Os ydych chi'n wynebu problemau cyfreithiol neu os cawsoch eich cyhuddo o drosedd a chithau'n methu fforddio talu am gyngor cyfreithiol, mae'n bosib y gallech gael Cymorth Cyfreithiol gan y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol.
Gwasanaeth cyfrinachol a di-dâl a ariennir gan y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol yw'r gwasanaeth Cyngor Cyfreithiol Cymunedol. Mae'n cynnig cymorth a chyngor mewn perthynas â’r materion canlynol:
Os oes angen help arbenigol arnoch, gallwch ddefnyddio'r cyfrifiannell ar-lein ar wefan y gwasanaeth Cyngor Cyfreithiol Cymunedol i gyfrifo a ydych chi'n debygol o fod yn ariannol gymwys i gael cymorth cyfreithiol.
Hyd yn oed os na fyddwch chi'n gymwys i gael cymorth ariannol, gallwch gael gwybodaeth gyffredinol, gan gynnwys taflenni sy'n rhoi cyngor, am ddim ar y wefan.
Pan fyddwch yn gwneud cais am Gymorth Cyfreithiol, bydd yn rhaid i chi hefyd gymryd prawf sy'n edrych ar deilyngdod eich achos. Gall twrneiod neu gynghorwyr sydd â nod ansawdd y gwasanaeth Cyngor Cyfreithiol Cymunedol (sydd hefyd wedi'u rhestru ar y wefan) gadarnhau hyn i chi.
Allwch chi ddim cael arian cyhoeddus rhagor ar gyfer y rhan fwyaf o achosion sy'n ymwneud ag anafiadau personol. Os ydych chi am ddechrau achos anaf personol, fel arfer bydd yn rhaid i chi wneud hynny ar sail amodol ('dim ennill, dim ffi').
Ond mae arian cyhoeddus yn dal ar gael ar gyfer rhai achosion anafiadau personol sy'n gymhleth ac yn ddrud.
Er mwyn gwneud cais am help gan y gwasanaeth Cyngor Cyfreithiol Cymunedol, bydd angen i chi ymweld â thwrnai neu gynghorydd sydd â nod ansawdd y gwasanaeth.
Fe welwch restr o'r twrneiod a'r cynghorwyr hyn sydd yn eich ardal yn y cyfeiriadur ar wefan y gwasanaeth Cyngor Cyfreithiol Cymunedol. Neu gallwch gysylltu â llinell gymorth Cyngor Cyfreithiol Cymunedol ar 0845 345 4 345, Typetalk 180 010 8453 454 345.
Os yw'r heddlu'n ymchwilio i rywbeth a wnaethoch neu os ydych chi'n wynebu cyhuddiadau troseddol, mae gennych hawl i gael cyngor cyfreithiol a gwrandawiad teg ac fe allwch gael help gan y Gwasanaeth Amddiffyn Troseddol.
Yn dibynnu ar eich adnoddau, efallai y gofynnir i chi gyfrannu at gost eich achos. Bydd disgwyl i chi hefyd ddefnyddio unrhyw eiddo a enillwch neu a gadwch o ganlyniad i'r cymorth a gewch i dalu am eich achos.