

Os ydych chi'n dal yn anhapus gyda'r canlyniad, gallwch ofyn am adolygiad pellach gan un o Arolygwyr y Gronfa Gymdeithasol. Mae'r broses adolygu'n gyflym ac yn rhwydd, ac ni ddylai gymryd mwy na 12 diwrnod.

Gallwch lwytho'r daflen a'r ffurflen hawlio, 'Sut mae gofyn am adolygiad annibynnol' oddi ar wefan y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol.

Additional links

Cadw eich cartref

Cael cyngor am gynlluniau cymorth morgais a chymorth eraill

Arbed Arian
Arbed Ynni

LLEIHAU’CH CO2 - canfod dulliau hawdd i arbed arian ac ynni

Peidiwch â chael eich cnoi...

A ydych chi wedi cael cynnig benthyciad gan siarcod benthyg? Gallwch roi gwybod am fenthycwyr sydd heb drwydded

Allweddumynediad llywodraeth y DU